Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: 01792 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - R Broad - Yr Agenda yn ei chyfanrwydd - Mae fy
chwaer yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac yn
aelod o'r Gronfa - Personol. I Guy – yr Agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac chyfrannu tuag
at Prudential AVC’s – personol. Y Cynghorydd A
Lockyer – yr Agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol – personol. Mae fy ngwraig a'm mab
hefyd yn aelodau o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. Swyddogion: K Cobb – yr Agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Dong – yr Agenda yn
ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. S Williams – yr
Agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse – yr Agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - R Broad - Yr Agenda yn ei chyfanrwydd - Mae fy
chwaer yn gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ac yn
aelod o'r Gronfa - Personol. I Guy – yr Agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac chyfrannu tuag
at Prudential AVC’s – personol. Y Cynghorydd A
Lockyer – yr Agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol – personol. Mae fy ngwraig a'm mab
hefyd yn aelodau o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. Swyddogion: K Cobb – yr Agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Dong – yr Agenda
yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. S Williams – yr
Agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. J Parkhouse – yr Agenda yn ei chyfanrwydd – Aelod o'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel
cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn Lleol a gynhaliwyd ar 23 Medi 2021 a’u llofnodi fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad ISA 260. (Er gwybodaeth) PDF 824 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy
Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy
Swyddog A151 adroddiad ISA 260 annibynnol yr Archwiliwr Allanol. Amlygwyd bod yr adroddiad archwilio
diamod yn crynhoi prif ganfyddiadau'r archwiliad o
gyfrifon 2020-21. Ychwanegwyd bod llai o faterion i’w nodi nag mewn blynyddoedd blaenorol ac eglurodd
y materion mewn perthynas â’r materion o bwys a amlinellwyd
yn Arddangosyn 2. Cafodd y Bwrdd ei ddiweddaru hefyd
mewn perthynas â Prudential, darparwr
diofyn Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) yng Nghymru. Diolchodd y Cadeirydd i'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 am yr adroddiad a chanmolodd
Karen Cobb, Uwch Gyfrifydd a staff Cyllid am eu holl waith. Penderfynwyd cymeradwyo'r Adroddiad Archwilio Cyfrifon. |
|
Adroddiad am doriadau. (Er gwybodaeth) PDF 374 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy
Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy
Swyddog A151 adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn cyflwyno unrhyw doriadau a oedd wedi digwydd yn y
cyfnod yn unol â’r Polisi Adrodd
ar Doriadau. Roedd Atodiad A yn rhoi manylion yr achosion o dorri rheolau a oedd wedi digwydd ers y Bwrdd Pensiwn Lleol blaenorol ym mis Medi 2021. Amlygwyd manylion y toriadau a'r camau a gymerwyd gan y Rheolwyr. |
|
Y Diweddaraf am y Polisi - Gordaliad Pensiwn. (Er gwybodaeth) PDF 214 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy
Swyddog A151 adroddiad ‘er gwybodaeth’ ar y Polisi Gordalu
Pensiynau a gymeradwywyd gan Bwyllgor y Gronfa
Bensiwn ar 17 Tachwedd 2021. Nododd y byddai’r Polisi’n cael ei ddefnyddio fel ‘canllaw arfer da’ ac y byddai pob achos yn cael ei drin yn ôl ei rinweddau. |
|
Adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd. (Er gwybodaeth) PDF 483 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy
Swyddog A151 adroddiad ‘er gwybodaeth’ i osod a monitro
amcanion mesuradwy ar gyfer
ymgynghorwyr buddsoddi penodedig
yn unol â gofynion y CMA. Amlinellwyd amcanion a nodwyd gan yr Ymgynghorwyr Buddsoddi a’u cynnydd yn erbyn yr un peth yn Atodiad 1. Ychwanegwyd bod yr amcanion yn destun adolygiad cyfnodol gan y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid. |
|
Diweddariad Gweinyddiaeth Pensiwn. (Er gwybodaeth) PDF 210 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy
Swyddog A151 adroddiad ‘er gwybodaeth’, a gymeradwywyd
gan Bwyllgor y Gronfa Bensiwn ar 17 Tachwedd 2021, yn unol
â’r statud, i ddiweddaru Polisi Disgresiwn
yr Awdurdod Gweinyddu Cymwys a Pholisi Gweinyddu
Pensiynau. Ychwanegwyd y byddai Polisi Disgresiwn yr Awdurdod Gweinyddol
yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Bwrdd. Nododd y Bwrdd y sefyllfa
barhaus o ran taliadau hwyr gan gyflogwyr. Mynegodd y Cadeirydd, ar ran y Bwrdd, ddiolch y Bwrdd i'r Rheolwr Pensiynau a'i thîm am eu holl waith caled. |
|
Adroddiad Sero-ned. (Er gwybodaeth) PDF 248 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy
Swyddog Adran 151 adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn ystyried y goblygiadau ac yn nodi’r dyddiad targed a’r fethodoleg briodol i gyflawni portffolio buddsoddi carbon net sero
yng Nghronfa Bensiwn Dinas
a Sir Abertawe. Ychwanegwyd bod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn wedi cymeradwyo’r canlynol ar 17 Tachwedd 2021:- a) Ymrwymiad i gyflawni safle di-garbon net yn ei bortffolio buddsoddi erbyn 2037; b) Byddai mabwysiadu Credoau Buddsoddi Cyfrifol y
Gronfa fel yr amlinellwyd yn Atodiad
1, yn sail i gamau gweithredu'r
Gronfa ar risg hinsawdd; c) Camau gweithredu hinsawdd y Gronfa sy’n
cael eu datblygu
ar draws tri maes allweddol (‘3-dimensiwn’) i roi mwy o gydbwysedd rhwng: 1. Carbon a metrigau ESG eraill (yn ôl ac ymlaen). 2. Cyfleoedd a fyddai'n elwa o'r newid i economi carbon is. 3. Gweithgareddau ymgysylltu sy'n canolbwyntio ar yr hinsawdd, ac annog arfer gorau
ymhlith rheolwyr cronfeydd, cwmnïau buddsoddi a buddsoddwyr eraill. Nododd y Bwrdd y cynnydd a wnaed
a phwysleisiodd yr angen am
y targedau gosod i'w bodloni. Cydnabuwyd y byddai'r cynnydd a wnaed yn gosod y Gronfa fel arweinydd y DU, tra'n parhau â'r rhwymedigaeth i'w haelodau wrth geisio'r enillion gorau posibl. |
|
Gwahardd y cyhoedd. PDF 236 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Gofynnwyd i’r Bwrdd wahardd
y cyhoedd o’r cyfarfod tra’n ystyried
yr eitem(au) o fusnes a nodwyd yn yr argymhelliad(ion)
i’r adroddiad ar y sail ei fod/eu bod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth eithriedig fel
y’i nodir yn y ddogfen. eithrio paragraff
o Atodlen 12A i Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd
gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)
(Amrywio) (Cymru) 2007 sy'n berthnasol
i'r eitem(au) o fusnes a
nodir yn yr adroddiad. Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth
i Brawf Budd y Cyhoedd wrth
benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol
fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
canlynol o fusnes. (Sesiwn Gaeedig) |
|
Diweddariad am Bartneriaeth Pensiwn Cymru. (Er gwybodaeth) Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy
Swyddog A151 adroddiad a oedd yn rhoi'r
wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am gynnydd a gwaith
Partneriaeth Pensiwn Cymru (WPP). Dywedodd fod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu wedi cymeradwyo'r cytundeb rhyng-Awdurdod a gymeradwywyd hefyd gan Gyngor Abertawe ar 4 Tachwedd 2021. |
|
Adroddiad Buddsoddi. (Er gwybodaeth) Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn darparu Adroddiad Monitro Buddsoddiadau Chwarter 3 2021 Hymans Robertson, Ymgynghorydd Buddsoddi. |
|
Crynodeb Buddsoddi. (Er gwybodaeth) Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Brif Swyddog Cyllid / Dirprwy Swyddog A151 adroddiad ‘er gwybodaeth’ a oedd yn cyflwyno prisiad asedau a pherfformiad buddsoddi ar gyfer y chwarter, y flwyddyn a’r 3 blynedd yn diweddu 30 Medi 2021. |