Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Medi 2021 fel cofnod cywir. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. 2021/1782/S73 - Cymeradwywyd 2. 2021/2013/S73 - Cymeradwywyd 3. 2021/1160/S73 - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer:
Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i
Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y cyngor y diwrnod cyn y
cyfarfod) 1) Cymeradwyo'r
ceisiadau cynllunio isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir
isod: #(Eitem 1) -
Cais Cynllunio 2021/1782/S73 - Lleoli carafanau at ddefnydd preswyl ar gyfer 4
llain sipsi, ynghyd â gosod llawr caled ychwanegol ac ystafelloedd aml-bwrpas/dydd
sy'n ategu'r defnydd hwnnw. Amrywiad ar amodau 3 a 4 o'r caniatâd cynllunio
a roddwyd ar apêl (Cyfeirnod yr Apêl: APP/B6855/A/12/2184665. Cyfeirnod yr ACLl: 2012/0079) i ganiatáu i sipsiwn a
theithwyr ddefnyddio'r safle'n barhaol (Dileu/Amrywiad ar amodau 2 a 3 o
ganiatâd cynllunio 2017/0482/S73 a roddwyd ar 6 Gorffennaf 2017) i ganiatáu i
sipsiwn a theithwyr ddefnyddio'r safle ar dir yn Nhŷ Drumau, Birchgrove
Road, Gellifedw, Abertawe yn barhaol. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan Nat Green (asiant) Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorwyr C R Doyle a P M Matthews (Aelodau Lleol), a siaradodd
yn erbyn y cais oherwydd ei effaith ar y lletem las. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Mae gwall ar dudalen 30 yr adroddiad, ym mharagraff
2 sy'n nodi y cynhaliwyd yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) ar ôl
i’r caniatâd dros dro blaenorol gael
ei roi. Mae hyn yn anghywir. Cynhaliwyd y GTAA yn 2015, cyn rhoi'r
caniatâd dros dro diweddaraf yn 2017. Hefyd, mae angen
diwygio Amod 4 er mwyn cyfeirio at Amod 3 yn benodol. #(Eitem 2)
- Cais Cynllunio 2021/2013/S73 - Dymchwel yr adeilad presennol ar y safle ac
adeiladu datblygiad preswyl sy'n cynnwys 29 o unedau fforddiadwy (sy'n cynnwys 7
tŷ a 22 fflat), 3 uned manwerthu, parcio cysylltiedig, tirlunio a gwaith
ategol - Amrywiad ar Amod 2 caniatâd cynllunio 2020/0108/FUL a roddwyd ar 20
Ionawr 2021 i ganiatáu ar gyfer cyflwyno cynlluniau diwygiedig mewn perthynas
â'r wal gynnal arfaethedig, ac Amrywiad ar Amod 8 i gyfeirio at ddarlun
LT1815.04.50 Diwygiad A ar Dir i'r Gogledd o Rodfa Fadog,
Cwmrhydyceirw, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan Richard John (gwrthwynebydd) Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Ers cwblhau'r adroddiad, nodwyd bod gwall yn y cynllun arfaethedig a
gyflwynwyd gan nad oedd i raddfa, fodd bynnag mae'r dimensiynau allweddol a
ddefnyddiwyd wrth asesu'r cais a'r adroddiad yn gywir, gan eu bod wedi'u
dimensiynu ar y cynllun ei hun. Fodd bynnag, bydd angen diwygio'r disgrifiad
o'r datblygiad ac Amod 1 i gyfeirio at gyfeirnod y cynllun diweddaraf (diwygiad
B) a bydd yr olaf yn darllen fel a ganlyn: Rhaid ymgymryd â'r datblygiad yn unol â'r cynlluniau a'r dogfennau
cymeradwy canlynol: strategaeth draenio, datganiad trafnidiaeth, cynllun
draenio rhagarweiniol SK02R7 a dderbyniwyd ar 20 Ionawr 2020, adroddiad
arfarniad ecolegol, adroddiad archwilio safle, adroddiad archwilio safle geodechnegol a geoamgylcheddol a
dderbyniwyd ar 27 Ionawr 2020, LT1815.04.001 B -cynllun safle, LT1815.04.004 A
- cynllun nodi ffin, LT1815.04.1000 D - cynlluniau llawr gwaelod a llawr cyntaf
Bloc 1, LT1815.04.1001 C - ail lawr (tudalen 36) a chynllun to bloc 1, 1
LT1815.04.1002 A - trawstoriadau bloc 1,
LT1815.04.1003F - gweddluniau bloc 1, LT1815.04.2001 - cynlluniau a gweddluniau
lleiniau 17-20, LT1815.04.2002 A - cynlluniau a gweddluniau lleiniau 21-23,
LT1815.04.2003 - cynlluniau a gweddluniau lleiniau 24-29, a dderbyniwyd ar 6
Gorffennaf 2020. LT1815.04.51 - trawstoriadau'r
safle, SK21-5269-01E - cynlluniau wal gynnal a gweddluniau, SK21-5269-02E - trawsdoriadau'r wal gynnal a dderbyniwyd ar 28 Gorffennaf
2021 a LT1815.04.50 - cynllun y safle DIWYGIAD B, a dderbyniwyd ar 28 Medi
2021. Rheswm: I osgoi
amheuaeth a sicrhau cydymffurfio â'r cynlluniau a gymeradwywyd. #(Eitem 3)
- Cais Cynllunio 2021/1160/S73 - Gosod 10 pod
gwersylla pren am 2 flynedd arall (Amrywiad ar Amod 2 o ganiatâd cynllunio
2017/0820/FUL a roddwyd ar 30 Ionawr 2019) yn Windmill
Farm, Llanrhidian, Abertawe. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. |