Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd
cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 3
Awst 2021 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Cynnig i Ddargyfeirio Llwybr Troed 13 a 15 Cymuned Llanilltud Gyr. PDF 328 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas adroddiad a oedd yn
ceisio ystyriaeth ynghylch a ddylid tynnu'r gorchymyn dargyfeirio a wnaed ar 18
Ionawr 2012 yn ei ôl a llunio gorchymyn dargyfeirio newydd. Amlinellwyd hanes
cefndir y mater yn yr adroddiad, yn ogystal â'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr
ymgynghoriad ar y mater. Amlinellwyd y
llwybrau dargyfeirio arfaethedig hefyd yn yr adroddiad, yn ogystal â'r sail
gyfreithiol gefndirol ar gyfer cyflwyno gwyriad o dan adran 119 o Ddeddf
Priffyrdd 1980. Penderfynwyd ar y canlynol: 1. Caiff ail
Orchymyn Dargyfeirio ei wneud ar gyfer Llwybrau Troed 13 a 15 a thynnir y
gorchymyn dargyfeirio cyntaf a wnaed ar gyfer Llwybrau Troed 13 a 15 yn ei ôl,
ac, os na dderbynnir gwrthwynebiadau, caiff ei gadarnhau fel gorchymyn
diwrthwynebiad. 2. Os derbynnir gwrthwynebiadau, cyflwynir yr
achos i'r Arolygiaeth Gynllunio. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1) – 2020/2357/FUL
- Cymeradwywyd (2) –2021/1535/FUL
- Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer:
Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i
Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y
cyfarfod) 1) Caiff y
ceisiadau cynllunio isod eu cymeradwyo’n unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu
a nodir isod: #(Eitem 1)
– Cais Cynllunio 2020/2357/FUL - Adeiladu 44 o anheddau
(100% tai fforddiadwy) gyda thirlunio, mynedfa a gwaith cysylltiedig ar Fferm Pencefnarda , Ffordd Pencefnarda,
Gorseinon, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd Luke
Grattarola (asiant) y Pwyllgor. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd J P Curtice (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y
cais. Diweddarwyd yr adroddiad
fel a ganlyn: Anfonwyd dau
sylwad hwyr at Aelodau'r Pwyllgor Cynllunio yn uniongyrchol ac anfonwyd traean
ohonynt ymlaen at yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl).
Mae un ohonynt yn mynegi pryderon nad yw'r arfarniad ecolegol a gyflwynwyd
gyda'r cais wedi cydnabod presenoldeb tylluanod gwynion sy'n byw'n lleol ac yn
clwydo ym mlwch y tylluanod gwynion ger y safle. Gofynnwyd am
sylwadau Ecolegydd y cyngor, a diweddarwyd yr aelodau ar lafar yn ystod
cyfarfod y pwyllgor. Mae'r ail un yn cynnwys cyfeiriad at erthygl o 2016
ynghylch troseddau gwastraff ar y safle gan y tirfeddiannwr. Nid yw'r erthygl
hon yn codi unrhyw ystyriaethau cynllunio perthnasol ynddo'i
hun. Mae'r e-bost a anfonwyd at yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn dangos
ffotograffau o wartheg yn pori'r tir. Maent wedi bod yno ers mis Mehefin 2021
er nad yw wedi'i nodi fel tir amaethyddol/pori. Derbyniwyd un gwrthwynebiad
pellach gan breswylydd ond ymdriniwyd â'r materion hyn eisoes yn yr adroddiad. Roedd y
Cynghorydd J P Curtice am egluro ei bod wedi gwrthwynebu'r cais am y rhesymau a
nodir yn yr adroddiad. Nodwyd gwall ar
sawl cynllun o ran gweddluniau’r fflatiau o fewn y datblygiad yn dilyn
cyhoeddi'r adroddiad. Dangoswyd bod y cynllun wedi'i ddrychweddu
ar rai cynlluniau gweddluniau ond nid pob un. Nid yw'r cywiriad hwn yn
effeithio'n sylweddol ar unrhyw 3ydd parti nac yn ei roi dan anfantais o
ystyried lleoliad y fflatiau o fewn y safle. Yn ogystal, mae manylion llawn y
siediau ar y safle bellach wedi'u darparu. Diweddarwyd Amod
2 sy'n ymwneud â'r cynlluniau cymeradwy fel a ganlyn: 2. Rhaid ymgymryd
â'r datblygiad yn unol â'r cynlluniau a'r dogfennau cymeradwy canlynol: · LP-01 Rev A Cynllun
lleoliad y safle; · PF-01 Rev C
Gorffeniadau'r llain; · SOC-T-01 Rhestr o Gydrannau (cyfuniadau mynedfeydd
sengl a chanopïau nodweddiadol)Taflen 1 o 5; · SOC-T-02 Rhestr o Gydrannau (Drysau cyfunol a
drysau allanol eraill) Taflen 2 o 5; · SOC-T-04 Rhestr o Gydrannau (manylion simnai)
Taflen 3 o 5; · SOC-T-04 Rhestr o Gydrannau (Ffenestri dormer a ffenestri
to) Taflen 4 o 5; · SOC-T-05 Rhestr o Gydrannau (Proffiliau
ffenestri) Taflen 5 o 5; · EDP6658-D012 Rev B
Cynllun tirwedd meddal manwl; · EDP6658-D011 Rev E
Strategaeth Chwarae mewn Mannau Agored Cyhoeddus; · D01 Wal sgrîn frics; · D02-1800 Ffens byrddau caeedig; · D03-1200 Ffens byrddau caeedig; · D04 Gât byrddau caeedig; · D05-1100 Rheiliau uchel pen pêl; · D08-1800 Wal gynnal; · D09-110 Canllaw; · D10 Grisiau gyda wal ochr; · D11 Wal gynnal gyda rheiliau pen pêl; · D12-500 Rheiliau pen-glin dur; · D13-2000 Ffens byrddau caeedig; · D14-900 Ffens bolion; derbyniwyd y rhain ar 2
Mehefin 2021; · 1958/4B2P2/01 4PB x2 gynllun llawr cyswllt; · 1958/4B2P3/01 4BP2B x3 chynllun llawr cyswllt; · 1958/4B2P3/02 REV A 4P2b x3 gweddlun brics cyswllt
· 1958/4P2BV1/01 4P2B GOFYNION ANSAWDD DATBLYGU
(GAD) - Cynlluniau llawr F1; · 1958/4P2BV1/02 4P2B GAD - Gweddluniau brics F1; · 1958/4P2BV1/03 4P2B GAD - RENDRAD GWEDDLUNIAU F1;
· 1958/4P2BV2/01 4P2B GAD - CYNLLUNIAU LLAWR V2; · 1958/4P2BV2/02 4P2B GAD - GWEDDLUNIAU BRICS F2; · 1958/4P2BV2/03 4P2B GAD - RENDRAD GWEDDLUNIAU F2;
· 1958/4P5P/01 4P2BV2-5P3BGV2 CYNLLUNIAU
LLAWR CYSWLLT; · 1958/4P5P/01 4P5P CYNLLUNIAU LLAWR
CYSWLLT; · 1958/4P5P/01 4P5P CYNLLUNIAU LLAWR
CYSWLLT; · 1958/4P5P/02 4P5P RENDRAD GWEDDLUNIAU
CYSWLLT; · 1958/4P5P/02 REV A 4P5P RENDRAD
GWEDDLUNIAU CYSWLLT; · 1958/5B3P2/01 REV A 5P3B X2 GYNLLUN LLAWR
CYSWLLT; · 1958/5B3P2/02 REV A 5P3B X2 WEDDLUN BRICS
CYSWLLT; · 1958/5B3P2/03 REV A 5P3B X2 RENDRAD
GWEDDLUNIAU CYSWLLT; · 1958/5P3B /01 5P3BGV2 - CYNLLUNIAU LLAWR
CYSWLLT; · 1958/5P3B /01 REV A 5P3B GAD - CYNLLUNIAU
LLAWR; · 1958/5P3B /02 5P3B GAD GWEDDLUNIAU BRICS;
· 1958/5P3B /02 5P3B-5P3BGV2 RENDRAD
GWEDDLUNIAU CYSWLLT; · 1958/5P3B /03 5P3B GAD - RENDRAD
GWEDDLUNIAU; · 1958/5P3BG /01 REV A 5P3B GAD - · 1958/5P3BG /02 REV A 5P3B GAD - RENDRAD
TALCENNI GWEDDLUNIAU; · 1958/6P4BD /01 6P4B GAD - · 1958/6P4BD /02 6P4B GAD GWEDDLUNIAU BRICS
AR WAHÂN; · 1958/P28 /02 PLOTIAU 28-29 - RENDRAD
GWEDDLUNIAU; derbyniwyd y rhain ar 9 Mehefin 2021; · edp6658_d013 Adran ardd law nodweddiadol
a dderbyniwyd ar 13 Awst 2021; · HF-01 REV F Cynllun gorffeniadau'r
tŷ; · 1958 SS-01 Rev
G Golygfeydd Stryd Nodweddiadol; · BBHL-01 Rev C
Lleoliadau blychau adar ac ystlumod a llwybrau mynediad draenogod; derbyniwyd
ar 23 Awst 2021 · POBL/APT4H/01 APARTMENT-4 2P1BX6 GAD -
FFLATIAU LLAWR GWAELOD; · POBL/APT4H/02 APARTMENT-4 2P1BX6 GAD -
FFLATIAU LLAWR CYNTAF; · POBL/APT4H /03 APARTMENT-4 2P1BX6 GAD -
GWEDDLUNIAU FFLATIAU (Taflen 1 o 2); · POBL/APT4H/04 REV A APARTMENT-4 2P1BX6
GAD - GWEDDLUNIAU FFLATIAU (Taflen 2 o 2); · 2511/501 Rev A
- Manylion Basn Ymdreiddiad · 1958TP-01 Rev J
Cynllun y safle · EW-01 REV G Cynllun gwaith allanol; · Sied 01 – Manylion y sied bren -
derbyniwyd ar 31 Awst 2021; · 2511/505 Rev B
Lefelau Peirianneg · 2511/506 Rev C
Trawstoriadau'r ffordd a'r safle - derbyniwyd ar 3 Medi 2021. Rheswm: I osgoi
amheuaeth a sicrhau cydymffurfio â'r cynlluniau a gymeradwywyd. Amod 23 wedi'i
ychwanegu fel a ganlyn: Er yr wybodaeth a
gyflwynwyd hyd yma, bydd manylion llawn y ddarpariaeth o 2 flwch tylluanod
gwynion yn cael eu cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig
cyn meddiannaeth lesiannol unrhyw annedd a gymeradwywyd trwy hyn. Bydd y
blychau tylluanod gwynion yn cael eu darparu'n llawn yn unol â'r manylion
cymeradwy heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl meddiannaeth lesiannol gyntaf y
40fed annedd a chânt eu cadw a'u cynnal felly ar gyfer oes y datblygiad. Rheswm: Er budd
bioamrywiaeth er mwyn sicrhau bod mesurau lliniaru ar gyfer tylluanod gwynion.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor am y canlynol: Cymeradwywyd y
cais yn amodol ar gytundeb Adran 106 yn unol ag argymhelliad, yn amodol ar y
diwygiad canlynol: Telir cyfraniad
ychwanegol o £25,000 fel rhan o gytundeb Adran 106 i ariannu croesfan lefel
wastad ar Pencefnarda Road, a thelir £5,000 cyn
dechrau'r datblygiad i sicrhau y gwneir yr holl waith dylunio manwl a bod y
£20,000 sy'n weddill yn cael ei dalu a'r gwaith yn cael ei gwblhau cyn i unrhyw
annedd ar y safle gael ei meddiannu. #(Eitem 2)
– Cais Cynllunio 2021/1535/FUL - Newid defnydd o eiddo preswyl 5 ystafell wely
(Dosbarth C3) i Dŷ Amlfeddiannaeth 5 ystafell wely (Dosbarth C4) yn 167 Langdon Road, Dociau Abertawe, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan Steve Jones (gwrthwynebydd) a Craig Jones (asiant). Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd C Lloyd (Aelod Lleol) a siaradodd yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Cafwyd sylw
ychwanegol a oedd yn gwrthwynebu'r cais ac Adroddiad y Pwyllgor fel a ganlyn: Materion a godwyd
gan Adroddiad y Swyddog i'r Pwyllgor Cynllunio, tudalennau 78 - 80: H9 v. HMO - effeithiau andwyol a achosir gan niwsans sŵn
ac aflonyddwch cyffredinol. Yn groes i'r
honiad a wnaed ar t78, mae tystiolaeth ar gofnod gyda'r heddlu a'r brifysgol, y
bu sŵn ac aflonyddwch annerbyniol ers i 167 Langdon
Road weithredu fel Tŷ Amlfeddiannaeth heb awdurdod. Manylwyd ar hyn gan
nifer o wrthwynebwyr. Os caiff y cais ei gymeradwyo gan DASA er gwaethaf hyn,
caiff hyn ei gymryd fel sêl bendith swyddogol ar gyfer y fath ymddygiad a bydd
yn gwaethygu'r effeithiau andwyol a'r niwed a achosir i fywydau'r cymdogion. Mae'r CDLl yn cydnabod y rôl y mae'r awdurdod cynllunio’n ei
chwarae mewn nifer o'i bolisïau o ran lliniaru effeithiau andwyol llety
myfyrwyr mewn tai amlfeddiannaeth. Felly, mae'r goblygiad ar dudalennau 79-80
nad oes gan y broses gynllunio rôl o ran delio â'r problemau hyn yn anghywir. Fel pob awdurdod
cyhoeddus, mae'n ofynnol i DASA weithredu’n unol â Deddf Hawliau Dynol 1998
(Erthygl 8: Parch am eich bywyd preifat a theuluol a Phrotocol 1, Erthygl 1:
Hawl i fwynhau’ch eiddo’n heddychlon) ac Adran 17 (1) o Ddeddf Trosedd ac
Anhrefn 1998 (dyletswydd pob awdurdod fydd arfer ei swyddogaethau amrywiol gan
roi sylw dyladwy i effaith debygol arfer y swyddogaethau hynny ar drosedd ac
anrhefn, a'r angen iddo wneud popeth rhesymol i atal troseddu ac anhrefn yn ei
ardal). Felly, mae gan yr awdurdod ddyletswydd glir iawn i ddelio â'r mater
hwn. tudalen 73:
Ymatebion i Ymgynghoriadau Mae eitem 4 yn
anghywir. Mae TP1 yn nodi'n glir yn 12.5.1.3 na ddylai'r trosglwyddai
"ddefnyddio neu ganiatáu i'r eiddo gael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben ac
eithrio defnydd preswyl o fewn dosbarth C3 ... er mwyn osgoi amheuaeth, caiff
defnydd preswyl fel llety myfyrwyr ei eithrio". Ar gyfer eglurder
llwyr, mae Langdon Road, gyda'r datblygiadau ar ei
hyd, yn gymuned amrywiol sy'n datblygu, a chaiff ystod eang o fathau o anheddau
a mathau o ddeiliadaeth ei chynrychioli ynddi. Mae'r mwyafrif helaeth o'r
preswylwyr yn croesawu ac yn dathlu hyn. Felly mae'n bwysicach fyth i ganiatáu
i'r gymuned hon ddatblygu'n llwyddiannus yn hytrach na bygwth ei chydlyniant. tudalen 75:
Llythyr oddi wrth Asiant yr Ymgeisydd Mae ychwanegu
caniatâd "dros dro" am 3 blynedd at y flwyddyn y mae'r eiddo eisoes
wedi bod yn cael ei ddefnyddio heb awdurdod yn golygu ei fod wedi gweithredu
fel Tŷ Amlfeddiannaeth am gyfanswm o 4 blynedd. Mae angen eglurhad
ynghylch beth fyddai statws cynllunio'r eiddo ar ôl 4 blynedd fel Tŷ
Amlfeddiannaeth. Nid yw
amgylchiadau personol yr ymgeisydd, gan gynnwys cyfleustra a budd ariannol, yn
ystyriaethau cynllunio perthnasol. tudalen 77:
Tystiolaeth o Dai Amlfeddiannaeth Anawdurdodedig Presennol Mae'r eiddo wedi
bod yn gweithredu fel Tŷ Amlfeddiannaeth anawdurdodedig am flwyddyn, heb i
DASA sylwi ar hyn. Mae hyn ynddo'i hun yn
dystiolaeth. Mae preswylwyr yn amharod i roi enwau a chyfeiriadau eraill am
resymau dealladwy. DASA sy'n gyfrifol am sefydlu'r ffeithiau ar lawr gwlad cyn
cymhwyso’i bolisïau. Nid yw'r dogfennau a grybwyllir ar dudalen 77 yn unig yn
darparu'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer y dasg hon. |