Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorydd P M
Black – Cais Cynllunio 2021/0889/S73 (Eitem 1) – Personol a Rhagfarnllyd a
gadawodd cyn y drafodaeth. Y Cynghorwyr P Downing
a P Lloyd – Cais Cynllunio 2021/0889/S73 (Eitem 1) – Personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 8 Mehefin 2021 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfreithiwr Arweiniol ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r
Ddinas adroddiad a oedd yn amlinellu'r cais a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru
i ddiwygio'r Gofrestr Tir Comin drwy dynnu arwynebedd o 50,862 metr sgwâr o
Uned Gofrestru CL53, Comin Mynydd Lliw. Cafodd manylion cefndir a hanes y mater
eu hamlinellu a'u manylu gan Swyddogion, yn enwedig y ffaith bod y tir a nodwyd
ar y cynllun wedi peidio â bod yn dir comin yn rhinwedd Gorchymyn Prynu Gorfodol
a oedd yn ymwneud ag adeiladu traffordd yr M4. Cafodd y rhestr o gyrff yr ymgynghorwyd â hwy ynglŷn â'r cais eu
hamlinellu a'u nodi yn yr adroddiad. Penderfynwyd derbyn y cais a thynnu'r tir a nodwyd ar y
cynllun a amlinellwyd yn yr adroddiad oddi ar Uned Gofrestru CL53 (Comin Mynydd
Lliw). |
|
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd pennaeth cynllunio
ac adfywio'r ddinas adroddiad a oedd yn gofyn i'r pwyllgor ystyried cadarnhau,
fel gorchymyn llawn, y gorchymyn cadw coed dros dro, 679, ar dir gerllaw rock house a mill
farm, waunarlwydd, abertawe (2021).
Amlinellwyd a manylwyd ar fanylion
cefndir a hanes y mater ynghyd â chyflwyno'r gorchymyn dros dro yn y lle cyntaf
ym mis Ionawr 2021 gan Swyddogion. Amlinellwyd y gwrthwynebiad a gafwyd
i'r gorchymyn dros dro yn yr adroddiad. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd W G Lewis (aelod lleol) a siaradodd o blaid y cais. Penderfynwyd cadarnhau'r Gorchymyn Cadw Coed ar dir
gerllaw Rock
House a Mill Farm, Waunarlwydd, Abertawe (2021) heb
ei addasu. |
|
Gorchymyn Cadw Coed GCC 680 Tir yn 52 Caswell Road, Caswell, Abertawe (2021). PDF 300 KB Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn
gofyn i'r pwyllgor ystyried cadarnhau, fel gorchymyn llawn, y gorchymyn cadw
coed dros dro 680, ar dir yn 52 Caswell Road, Caswell, Abertawe (2021). Amlinellwyd a manylwyd ar fanylion cefndir
a hanes y mater ynghyd â chyflwyno'r gorchymyn dros dro yn y lle cyntaf ym mis
Ionawr 2021 gan Swyddogion. Amlinellwyd y gwrthwynebiad a'r
gefnogaeth a gafwyd mewn perthynas â'r gorchymyn dros dro yn yr adroddiad. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Fe'm cyfarwyddir i wneud sylwadau pellach mewn
perthynas â pharagraff 3.7 o'r Adroddiad. Cawsom e-bost gan Emma North yng Nghyngor Abertawe
ar 28 Ebrill 2021 am 14:10 yn ein hysbysu fod yn rhaid i'r gwaith ddod i ben ar
y safle. Cysylltom ar unwaith â'n cleient ynghylch y mater hwn a dywedodd ein
cleient yn ei dro wrth y contractwr ar y safle fod yn rhaid i'r gwaith ddod i
ben ar unwaith. Yna, hysbysom Emma North drwy e-bost ar 28 Ebrill 2021 am 16:47
fod y gwaith wedi dod i ben ar y safle. (Cyfreithwyr yr ymgeisydd) Penderfynwyd cadarnhau'r Gorchymyn Cadw Coed ar dir yn
52 Caswell Road, Caswell, Abertawe (2021) gan hepgor coed T2, T3, T4 a T5. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 2021/0889/S73 - Cymeradwywyd. 2021/0978/FUL - Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau
i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr
adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar
wefan y cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod) 1) Cymeradwyir y
ceisiadau cynllunio isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir
isod: #(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2021/0889/S73 -
Datblygiad preswyl ac adeiladu mynedfa newydd i gerbydau oddi ar Nantong Way (amlinellol)
(2006/1902) fel y'i hamrywir gan Adran 73 o ganiatadau
cynllunio 2014/1189, 2018/1204/S73, 2019/0536/S73 a 2019/2523/S73. Amrywiad ar amod 8 (mynedfa barhaol oddi ar Nantong Way) o Adran 73 o
ganiatâd cynllunio 2019/2523/S73 a roddwyd ar 4 Mehefin 2020 i ymestyn y
dyddiad ar gyfer adeiladu'r fynedfa barhaol oddi ar Nantong
Way i 30 Ebrill 2022 ar dir yn Upper Bank, Nantong Way, Pentrechwyth,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Nodir gwall ar daflen clawr blaen y cais ar dudalen
28 yr agenda. Mae'r cynllun safle a nodir ar gyfer y gwaith i greu mynedfa
barhaol sy'n destun caniatâd ar wahân. Gan fod y cais gerbron aelodau yn gais
adran 73 i amrywio cais gwreiddiol 2006 (fel y'i diwygiwyd wedi hynny), nid
yw'n ofynnol darparu cynllun safle gyda'r cais. Cyflwynwyd y cynllun a nodwyd
er gwybodaeth yn unig ac fe'i defnyddiwyd yn anghywir ond nid yw'r gwall hwn yn
effeithio ar y cais ei hun. Eglurwyd y cynllun safle gwirioneddol yn y
cyflwyniad yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio. Cymeradwyir y
cais yn amodol ar addasu'r gofynion Priffyrdd o fewn y cytundeb Adran 106
gwreiddiol drwy Weithred Amrywio mewn perthynas â'r amserlenni i ddarparu
mynedfa barhaol oddi ar Nantong Way
ac yn amodol ar yr amodau a amlinellir yn yr adroddiad. #(Eitem 2) –
Cais Cynllunio 2021/0978/FUL - Newid defnydd y llawr gwaelod o fanwerthu
(Dosbarth A1) i far gwin (Dosbarth A3) yn 47 Gower
Road, Sgeti, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Cymeradwywyd y
cais yn amodol ar dderbyn unrhyw wrthwynebiadau pellach erbyn 26 Gorffennaf
2021. |