Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: Y Cynghorydd D W W
Thomas – Personol - Gorchymyn Cadw Coed Dros Dro TPO 678 Tir yng Ngholeg
Gŵyr, Llwyn y Bryn, Walter Road, Abertawe (2021). Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: Y Cynghorydd D W W
Thomas – Personol - Gorchymyn Cadw Coed Dros Dro TPO 678 Tir yng Ngholeg
Gŵyr, Llwyn y Bryn, Walter Road, Abertawe (2021). |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd
Pwyllgorau Cynllunio a gynhaliwyd ar 4 a 20 Mai 2021 fel cofnodion cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: (2) –2021/0961/S73 - gohiriedig Cofnodion: #(Eitem 2)
– Cais Cynllunio 2021/0961/S73 - Gosod parc solar 9MW sy'n cynnwys hyd at
25,000 o baneli ffotofoltäig, 9 caban gwrthdröydd/newidydd,
adeilad rheoli a gwaith cysylltiedig (diwygiad i amod 2 caniatâd cynllunio
2020/0257/FUL a roddwyd ar 11 Awst 2020) i ganiatáu newidiadau i drac mynediad
mewnol a thrawsblannu gwrychoedd yn Fferm Felin Wen, Rhydypandy
Road, Treforys, Abertawe. Gohiriwyd y cais gan fod gwybodaeth hwyr wedi dod i
law gan yr ymgeisydd yn egluro bod y cais yn rhannol ôl-weithredol, sy'n gofyn
am amser ychwanegol i ystyried natur a phwyntiau sbardun yr amodau. |
|
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac
Adfywio’r Ddinas adroddiad a oedd yn ceisio ystyried cadarnhau, fel Gorchymyn
llawn, Orchymyn Cadw Coed dros dro 677, Tir yn Birch Rock, Pontarddulais,
Abertawe (2021). Cafodd manylion cefndir a hanes y mater
ynghyd â rhoi’r gorchymyn dros dro yn y lle cyntaf ym mis Ionawr 2021, eu
hamlinellu a'u manylu gan Swyddogion Amlinellwyd y gwrthwynebiadau a
dderbyniwyd i'r gorchymyn dros dro yn yr adroddiad. Penderfynwyd cadarnhau Tir y Gorchymyn Cadw Coed yn
Birch Rock, Pontarddulais, Abertawe (2021) heb addasiadau. |
|
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac
Adfywio’r Ddinas adroddiad a oedd yn ceisio ystyried cadarnhau, fel Gorchymyn llawn,
y Gorchymyn Cadw Coed dros dro 678, Tir yng Ngholeg Gŵyr, Llwyn y Bryn,
Walter Road, Abertawe (2021). Cafodd manylion cefndir a hanes y mater
ynghyd â rhoi’r gorchymyn dros dro yn y lle cyntaf ym mis Ionawr 2021, eu
hamlinellu a'u manylu gan Swyddogion Amlinellwyd y gwrthwynebiadau a
dderbyniwyd i'r gorchymyn dros dro yn yr adroddiad. Penderfynwyd
cadarnhau Tir y Gorchymyn Cadw Coed yng Ngholeg Gŵyr, Llwyn y Bryn, Walter
Road, Abertawe (2021) heb addasiadau. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1) –2021/0826/FUL - Cymeradwywyd (3) –2021/0112/FUL - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd
am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)
(Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato
isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y cyngor y diwrnod
cyn y cyfarfod) 1) Cymeradwyo'r
ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod:
#(Eitem 1)
– Cais Cynllunio 2021/0826/FUL - Newid defnydd o anhedd-dŷ
(Dosbarth C3) i gartref plant (Dosbarth C2) yn 20 Brynhyfryd Street, Brynhyfryd, Abertawe. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd C A Holley (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais. #(Eitem 3)
– Cais Cynllunio 2021/0112/FUL - Adeiladu 23 o anheddau, yn cynnwys 2 annedd ar
wahân, 7 annedd ar wahân gyda garejis ar wahân, 3 annedd ar wahân gyda garejis
sydd ynghlwm â'r eiddo, 4 pâr o anheddau pâr (8 annedd) a 3 annedd cysylltiedig
â mynediad, tirlunio, draenio a gwaith cysylltiedig ar dir i'r de of Glebe Road, Glebe Road, Llwchwr,
Abertawe. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Tudalen 102, para
2 – yn lle "O ran yr amodau awgrymedig y gofynnir amdanynt gan y Swyddog
Priffyrdd, nid ystyrir bod amodau (i), (vii) yn
angenrheidiol gan eu bod yn dod o dan ddeddfwriaeth ac amodau eraill, ac felly
nid ydynt yn bodloni profion Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 16/2014 - Amodau
Cynllunio." gyda "O ran yr
amodau awgrymedig y gofynnir amdanynt gan y Pennaeth Trafnidiaeth a Pheirianneg,
nid ystyrir bod amodau (i), (v) (vii) yn
angenrheidiol gan eu bod yn dod o dan ddeddfwriaeth ac amodau eraill, ac felly
nid ydynt yn bodloni profion Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 16/2014 - Amodau
Cynllunio. Nid ystyrir bod angen yr amod gofynnol (iv)
fel amod, ond yn hytrach caiff ei gynnwys fel 'addysgiadol'." · Ar ôl y rhestr o
bwyntiau bwled ar dudalen 103, bydd angen nodi'r paragraff canlynol. "Ystyrir bod
gosod yr amodau rhestredig uchod – ac eithrio pwynt bwled 8 (sy’n cyfeirio at
gloddiadau agored) – yn rhesymol ac yn angenrheidiol i sicrhau bod y cynllun
arfaethedig yn dderbyniol mewn termau ecolegol. Felly, cânt eu gosod fel amodau
cynllunio. Mae'r testun a
geir ym mhwynt bwled 8 wedi'i gynnwys fel 'addysgiadol'. Disodli Amod 20 (tudalen
113) gyda'r amod diwygiedig canlynol; "Caiff yr
holl blannu, hadu neu dywarchu a nodir yn y cynllun tirlunio a gymeradwyir (a
ddangosir mewn lluniadau P18-0751_35 H – Uwch-gynllun Tirwedd, P18-0751_36 D -
Cynllun IG a P18-0751_37 D - Cynigion Tirwedd ar y Plot Manwl) ei wneud yn
ystod y tymhorau plannu a hadu cyntaf yn dilyn defnydd llesiannol cyntaf o'r
adeilad(au) neu gwblhad y datblygiad, p'un bynnag
fydd gyntaf; a chaiff unrhyw goed neu blanhigion sy'n marw, yn cael eu symud
neu'n cael eu difrodi'n ddifrifol neu'n afiach o fewn 5 mlynedd o gwblhau'r
datblygiad eu disodli â rhai newydd o faint a rhywogaeth debyg yn y tymor
plannu nesaf. Rheswm: er lles amwynder gweledol a phreswyl ac er lles cynnal
cynllun tirlunio addas er mwyn amddiffyn amwynderau gweledol yr ardal, i gynnal
rhinweddau arbennig y dirwedd a'r cynefinoedd trwy amddiffyn, creu a gwella
cysylltiadau rhwng safleoedd a'u hamddiffyn am eu gwerth o ran amwynderau,
tirwedd a bioamrywiaeth.” Ychwanegwyd y
nodyn er gwybodaeth canlynol (nodyn 17) at argymhelliad y swyddog ar gais y
Pwyllgor Cynllunio: Cynghorir yr
ymgeisydd/datblygwr i ystyried yn ofalus y cynnyrch penodol a ddefnyddir ar
gyfer unrhyw rendro allanol, gan fod rhai datblygiadau diweddar yn ardal
Abertawe sy'n cynnwys rendro wedi bod yn destun problemau o ran afliwiad,
llwydo a thwf algâu. Mae'r cais yn
amodol ar gytundeb Adran 106. |