Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau |
|
Mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol: Datblygu a Bioamrywiaeth. PDF 452 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn amlinellu i Aelodau'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad
cyhoeddus ar y fersiwn ddrafft o'r canllawiau, a thynnwyd sylw at ymatebion
swyddogion i'r rhain. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cymeradwyaeth i
fabwysiadu'r fersiwn ddiwygiedig yn ffurfiol fel Canllawiau Cynllunio Atodol. Rhoddodd
swyddogion gyflwyniad gweledol manwl a llawn gwybodaeth i'r Pwyllgor a oedd yn
amlinellu'r prif faterion a'r cefndir sy'n ymwneud â diweddaru ac adolygu'r
ddogfen. Mewn ymateb i'r
cyflwyniad, gofynnodd yr Aelodau gyfres o gwestiynau am y canllaw diwygiedig,
yr ymatebodd swyddogion iddynt yn unol â hynny. Penderfynwyd a) Bydd y materion a godwyd yn y sylwadau a wnaed yn
ystod y broses ymgynghori, ac ymatebion yr Awdurdod Cynllunio i'r rhain (a
amlinellir yn Atodiad A i'r adroddiad hwn) yn cael eu nodi. b) Bydd fersiwn derfynol y CCA (a atodir yn Atodiad A i'r
adroddiad hwn) yn cael ei chymeradwyo a'i mabwysiadu gan y cyngor; c) Bydd Pennaeth Cynllunio
ac Adfywio'r Ddinas, neu swyddog priodol a ddirprwyir, yn cael ei awdurdodi i
wneud unrhyw newidiadau argraffyddol, gramadegol, cyflwyniadol neu ffeithiol
i'r CCA cyn iddynt gael eu cyhoeddi'n derfynol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn manylu ar y sylwadau
a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar Adolygiad Ardal Gadwraeth y Mwmbwls,
a gofynnodd am gytundeb ar y diwygiadau arfaethedig i'r canllaw drafft ac i
fabwysiadu'r ddogfen berthnasol fel Canllawiau Cynllunio Atodol. Rhoddodd
swyddogion gyflwyniad gweledol manwl a llawn gwybodaeth i'r Pwyllgor a oedd yn
amlinellu'r cefndir hanesyddol i gyflwyno'r canllawiau cyntaf a'r prif faterion
a materion cefndir sy'n ymwneud â diweddaru ac adolygu'r ddogfen a oedd yn
cynnwys ehangu'r ardal i'w chynnwys yn yr ardal gadwraeth. Mewn ymateb i'r
cyflwyniad, gofynnodd yr Aelodau gyfres o gwestiynau am y canllaw diwygiedig,
yr ymatebodd swyddogion iddynt yn unol â hynny. Penderfynwyd a) Bydd y materion a godwyd yn y sylwadau a wnaed
yn ystod y broses ymgynghori, ac ymatebion yr Awdurdod Cynllunio i'r rhain (fel
y'u hamlinellir yn Atodiad B ac C i'r adroddiad hwn) yn cael eu nodi. b) Bydd fersiwn derfynol Arfarniad Cymeriad a
Chynllun Rheoli Ardal Gadwraeth y Mwmbwls (fel y'i hamlinellir yn Atodiad A i'r
adroddiad hwn) yn cael ei chymeradwyo a'i mabwysiadu gan y cyngor fel
Canllawiau Cynllunio Atodol. c) Bydd ffin newydd Ardal Gadwraeth y Mwmbwls (fel
y'i hamlinellir yn Atodiad D i'r adroddiad hwn) yn cael ei chymeradwyo; ch) Bydd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas,
neu swyddog priodol a ddirprwyir, yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw
newidiadau argraffyddol, gramadegol, cyflwyniadol neu ffeithiol i'r CCA cyn
iddynt gael eu cyhoeddi'n derfynol. |