Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn ceisio sicrhau
cymeradwyaeth gan Aelodau i gynnal y broses ymgynghori ac ymgysylltu
angenrheidiol gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid ar dair
dogfen ganllaw creu lleoedd ddrafft ar gyfer datblygiadau preswyl. Rhoddodd
swyddogion gyflwyniad gweledol manwl a llawn gwybodaeth i'r Pwyllgor a oedd yn
amlinellu'r prif faterion a'r cefndir sy'n ymwneud â diweddaru ac adolygu'r
tair dogfen ganllaw creu lleoedd sy'n ymwneud â'r canlynol: ·
Datblygiad
Deiliad Tai; ·
Mewnlenwi a Datblygiad Tir Cefn; ·
Datblygiadau
Preswyl. Amlinellwyd hefyd
yr amserlenni a'r broses debygol ar gyfer yr ymarfer ymgynghori. Mewn ymateb i'r
cyflwyniad, gofynnodd yr Aelodau gyfres o gwestiynau am y tair dogfen, yr
ymatebodd swyddogion iddynt yn unol â hynny. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Atodiad A: Drafft Ymgynghori'r Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygu
Deiliaid Tai Diwygio paragraff 3.39 ar tud.20 fel a ganlyn Dileu paragraff 3.39 a rhoi'r canlynol yn ei le: 3.39 Mae paragraff 2.29 yn nodi pwysigrwydd cynnal
pellter gwahanu o 15m er mwyn osgoi effeithiau gormesol i unrhyw eiddo
yr effeithir arno. Mewn rhai achosion, gall cynnal pellter gwahanu o 15m hefyd
fod yn bwysig er mwyn sicrhau nad yw cynigion datblygu yn arwain at effeithiau
annerbyniol o ran edrych dros ystafelloedd a gerddi eiddo y mae pobl yn byw
ynddynt.Asesir unrhyw gynigion sy'n ceisio gostyngiad
yn y pellter gwahanu hwn gan yr Awdurdod Cynllunio ynghylch a yw'r amgylchiadau
unigol sy'n gymwys yn yr achos hwnnw'n cyfiawnhau llacio'r pellter safonol o
15m. Dileu graffig a chapsiwn cysylltiedig. Penderfynwyd y dylid cymeradwyo'r Canllawiau Creu
Lleoedd ar Gyfer Datblygu Deiliaid Tai, Mewnlenwi a
Datblygiad Tir Cefn a Datblygiad Preswyl (yn amodol ar y diwygiad a amlinellir
uchod) ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd a rhanddeiliaid. |