Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Cydymdeimladau - Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin Cofnodion: Dechreuoddy
Cadeirydd y cyfarfod gyda munud o dawelwch er
cof am Ei Uchelder Brenhinol, y Tywysog Philip, Dug
Caeredin. Eisteddodd
pawb yn dawel fel arwydd o gydymdeimlad a pharch. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd y dylid cymeradwyo Cofnodion y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 9 a 22 Chwefror a 2 Mawrth 2021 a'u llofnodi fel
cofnodion cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Hen Lofa Cefn Gorwydd, Tre-gwyr, Abertawe. PDF 513 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn
ceisio caniatâd i addasu'r Cytundeb Adran 106 mewn perthynas â chaniatâd
cynllunio 2017/1451/OUT (ar gyfer datblygiad
preswyl hen Lofa Gorwydd, Gorwydd
Road, Tre-gŵyr). Cyflwynwyd y cais o dan A106A(1)(a) o Ddeddf
Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd), ac roedd yr ymgeisydd yn
ceisio diwygio'r agweddau canlynol ar y cytundeb A106; (i) cael gwared ar y cyfraniad addysg ar gyfer yr
ysgolion cyfrwng Saesneg a newid y pwynt sbarduno ar gyfer talu; a (ii) lleihau cyfraniad y
briffordd o £35,000 i £20,000. (iii) cyflwyno cymal Morgeisai mewn Meddiant ar gyfer y tai fforddiadwy rhentu
cymdeithasol. Amlinellwyd a nodwyd hanes cefndir rhoi'r caniatâd gwreiddiol yn 2018 a'r
gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ynglŷn â'r cynigion diwygiedig yn yr
adroddiad. Derbyniwyd 151 o lythyrau gwrthwynebu hwyr ers cyhoeddi papurau'r agenda. Roedd y pwyllgor wedi ystyried a gwrthod cais blaenorol i
amrywio Cytundeb Adran 106 mewn perthynas â 2017/1451/OUT yn ei gyfarfod ar 2
Mawrth 2021, "i newid y rhaniad deiliadaeth tai fforddiadwy, i gael gwared
ar y cyfraniad addysg ar gyfer yr ysgol gynradd cyfrwng Saesneg yn unig ac i
newid y pwynt sbarduno ar gyfer y taliad addysg, ac i leihau'r cyfraniad
priffyrdd i £20,000" am y rheswm canlynol: "Byddai'r cynnig i ddarparu tai canolradd fel yr
unig fath o dai fforddiadwy a ddarperir o fewn y safle datblygu a sicrheir gan
gytundeb Adran 106 yn methu darparu cymysgedd cytbwys o ddeiliadaethau tai, a
fyddai'n niweidiol i adfywio cymunedol a chydlyniant
cymdeithasol". Amlinellwyd y newidiadau sylweddol rhwng y cais hwnnw a wrthodwyd yn y
cyfarfod diwethaf a'r cais diwygiedig hwn gerbron y Pwyllgor yn yr adroddiad,
ac fe'u nodwyd yn y cyflwyniad gan swyddogion. Anerchwyd y
pwyllgor gan Alex Williams (gwrthwynebydd). Penderfynwyd cymeradwyo'r cais a bod y cytundeb Adran
106 gwreiddiol sy'n ymwneud â chaniatâd cynllunio 2017/1451/OUT yn cael ei
amrywio. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ddinas. Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau
i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer:
Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i
Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y
cyfarfod) 1) gohirio'r cais cynllunio y
cyfeirir ato isod er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sylwadau'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Darpariaeth Addysg ar gyfer
meddianwyr y dyfodol, darpariaeth
barcio, lle ar gyfer amwynderau preifat a chyfraniadau A106 posib. #(Eitem 1) –
Cais Cynllunio 2021/0453/FUL - Cadw a chwblhau'r newid defnydd o gartref
preswyl (Dosbarth C3) i gartref plant (Dosbarth C2) gyda chynnydd yn uchder
crib yr estyniad cefn presennol, addasiadau i'r ffenestriad ac ychwanegu
balwstradau gwydr at flaenlun y llawr cyntaf a'r ail
lawr yn 260 Oystermouth Road, Canol y Ddinas, Abertawe Cyn gohirio: Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Joanne Jones (gwrthwynebydd) a Joseph Pasha
(ymgeisydd). Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd D Phillips (aelod lleol). 2) gohirio’r cais
cynllunio a nodir isod er mwyn cynnal ymweliad safle. #(Eitem 2) –
Cais Cynllunio 2020/1590/FUL - Newid defnydd o Gyfleuster Cymunedol (Dosbarth
D2) i Anheddau Preswyl (Dosbarth C3) ac ailddatblygu'r safle i ddarparu 23 o
unedau gydag estyniad to cysylltiedig, mynediad newydd i gerbydau, gwaith
isadeiledd a thirlunio yn hen safle Clwb Bechgyn Abertawe, Berwick
Terrace, Mount Pleasant, Abertawe Cyn gohirio: Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Diwygiad i dudalen 105 yr adroddiad: Newid y geiriad 'symud y rhwystr cerbydau ar hyd Berwick
Terrace' i 'ailosod y rhwystr cerbydau ar hyd Berwick Terrace'. Mae hyn er mwyn
adlewyrchu mai pwrpas cael gwared ar y rhwystr yw caniatáu mynediad i gerbydau
i'r safle yn unig. Bydd Berwick Terrace
yn parhau i fod ar gau ar ôl y gwaith datblygu, ond gyda'r pwynt cyfyngu wedi'i
adleoli i'r de ar hyd Berwick Terrace,
y tu hwnt i'r mynediad newydd. Diwygio Amod 6 ar dudalen 108 i'r canlynol: 6. Ni fydd y fflatiau a gymeradwyir drwy hyn yn
cael eu dwyn i feddiant buddiol hyd nes y bydd y rhwystrau ar Berwick Terrace wedi'u hadleoli i
leoliad i'r de o'r mynediad newydd arfaethedig a bod diwygiadau i'r Gorchymyn
Rheoleiddio Traffig wedi'u cwblhau. 3) cymeradwyo'r
cais cynllunio y cyfeirir ato isod am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad. #(Eitem 3) –
Cais Cynllunio 2020/2393/TEM - Defnyddio tir ar gyfer rali gwersylla ar gyfer
uchafswm o 130 o unedau rhwng 25 Awst 2021 a 5 Medi 2021 (cynhwysol) ym Maes
7700, Bank Farm, Horton, Abertawe |