Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2021 fel cofnod cywir. |
|||||
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|||||
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. PDF 433 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn gofyn
am ganiatâd i addasu Cytundeb Adran 106 sy’n ymwneud â chaniatâd cynllunio 2017/1451/OUT (ar gyfer datblygiad
preswyl hen Lofa Cefn Gorwydd, Gorwydd
Road, Tre-gŵyr). Cyflwynwyd y cais o dan Adran 106A(1)(a) o Ddeddf
Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd) gyda'r ymgeisydd yn ceisio
diwygio'r agweddau canlynol ar gytundeb Adran 106; (i) newid rhaniad deiliadaeth y tai fforddiadwy o
30% canolradd a 70% rhentu cymdeithasol i 100% canolradd; (ii) dileu'r cyfraniad
addysg ar gyfer yr ysgolion cyfrwng Saesneg a newid y pwynt sbarduno ar gyfer
talu; a (iii) lleihau cyfraniad y
briffordd o £35,000 i £20,000. Cafodd yr hanes cefndir ynghylch rhoi'r caniatâd gwreiddiol yn 2018 a'r
gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ynghylch y cynigion diwygiedig eu hamlinellu a'u
nodi yn yr adroddiad. Anerchwyd y
pwyllgor gan Gareth Evans (gwrthwynebydd) a Phil Baxter (asiant). Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd Sue Jones (Aelod Lleol) a siaradodd
yn erbyn y cynigion. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn; adroddwyd am 12 llythyr gwrthwynebiad a anfonwyd yn
hwyr. Mae'r pwyntiau gwrthwynebu perthnasol a geir yn y
llythyrau hyn yn ail-ddweud y pwyntiau gwrthwynebu a restrwyd eisoes yn yr
adroddiad cynllunio. (Sylwer:
Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i
Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y cyngor y diwrnod cyn y
cyfarfod) Penderfynwyd gwrthod y cais i addasu cytundeb Adran 106 am y
rheswm canlynol: "Byddai'r
cynnig i ddarparu tai canolradd fel yr unig fath o dai fforddiadwy a ddarperir
o fewn y safle datblygu a sicrheir gan gytundeb Adran 106 yn methu darparu
cymysgedd cytbwys o ddeiliadaethau tai, a fyddai'n niweidiol i adfywio
cymunedol a chydlyniant cymdeithasol". |
|||||
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer: Dosbarthwyd
yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r
Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod) 1) cymeradwyo'r
cais cynllunio y cyfeirir ato isod yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn yr
adroddiad. #(Eitem 1) – Cais Cynllunio 2020/2419/RES - Adeiladu
13 o anheddau ac isadeiledd ategol, (manylion golwg, tirlunio, cynllun a maint
y datblygiad yn unol â chais amlinellol 2014/0977 a roddwyd ar apêl ar 11
Ionawr 2018) yn Cwmrhydyceirw Quarry Co Ltd, Great Western Terrace,
Cwmrhydyceirw, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn:
Ers cwblhau'r adroddiad, cadarnhaodd Cyfoeth Naturiol Cymru nad oeddent
wedi derbyn unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig. #(Eitem 2)
– Cais Cynllunio 2020/2068/S73 - Cynnig i roi'r gorau i safleoedd tirlenwi a
gweithrediadau eraill a alluogir gan ddatblygiad preswyl ag oddeutu 300 o
anheddau, mannau agored cyhoeddus, priffyrdd a gwaith ategol cysylltiedig
(amlinellol) (amrywiad ar amod 2 o ganiatâd cynllunio 2014/0977 a roddwyd ar 11
Ionawr 2018 i ganiatáu i geisiadau am faterion a gadwyd yn ôl gael eu hymestyn
am 2 flynedd arall nes 11 Ionawr 2023) yn Cwmrhydyceirw Quarry
Co Ltd, Great Western Terrace,
Cwmrhydcyeirw, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb A106. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Dylid diwygio Amodau 1 a 2 sydd wedi'u cynnwys yn
adran 'Argymhelliad' yr adroddiad fel a ganlyn; 1: Caiff manylion golwg, tirlunio, cynllun a maint,
(a elwir yn "faterion a gadwyd yn ôl" wedi hyn) eu cyflwyno a'u
cymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol cyn i unrhyw
ddatblygiad sy'n destun unrhyw gais/geisiadau materion a gadwyd yn ôl a
gyflwynir ar ôl dyddiad yr hysbysiad penderfynu hwn ddechrau, a dylid cwblhau'r
datblygiad fel y'i cymeradwywyd. Rheswm: Nid yw'r cais, ar ffurf amlinellol, yn rhoi
digon o fanylion i ystyried y materion hyn ar hyn o bryd. 2. Bydd unrhyw gais i gymeradwyo'r materion a
gadwyd yn ôl yn cael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol erbyn 11 Ionawr
2023 fan bellaf. Rheswm: Mae'n ofynnol ei osod yn unol ag Adran 92
(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
#(Eitem 3)
– Cais Cynllunio 2020/2544/FUL - Adeiladu 21 o fflatiau preswyl mewn 1 bloc pum
llawr gyda mynediad, parcio a gwaith cysylltiedig ar hen safle Tŷ Russell,
31 Russell Street, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb A106. #Sylwer:
Diweddarwyd yr holl adroddiadau fel a ganlyn: Y DIWEDDARAF AM Y
POLISI - POB CAIS Cymru’r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040 Ers cwblhau Agenda'r Pwyllgor, mabwysiadwyd 'Cymru’r
Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040', (Cymru’r Dyfodol: o hyn ymlaen) gan
Lywodraeth Cymru ac mae Polisi Cynllunio Cymru (11eg Argraffiad –
Chwefror 2021) wedi'i ddiwygio i gyd-fynd â hyn. Cymru’r Dyfodol yw’r cynllun datblygu cenedlaethol
bellach ar gyfer Cymru ac mae'n dylanwadu ar bob lefel o'r system gynllunio – y
cynllun datblygu cyntaf o'i fath. Mae gan y cynllun statws "cynllun
datblygu" a dyma haen uchaf y cynllun datblygu. Rhaid i bob
penderfyniad gyd-fynd yn awr â chynllun
Cymru’r Dyfodol oni bai fod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall. Mae'n
fframwaith y bydd Cynlluniau Datblygu Strategol yn adeiladu arno ar lefel
ranbarthol a Chynlluniau Datblygu Lleol ar lefel awdurdodau lleol. Dylai tair haen y cynllun datblygu gyd-fynd â’i gilydd
ac ategu ei gilydd. Mae'n ofynnol i Gynlluniau Datblygu Strategol nad ydynt
wedi'u paratoi mewn unrhyw ranbarth eto, gydymffurfio â Cymru’r Dyfodol. Yn yr
un modd, rhaid i Gynlluniau Datblygu Lleol gydymffurfio â Cymru’r Dyfodol a'r
Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer eu hardal. Rhaid i benderfyniadau cynllunio ar bob lefel o'r
system gynllunio yng Nghymru gael eu gwneud yn unol â'r cynllun datblygu yn ei
gyfanrwydd. Mae Cymru’r Dyfodol yn gynllun datblygu â
strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol
drwy'r system gynllunio, gan gynnwys cynnal a datblygu economi fywiog, sicrhau
datgarboneiddio a chydnerthedd yr hinsawdd, datblygu
ecosystemau cryf a gwella iechyd a lles ein cymunedau. Nid yw Cymru’r Dyfodol
yn ceisio gwneud penderfyniadau y mae’n fwy priodol eu cymryd ar lefel
ranbarthol neu leol. Mae'n darparu cyfeiriad strategol ar gyfer cynllunio o bob
maint ac yn nodi polisïau a materion allweddol i'w datblygu ar y raddfa
ranbarthol. Nid yw'n ceisio nodi'r union leoliad ar gyfer datblygiadau newydd
na maint y twf mewn aneddiadau unigol. Mae Cymru’r Dyfodol yn cynnwys 11 canlyniad. Mae'r
rhain yn uchelgeisiau cyffredinol sy’n seiliedig ar yr egwyddorion cynllunio
cenedlaethol a'r canlyniadau creu lleoedd cynaliadwy cenedlaethol a nodir ym
Mholisi Cynllunio Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r 11 Canlyniad yn ddatganiad o'r
sefyllfa yr hoffai Llywodraeth Cymru weld yng Nghymru ymhen 20 mlynedd. Mae'r
cynllun yn cynnwys 36 o bolisïau trosgynnol, y mae rhai ohonynt yn gymwys ar
lefel genedlaethol ledled Cymru a rhai yn benodol i ardal. Mae'r rhain yn bolisïau lefel uchel ac mae'r
Cynllun Datblygu Lleol yn unol â'r rhain yn gyffredinol. Bydd angen rhestru'r
polisïau penodol mewn adroddiadau cynllunio wrth symud ymlaen a bydd diweddariadau
ar bob cais yn nodi pa bolisïau sy'n berthnasol isod. Mae Cymru’r Dyfodol yn cynnwys 4 rhanbarth. Lleolir
Abertawe yn Rhanbarth y de-orllewin (gan gynnwys Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a
Chastell-nedd Port Talbot). Mae'r polisïau rhanbarthol yn canolbwyntio ar
bedwar maes – maent yn darparu fframwaith ar gyfer twf cenedlaethol, twf
rhanbarthol, rheoli twf a chefnogi twf. Nodir Bae Abertawe fel Ardal Dwf
Genedlaethol. Polisi Cynllunio Cymru
(11eg Argraffiad) Mae Polisi Cynllunio Cymru wedi'i ddiwygio ac mae'n
cynnwys cyfeiriad at bandemig COVID-19 a dogfen
Adeiladu Lleoedd Gwell Llywodraeth Cymru sy'n nodi'r blaenoriaethau polisi
cynllunio a’r camau gweithredu mwyaf perthnasol i helpu gydag adferiad.
Ychwanegwyd gwybodaeth hefyd ynglŷn â'r Siarter Creu Lleoedd. Mae'r diweddariadau'n cynnwys hyrwyddo ymgorffori
ffynhonnau dŵr yfed neu orsafoedd ail-lenwi fel rhan o ddatblygiad mewn
mannau cyhoeddus, a dylid rhoi isadeiledd teithio llesol / cludiant cyhoeddus
ar waith yn gynnar yn y broses ddatblygu. Drwy gydol Polisi Cynllunio Cymru gwnaed newidiadau
i adlewyrchu'r newid enw ar gyfer Cymru’r Dyfodol o'r Fframwaith Datblygu
Cenedlaethol, a hefyd newidiadau i'r derminoleg ynghylch 'newid yn yr hinsawdd'
i adlewyrchu datganiad Llywodraeth Cymru o'r 'argyfwng hinsawdd' ym mis Ebrill
2019. Eto, caiff newidiadau polisi eu cynnwys isod lle bônt yn berthnasol: Ceir dolenni i bob dogfen isod: https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2021-02/polisi-cynllunio-cymru-rhifyn-11.pdf |