Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2021 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cais cynllunio
ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Penderfynwyd cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir
ato isod am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad. (Eitem 1) Cais Cynllunio 2020/1473/S73 - Adeiladu
10 uned ar gyfer defnydd Dosbarth B1 a B2 (amrywiad ar Amod 2 Caniatâd
Cynllunio 2014/1872 a roddwyd ar 11 Awst 2016 i ganiatáu tynnu'r 4ydd allanfa
oddi ar y cylchfan i mewn i'r safle) ar dir gyferbyn
â Lyte Ladders (Makro gynt), Beaufort Reach, Parc Menter Abertawe, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. |