Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2020 fel cofnod cywir. |
|
Gorchymyn Cadw Coed Dros Dro - GCC 671 Tir gerllaw 42 Llwyn Close, Sgeti, Abertawe. PDF 892 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn gofyn
am ystyriaeth i gadarnhau'r Gorchymyn Cadw Coed dros dro sef GCC 671, Tir
gerllaw 42 Llwyn Close, Sgeti, Abertawe (2020) fel gorchymyn llawn. Cafodd manylion cefndir a hanes y mater, ynghyd â rhoi'r gorchymyn dros dro
yn y lle cyntaf ym mis Mawrth 2020, eu hamlinellu a'u manylu gan Swyddogion.
Roedd y gorchymyn yn cwmpasu dwy goeden yn y lleoliad. Nodwyd bod teitl y
gorchymyn cychwynnol ychydig yn anghywir gan mai enw'r ffordd yw 'Llwyn Mawr
Close' ac nid 'Llwyn Close'. Amlinellwyd y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd i'r gorchymyn dros dro yn yr
adroddiad. Yn dilyn y gohiriad yn y cyfarfod ym mis Rhagfyr, roedd swyddogion wedi
cyhoeddi gorchymyn dros dro pellach i warchod y coed. Amlinellwyd bod peth mân waith wedi'i wneud ar un o'r coed gan weithwyr
proffesiynol cymwysedig yn dilyn cytundeb gan swyddogion. Rhoddodd David Stanton (gwrthwynebydd) anerchiad i'r Pwyllgor a siaradodd
yn erbyn y cynigion i osod GCC ar y goeden. Dywedodd ei fod yn dymuno garchod y
goeden a'i fod wedi gwneud rhywfaint o waith ar y goeden, a gymeradwywyd gan
swyddogion, ar gost sylweddol iddo'i hun. Dywedodd ei fod yn dymuno gwarchod a
gwella'r goeden a'r amgylchedd lleol. Penderfynwyd cadarnhau'r Gorchymyn Cadw Coed ar y tir
gerllaw 42 Llwyn Close, Sgeti, Abertawe (2020), gan addasu'r teitl i "Tir
gerllaw: 42 Llwyn Mawr Close, Sgeti, Abertawe (2020)." |