Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau
canlynol: Y Cynghorydd C
Anderson - Personol – Cais Cynllunio 2020/0059/FUL – mae'r ymgeisydd yn hysbys
i mi. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Gorchymyn Cadw Coed Dros Dro - GCC 671 Tir gerllaw 42 Llwyn Close, Sgeti, Abertawe. PDF 892 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn gofyn
am ystyriaeth o'r cadarnhad, fel Gorchymyn llawn, am Orchymyn Cadw Coed dros
dro 671, tir gerllaw: 42 Llwyn Close, Sgeti, Abertawe (2020). Amlinellwyd manylion cefndir y mater. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Roedd sylwadau hwyr a ffotograffau gan wrthwynebydd wedi'u cyflwyno
ynghyd â chais gan y gwrthwynebydd i'r Pwyllgor ohirio'r cais gan nad oedd yn
gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno sylwadau'n bersonol. (Sylwer: Dosbarthwyd y sylwadau/ffotograffau y cyfeirir atynt uchod i
Aelodau'r Pwyllgor â'u chyhoeddi ar wefan y cyngor cyn y cyfarfod) Penderfynwyd gohirio'r adroddiad hwnnw tan gyfarfod
nesaf y pwyllgor er mwyn rhoi cyfle i'r gwrthwynebydd fod yn bresennol. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cais
cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer:
Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i
Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y cyngor y diwrnod cyn y
cyfarfod) 1) cymeradwyo'r
cais cynllunio y cyfeirir ato isod am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad. #(Eitem 1) –
Cais Cynllunio 2020/0059/FUL - Ailddatblygu'r safle i ddarparu 21 o fflatiau
hunangynhwysol mewn un bloc 4 llawr gyda gwaith cysylltiedig yn 2-3 Tontine
Street, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Ychwanegiad at yr Adroddiad ar dudalen 55 Tai Fforddiadwy Fel arfer, dylai cynigion a oedd yn cynnwys
datblygiadau preswyl ar safleoedd o fewn terfynau aneddiadau â lle i 5 annedd neu
fwy ddarparu ar gyfer tai fforddiadwy ar y safle, yn unol â gofynion Polisi H
3. Mae'r safle ymgeisio o fewn yr Ardal Ganolog a
byddai'r gofyniad hwnnw'n estyn i 20%. Er y gofyniad polisi arferol hwn, mae'r
cynllun, ym mharagraff 2.4.17, yn nodi'n benodol y bydd 'cynigion ar gyfer
addasu, dymchwel neu newid defnydd eiddo masnachol yn cael eu heithrio o'r
polisi'. Ar y sail hon, nid yw darparu tai fforddiadwy ar y safle'n ofyniad
polisi. |
|
Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol (2019-20). PDF 569 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas
adroddiad "er gwybodaeth" a oedd yn hysbysu Aelodau'r Pwyllgor fod Adroddiad
Monitro Blynyddol cyntaf Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl) wedi'i gyhoeddi
ar wefan y cyngor, a'i fod yn darparu crynodeb byr o'r prif ganfyddiadau ac yn
amlinellu bod yr holl dargedau a osodwyd yn cael eu cyflawni. |