Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Datganodd y Cynghorydd C R Evans gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod Rhif 71 – Cais Cynllunio – 2020/0108/FUL – tir i'r gogledd o Rodfa Fadog, Cwmrhydyceirw, Abertawe SA4 6LQ a gadawodd y cyfarfod ar ôl gwneud datganiad personol ynghylch y cais. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2020 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd: - 1)
CYMERADWYO'R cais cynllunio y
cyfeirir ato isod yn unol ag argymhelliad yn amodol ar GYTUNDEB A106
a'r amodau diwygiedig fel y'u nodir ar y daflen ddiweddaru. (Sylwer: Dosbarthwyd yr
wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r Pwyllgor
yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod #) # (Eitem 1) - Cais
Cynllunio 2020/0108/FUL - Dymchwel yr adeilad sydd eisoes yn bodoli ar y safle
ac adeiladu datblygiad preswyl sy'n cynnwys 29 o unedau fforddiadwy (gan
gynnwys 7 tŷ a 22 fflat), 3 uned manwerthu, lleoedd parcio, tirlunio a
gwaith atodol cysylltiedig ar dir i'r gogledd o Rodfa Fadog, Cwmrhydyceirw,
Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl. Hysbyswyd y Pwyllgor
am:
·
I
resymoli'r amodau, mae amodau 4 a 6 wedi'u cyfuno, fel y mae amodau 10 a 15. Er
mwyn hwyluso'r broses o ddymchwel yr adeilad presennol ar y safle, diwygiwyd y
sbardunau ar gyfer yr amodau cyn cychwyn. Atodwyd rhestr lawn o'r amodau diwygiedig
i'r daflen ddiweddaru. Anerchwyd y Pwyllgor gan Geraint John (Geraint John
Planning) (asiant) a siaradodd o blaid y cynigion. Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorydd C R Evans (Aelod
Lleol) a amlinellodd ei wrthwynebiad personol i'r datblygiad arfaethedig. 2)
Cymeradwyo'r cais cynllunio isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad. (Eitem 2) –
Cais Cynllunio 2020/0257/FUL – gosod parc solar 9MW, sy'n cynnwys hyd at 25,000
o baneli ffotofoltäig, 9 chaban mewnol/trawsnewid,
adeilad rheoli sengl a gwaith cysylltiedig ar Fferm Felin Wen, Rhydypandy Road,
Treforys, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl. |
|
Cais Cynllunio 2019/1342/FU L2 - The Bryn, Sgeti, Abertawe. PDF 98 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu gwybodaeth am benderfyniad apêl yr Arolygiaeth Gynllunio i
roi caniatâd mewn perthynas â Chais Cynllunio Cyf: 2019/1342/FUL
- 2 The Bryn, Sgeti, Abertawe - dymchwel yr annedd presennol ac adeiladu 1
byngalo ar wahân a 2 annedd ar wahân. |