Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 455 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cais
cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd 1) cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir ato isod am y rhesymau
a amlinellir yn yr adroddiad/isod: (Sylwer: Cafodd y diweddariadau i'r
adroddiad y cyfeirir ato isod eu dosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor, yr asiant a'r
Aelod Lleol a'u cyhoeddi ar wefan y cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod) # (Eitem 1)
– Cais Cynllunio 2018/2697/OUT - Tir i'r de o'r A4240, Parc Mawr, Penllergaer,
Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl a chynhwysfawr. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am lythyr a anfonwyd yn hwyr oddi wrth y Cynghorydd E W
Fitzgerald at y Prif Weithredwr yn gofyn i ohirio'r cais hwn er mwyn caniatáu
i'r Aelodau ymweld â'r safle a galluogi aelodau'r cyhoedd i annerch y Pwyllgor
yn bersonol. Ymateb Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas yn amlinellu’r 3 llythyr gwrthwynebiad ychwanegol a anfonwyd yn hwyr. Adroddwyd am becyn briffio/gwybodaeth a anfonwyd yn hwyr gan yr ymgeisydd
sy’n ymwneud â'r safle. Adroddwyd am lythyr gwrthwynebu hwyr a phecyn gwybodaeth gan Gyngor Cymuned
Penllergaer. Mae Gweinidogion Cymru wedi derbyn cais 'galw i mewn' ar gyfer y cais hwn
sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd ac maent wedi cyhoeddi cyfarwyddyd sy’n
atal yr awdurdod rhag rhoi caniatâd ar gyfer y datblygiad hwn heb awdurdodiad
ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru. Mae'r cyfarwyddyd yn atal y cyngor rhag rhoi
caniatâd cynllunio yn unig; nid yw'n rhwystro'r cyngor rhag parhau i brosesu
neu ymgynghori ar y cais neu benderfynu cymeradwyo'r cais. Nid yw'n rhwystro'r
cyngor rhag gwrthod rhoi caniatâd cynllunio ychwaith. Mae'r Gweinidogion yn
ceisio penderfynu ar geisiadau galw i mewn o fewn 21 diwrnod i dderbyn yr
adroddiad a anfonwyd cyn gynted ag y cwblhawyd yr agenda Mae paragraff olaf adran 7.8 ar dudalen 119 yn nodi bod y safle yn safle a ddyrennir. Dylid egluro bod safle'r cais hefyd yn cynnwys
tir o fewn y lletem las (polisi ER 3) ac ardal gwarchod y tirlun (ER 5). Yn
gyffredinol, mae'r parseli datblygu arfaethedig, fel y'u nodir yn yr uwch
gynllun darluniadol, yn osgoi dynodiadau diogelu'r lletem las/y dirwedd, a
byddent yn amodol ar geisiadau a gadwyd yn ôl i ystyried y manylion/cynllun yn
y cyfnod dilynol. Fodd bynnag, byddai ffordd gyswllt yr A484 a llwybr teithio
llesol 14 yn rhedeg drwy'r ddau ddynodiad hyn. Mae polisïau ER 3 ac ER 5 yn
ceisio diogelu natur agored y lletem las a sicrhau nad yw cynigion yn cael
effaith andwyol sylweddol ar gymeriad ac ansawdd tirwedd y sir. I ddechrau,
mae'r cysylltiadau hyn yn ofynion hanfodol ac annatod o ddyrannu safleoedd a
derbynnir y byddai'r isadeiledd hwn yn rhedeg drwy'r ardaloedd hyn fel y
dangosir yn y cynllun cysyniad. Yn ogystal, ni ystyrir y byddai'r cynigion yn
effeithio ar natur agored y lletem las nac yn cael effaith andwyol sylweddol ar
gymeriad ac ansawdd y dirwedd. Byddai'r ffordd yn destun cais am faterion a
gadwyd yn ôl yn y dyfodol a byddai angen tirlunio er mwyn darparu sgrinio
ychwanegol ond, mewn egwyddor, ystyrir bod cynnwys yr isadeiledd trafnidiaeth
leol yn dderbyniol. Mae polisi CV2 Datblygu yng Nghefn gwlad yn caniatáu
datblygu darpariaeth isadeiledd angenrheidiol, megis isadeiledd trafnidiaeth
gofynnol, ar yr amod y caiff uniondeb y cefn gwlad ei warchod a'i wella. Atodir crynodeb o bolisïau ER 3 a CV 2 yn Atodiad A ynghyd â darn o'r CDLl. Mae gwall ar dudalen 100 yr adroddiad gan fod un gwrthwynebiad ychwanegol
wedi ei anfon ymlaen oddi wrth yr asiant ar gyfer y cais. Ni chodwyd unrhyw
faterion newydd ond dylai adran 6, paragraff 3 ddarllen "8"
gwrthwynebiad. Mae gwall ar dudalen 119 yr adroddiad. Dylai adran 7.9, paragraff 1
ddarllen "dibwys" yn hytrach na "darllenadwy". Mae gwall ar dudalen 123 yr adroddiad ym mharagraff 3 a ddylai ddatgan y
byddai 3 LEAP (Ardal Chwarae Leol â Chyfarpar) yn cael eu darparu ar y safle yn
hytrach na 2. Byddai LEAP ychwanegol yn agos at y NEAP (Cymdogaeth Addas ar
gyfer Chwarae) er mwyn darparu gwell ardal chwarae. Holodd Ecolegydd y cyngor ynghylch lleoliad y 62 o flychau ystlumod ac adar
a gynigiwyd yng ngham 1A (fel y nodwyd yn y
strategaeth isadeiledd glas gwyrdd) a nodwyd ar dudalen 156, paragraff 2. Nodir
40 ohonynt ar gynllun tirwedd cam 1A ond nid yw'r rhain yn cael eu hystyried yn
ddigonol gan yr Ecolegydd a bydd amodau 15 a 65 yn cael eu diweddaru i
adlewyrchu hyn. Mae angen un diwygiad yn yr adran Rhwymedigaethau Cynllunio (7.27), yn y
pwynt bwled cyntaf – byddai'r tai fforddiadwy yn cael eu gwerthu naill ai drwy
landlord cymdeithasol cofrestredig (LCC) neu'r cyngor. Hepgorwyd yr
eitem olaf yn y drafft. Amodau a Nodiadau
Cyngor: 11) Byddai amod 15 (Cynllun Rheoli Tirwedd ac
Ecolegol) yn cael ei ddiwygio i gynnwys y canlynol (ychwanegu mewn llythrennau
italig i gael eglurhad): · Manylion llawn y gwelliannau ecolegol o fewn pob cyfnod (gan gynnwys
lleoliad 62 o flychau adar ac ystlumod yng ngham 1A er mwyn osgoi amheuaeth) 12) Byddai amod 47 (Strategaeth
Gwefru ULEV) yn cael ei newid o'r canlynol: "Strategaeth Gwefru Cerbydau Isel Iawn" i: "Strategaeth Gwefru Cerbydau Allyriadau Isel Iawn" 13) Diwygio amod 65
(cam 1A Gweithredu Tirlunio) o'r canlynol: ... Bydd y manylion hefyd yn cynnwys gweithredu'r gwelliannau ecolegol ar
gyfer am 1A fel y nodwyd ar y Cynllun Tirwedd Meddal (cam 1A – coed yn unig)
(Darluniad rhif 1565704-SBC-00-XX-DR-L-001 Rev PL05)
... i: ... Bydd y
manylion hefyd yn cynnwys rhoi'r gwelliannau ecolegol ar gyfer cam 1A ar waith
fel y'u cymeradwywyd yn y Cynllun Rheoli Tirwedd ac Ecolegol ar gyfer y cyfnod
hwn sy'n
ofynnol yn ôl amod 15. 14) Ychwanegu nodyn
cyngor ynghylch trafodaethau am iechyd yn y dyfodol, fel y nodwyd ar dudalen
171. 15) Caiff y nodyn
cyngor ynghylch polisïau'r CDLl ei ddiweddaru i
gyfeirio at Bolisïau CV2 ac ER3. Anerchwyd y Pwyllgor gan Pete Sulley
(asiant) a siaradodd o blaid y cais. Anerchodd y Cynghorydd E W Fitzgerald (Aelod Lleol) y Pwyllgor a siaradodd
yn erbyn y datblygiad arfaethedig ac amlinellodd unwaith eto ei chais a'i
chefnogaeth ar gyfer cais preswylwyr i ohirio'r mater nes y gellir cynnal
ymweliad â'r safle a nes y bydd aelodau'r cyhoedd yn gallu annerch y Pwyllgor. Ar ôl gweld cyflwyniad gweledol helaeth y swyddogion, ni wnaed unrhyw
gynnig ar gyfer ymweliad â'r safle gan Aelodau'r Pwyllgor. Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gadarnhad gan Lywodraeth
Cymru nad ydynt yn bwriadu galw'r cais i mewn, a thrwy hynny gael gwared ar eu
Hysbysiad Gohirio, ac yn amodol ar yr adran amodau a rhwymedigaethau cynllunio
diwygiedig uchod. |