Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau/datganwyd y buddiannau canlynol. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y Pwyllgorau
Cynllunio a gynhaliwyd ar 17 a 22 Gorffennaf a 4 a 7 Awst 2020 fel cofnod
cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: (Eitem 2) –
Cais Cynllunio 2020/0097/FUL - Codi llety aml-lawr pwrpasol i fyfyrwyr gyda 328
o welyau ynghyd â lleoedd parcio, gwaith mynediad ac isadeiledd cysylltiedig ar
dir i'r gogledd o Jockey Street,
Abertawe. Gohiriwyd y cais
er mwyn caniatáu i ragor o wybodaeth gael ei hystyried ar faterion priffyrdd. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 297 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer:
Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i
Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y cyngor y diwrnod cyn y
cyfarfod) Penderfynwyd 1) Gohirio’r cais cynllunio y cyfeirir ato isod am ymweliad
safle. #(Eitem 1)
– Cais Cynllunio 2018/2634/FUL - Datblygiad preswyl (31 o anheddau) gydag
isadeiledd ffyrdd, darpariaeth ddraenio a gwaith tirlunio cysylltiedig ar dir
oddi ar Higher Lane, Langland,
Abertawe. Cyn gohirio: Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl. Anerchodd Fiona Power (gwrthwynebydd) y pwyllgor a siaradodd yn erbyn y
cynigion. Anerchodd Jason Evans (asiant) y pwyllgor a siaradodd o blaid y cynigion. Anerchodd y Cynghorydd M A Langstone (Aelod Lleol) y pwyllgor a siaradodd
yn erbyn y datblygiad arfaethedig. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am 3 e-bost/llythyr gwrthwynebiad hwyr. Diweddariadau i'r amodau: Mae Amod 2 wedi'i ddiweddaru i ddileu'r cyfeiriad at gynllun sydd bellach
wedi'i ddisodli (Lluniadu 18051-SK200E llain welededd pellter gweld ar gyfer
stopio o ran dilyn llwybr cerbydau sbwriel 23 Ionawr 2020) gan fod cynlluniau
newydd wedi'u darparu gyda'r cyfeiriadau canlynol: Derbyniwyd B01 D
dadansoddiad o symudiad a llwybr cerbydau sbwriel wrth fynedfa arfaethedig y
safle, B02 D dadansoddiad o symudiad a llwybr cerbydau sbwriel wrth fynedfa
arfaethedig y safle, B03 D dadansoddiad o symudiad a llwybr cerbydau sbwriel
wrth y pen troi arfaethedig', ar 6 Ebrill 2020. Amod 2 Diwygiwyd fel a ganlyn: Rhaid ymgymryd â'r datblygiad yn unol â'r cynlluniau a'r
dogfennau cymeradwy canlynol: 112 - delweddau o’r ffin arfaethedig, 101 C - cynllun lleoliad
y safle, 107 F - strydluniau, 108 C – toriad safle, 109 - toriadau ffiniau, 110
A – llwybr y droedffordd newydd arfaethedig, 200 C - cynlluniau llawr lleiniau
1-4, 201 C - gweddluniau lleiniau 1-4, 202 D - cynlluniau llawr lleiniau 5-6,
203 E - gweddluniau lleiniau 5-6, 204 E - cynlluniau lleiniau 7-8, 205 E -
gweddluniau lleiniau 7-8, 206 C - cynlluniau lleiniau 9, 10, 17, 18, 23 a 24,
208 E - gweddluniau lleiniau 9, 10, 17, 18, 23 a 24, 209 F - cynlluniau
lleiniau 11 ac 16, 210 F - gweddluniau lleiniau 11 ac 16, 211 F - cynlluniau
lleiniau 12 a 15, 212 E - gweddluniau lleiniau 12 a 15, 213 D - cynlluniau
llain 25, 214 E - gweddluniau lleiniau 25, 215 C - cynlluniau lleiniau 19-22,
216 C - gweddluniau lleiniau 19-22, 217 C - cynlluniau lleiniau 26-27, 219 C -
cynlluniau lleiniau 28-31, 220 A cynlluniau a gweddluniau mannau parcio
(sengl), 222 B - cynlluniau a gweddluniau mannau parcio (i ddau gerbyd gyda
storfa gefn), 223 B - cynlluniau a gweddluniau gorsaf bwmpio dŵr brwnt caeëdig, 302 PL03 - cynllun mannau agored cyhoeddus,
derbyniwyd arolwg cynefin ac ystlumod cam 1 estynedig, a dderbyniwyd ar 23
Ionawr 2020. Cynllun deunydd adnoddau naturiol, cynllun diogelu coed,
A01 H - mynedfa safle arfaethedig a gwelliannau cysylltiedig i’r briffordd oddi
ar Higher Lane, A02 A - mynedfa arfaethedig - llain
welededd y pen tro deheuol a mannau symud ger lleiniau 22-23, B01 D -
dadansoddiad o symudiad a llwybr cerbydau wrth fynediad y safle arfaethedig,
B02 D - dadansoddiad o symudiad a llwybr cerbydau wrth fynediad y safle
arfaethedig, B03 D - dadansoddiad o symudiad a llwybr cerbydau wrth y pen troi
arfaethedig, B04 B - dadansoddiad o symudiad a llwybr injan dân ar y safle
arfaethedig, arolwg moch daear a dderbyniwyd ar 6 Ebrill 2020. 100 T - cynllun safle arfaethedig, 102 R - cynllun gwaith
allanol, 103 L - cynllun deunyddiau, 104 M - cynllun uchder lloriau, 105 M -
cynllun fforddiadwy, 106 L - cynllun trefniad parcio, 111 E - cynllun cwmni
rheoli, J 101 - cynllun lefelau, 102 K - cynllun draenio, cynllun teithio dros
dro, datganiad trafnidiaeth, 301 P15 - cynllun gwaith tirlunio meddal, asesiad
effaith coedyddiaeth, asesiad effaith coedyddiaeth a datganiad dull
coedyddiaeth, D100 G - strategaeth ddraenio, a dderbyniwyd ar 21 Mai 2020. 218 D - gweddluniau lleiniau 26-27, 219 D - gweddluniau
lleiniau 28-31, a dderbyniwyd ar 22 Mai 2020. Rheswm: Er mwyn osgoi amheuaeth a sicrhau cydymffurfio
â'r cynlluniau cymeradwy. Amod 3 Fe’i diwygiwyd i gynnwys 'gwybodaeth' ynghylch marchnata
eiddo yn y dyfodol fel a ganlyn: Dim ond person â chysylltiad lleol, neu weddw neu ŵr
gweddw'r fath berson ac unrhyw ddibynyddion o'r fath berson sy'n byw gydag ef
caiff fyw yn yr anhedd-dai a nodir fel "tai ar
gyfer anghenion lleol" oni bai fod yr eiddo wedi'i farchnata ar werth am
gyfnod o 16 wythnos o leiaf am bris gwerth y farchnad, fel y manylir yn nodyn 1
isod, ac ar ddiwedd y cyfnod 16 wythnos, nid oes person â chysylltiad lleol
wedi'i nodi fel prynwr. Mae’n rhaid i’r broses hon gael ei hailadrodd ar gyfer pob
olynydd yn y teitl (ailwerthu) i bob annedd unigol. Yn yr amod hwn mae'r diffiniadau canlynol yn berthnasol: Mae 'Person â Chysylltiad Lleol' yn golygu unigolyn sy'n
bodloni un o'r amodau canlynol cyn roedd yn byw yn yr annedd: (1) Mae'r person wedi bod mewn cyflogaeth ddi-dor yn yr
ardal leol a ddiffinnir am o leiaf y 9 mis diwethaf ac am o leiaf 16 awr yr
wythnos yn syth cyn dod i fyw yn yr annedd; neu (2) Mae angen i'r person fyw yn yr ardal leol a
ddiffinnir oherwydd bod angen gofal sylweddol arno gan berthynas sy'n byw yn yr
ardal leol a ddiffinnir, neu oherwydd bod angen iddo ddarparu gofal sylweddol i
berthynas sy'n byw yn yr ardal leol a ddiffinnir. Mae gofal sylweddol yn golygu
lefel o ofal y nodir ei bod o natur 'sylweddol' gan feddyg meddygol priodol neu
asiantaeth gymorth statudol berthnasol; neu (3) Mae'r person wedi byw yn barhaol yn yr ardal leol a
ddiffinnir am dair blynedd yn syth cyn dechrau byw yn yr annedd ac mae angen
annedd arall ar y person oherwydd newidiadau i'w aelwyd fel y manylir yn nodyn
1 isod: - Diffinnir 'yr ardal leol' fel wardiau gweinyddol y
cyngor sef, Llandeilo Ferwallt, Fairwood, Gŵyr,
Mayals, Newton, Ystumllwynarth, Pennard, Pen-clawdd a West Cross. Ni fydd y rhwymedigaethau sy'n gynwysedig yn yr amod hwn
yn rhwymol ac ni fydd modd eu gorfodi yn erbyn unrhyw forgeisedig neu bridiannai neu unrhyw dderbynnydd a benodir gan y fath
forgeisedig neu bridiannai neu unrhyw berson sy'n
derbyn y teitl drwy'r fath forgeisedig, bridiannai
neu dderbynnydd ar yr amod y bydd olynydd yn y teitl i'r fath berson bob amser
wedi'i rwymo gan y rhwymedigaethau sy'n gynwysedig yn yr amod hwn. Nodyn 1 Er mwyn marchnata’r eiddo i’w werthu am o leiaf 16
wythnos mae’n ofynnol i'r annedd gael ei hysbysebu gan siop gwerthwr tai yn yr
ardal leol a’i hysbysebu ar wefan asiantaeth eiddo boblogaidd. Dim ond pan fydd
yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn fodlon na chafwyd unrhyw gynigion priodol i
brynu gan berson sydd â chysylltiad lleol, y gellir marchnata'r eiddo i berson
nad yw'n bodloni'r meini prawf angen lleol, a'i werthu iddo. Dim ond o'r adeg y
mae prisiau gwerthu'r eiddo ar gael i'r cyhoedd ac mae cartref
arddangos/swyddfa werthu wedi'i sefydlu i brynwyr sydd â diddordeb ymweld â hi
i lywio’u penderfyniad i brynu'r eiddo y gall y cyfnod marchnata 16 wythnos
ddechrau. Mae amgylchiadau lle mae 'angen annedd arall ar y person
oherwydd newidiadau i'r aelwyd' yn cynnwys, (ond nid yw'n gyfyngedig i),
priodi, ysgaru, cael plant, angen mwy o le ar gyfer teulu sy'n tyfu, symud i
gartref llai sy'n fwy hylaw neu blant sy'n oedolion yn ffurfio aelwydydd newydd
ac yn prynu eiddo am y tro cyntaf, neu lle mae person yn dychwelyd i'r ardal
leol a ddiffinnir o fewn 12 mis i gwblhau addysg amser llawn ôl-uwchradd neu
gwblhau hyfforddiant sgiliau. Rheswm: I sicrhau bod y tai marchnad arfaethedig
(anheddau nad ydynt wedi'u diffinio fel tai fforddiadwy) yn diwallu angen
cymdeithasol neu economaidd lleol a nodwyd. Tudalen 140 - Diwygio '104 Pennard Drive' i '104 Higher Lane'. 2) cymeradwyo'r cais cynllunio
y cyfeirir ato isod am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad. #(Eitem 3)
– Cais Cynllunio 2020/0401/FUL - Adeiladu uned gyrru drwodd unllawr
(Dosbarth A1) gyda 22 o leoedd parcio a gwaith tirlunio cysylltiedig yn Fabian Way, Port Tennant, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchodd y Cynghorydd C Lloyd y Pwyllgor a darllenodd lythyr gwrthwynebu
oddi wrth Mrs Linda Summonds (preswylydd lleol) yn
erbyn y datblygiad arfaethedig. Anerchodd y Cynghorwyr C Lloyd a J Hale (Aelodau Lleol) y Pwyllgor a
siaradodd y ddau yn erbyn y datblygiad arfaethedig. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am e-bost gwrthwynebu hwyr. |