Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Datganodd y Cynghorydd P M Black gysylltiad personol a rhagfarnol ag Eitem
5 – Cais Cynllunio 2020/0853/s73, a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth. Datganodd y
Cynghorydd M H Jones gysylltiad personol ag Eitem 1 – Cais Cynllunio
2019/2739/FUL. Datganodd y Cynghorydd M B Lewis gysylltiad personol ag Eitem 1 – Cais
Cynllunio 2019/2739/FUL. Datganodd y Cynghorydd P Lloyd gysylltiad personol ag Eitem 5 – Cais
Cynllunio 2020/0853/S73. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 2 Mehefin 2020 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: (Eitem 4) 2020/0097/FUL- Tir i'r gogledd o Jockey
Street, Abertawe. Tynnwyd yr eitem yn ôl o'r agenda oherwydd y nodwyd
yr wybodaeth anghywir am berchnogaeth y tir ar y ffurflen gais. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd 1) Cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir ato isod am y rhesymau a
nodwyd yn yr adroddiad. (Sylwer: Cafodd y diweddariadau i'r adroddiad
y cyfeirir ato isod eu dosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor a'u cyhoeddi ar wefan y
cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod, heblaw am y diweddariad llafar ar eitem 5#) #(Eitem 1)
– Cais Cynllunio 2019/2730/FUL- Cartref Nyrsio a Phreswyl Hillside,
Ffynone Road, Uplands,
Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am 8 llythyr gwrthwynebiad a anfonwyd yn hwyr. Anerchwyd y Pwyllgor gan Gareth Bamsey
(ymgeisydd) a Huw Griffiths (asiant), a oedd yn siarad o blaid y cynigion. Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorydd P N May (Aelod Lleol) a siaradodd yn
erbyn y datblygiad arfaethedig ac a amlinellodd ei gefnogaeth i gais y
preswylwyr a'i gydweithiwr ward, y Cynghorydd Mann, i'r mater gael ei ohirio
cyn ymweld â'r safle. Ar ôl gweld cyflwyniad gweledol helaeth y swyddogion ni wnaed unrhyw gynnig
am ymweliad safle gan Aelodau # (Eitem 2)
– Cais Cynllunio 2020/0071/FUL - 41A Beaufort Avenue, Langland, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am 3 llythyr gwrthwynebiad a anfonwyd yn hwyr. Diwygiwyd tudalen 38 o'r adroddiad fel a ganlyn: Disgrifiad o'r datblygiad – Mae'r cyfeiriad at 'Gyntedd Blaen' yn
gamgymeriad. Dileu o'r disgrifiad i ddiwygio fel a ganlyn: Cadw estyniad cefn deulawr, ychwanegu balconi blaen
ar y llawr cyntaf, newidiadau i'r ffenestriad, ychwanegu talcen blaen i'r to,
mynedfa newydd i gerbydau, dymchwel garej ar wahân, cael gwared ar y cyntedd
blaen, adeiladu garej ochr atodedig a ffens ffin ochr.
(Eitem 3) – Cais Cynllunio 2019/2903/RES - Campws Townhill, Townhill Road,
Y Cocyd, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorydd P N May (Aelod lleol) a siaradodd o blaid
yr angen i sicrhau sgrinio digonol o'r safle ar gyfer trigolion Lôn Bryngwyn. # (Eitem 5) – Cais Cynllunio 2020/0853/S73 - Tir yn Upper Bank Pentrechwyth, Nantong Way, Pentrechwyth, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Mae gwall ar dudalen 111 yr adroddiad, ym mharagraff cyntaf yr adran
Dylunio ac Effaith Weledol, mae'r adroddiad yn datgan: "Byddai dau eiddo pen ar leiniau 206-210 yn
cael eu codi 450mm, ond byddai dau eiddo pen ar leiniau 213-217 yn cael eu
gostwng 300mm." Dylai hwn ddarllen fel a ganlyn: "Byddai tri eiddo pen (rhifau 206 – 208) yn cael eu codi 300mm ond
byddai tri eiddo pen (rhifau 215 – 217) yn cael eu gostwng 450mm. " |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
i ddiwygio cytundeb A106 mewn perthynas â'r cais. Amlinellwyd y
materion cefndir a'r hanes ynghylch y cais a gymeradwywyd ym mis Chwefror 2020
a manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Ers cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ym mis Chwefror 2020, roedd yr ymgeiswyr
bellach wedi cyflwyno cynllun diwygiedig ac wedi tynnu sylw at nod y cynllun, sef: ·
Rhoi cyfle i wella dichonoldeb
y prosiect i'r datblygwr a'r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) drwy
greu chwe uned breswyl ychwanegol a chymysgedd wedi'i ddiwygio; ·
Gwella'r cwantwm ar gyfer
gofod masnachol a phreswyl drwy gynlluniau mewnol wedi'u mireinio; ·
Gwella'n gyffredinol grynoder
y dyluniad heb golli'r gwagle defnyddiadwy net a
mireinio'r uchder llawr i lawr o fewn y lloriau preswyl; ·
Cyfle i wella màs a meinder y
tŵr drwy fireinio'r modd y caiff elfennau, ffenestriad, lleoliad a chyfran
y tai gwyrdd eu dosbarthu; ·
Gwella'r berthynas rhwng y
gwagle ar y to sy'n hygyrch i'r cyhoedd â'r parth preifat; ·
Cyfle i wella dyluniad y
ffenestriad ar y Gweddlun Gogleddol; ·
Darparu cyfleusterau beicio
gwell i ddefnyddwyr ac ymwelwyr, gan neilltuo a dosbarthu rhagor o le, ynghyd â
chyfleusterau glanhau ac atgyweirio; ·
Cyfle i wella dymunoldeb yr
unedau dwplecs 3 ystafell wely ar y llawr uchaf drwy ddarparu rhagor o le byw a
mynediad i ystafell wydr breifat iddynt;
·
Cyfle i wella'r gallu i waredu
sbwriel ac ailgylchu o fewn yr adeilad a gwella’r ffordd o reoli hyn drwy
ddiwygio'r lleoliadau a gynigiwyd yn flaenorol ar
gyfer y Newidydd Trydanol newydd; ·
Rhesymoli ardal y cyhoedd er
mwyn caniatáu i’r defnyddiau a’r cynigion terfynol ar gyfer ardal y cyhoedd
ffurfio rhan o fenter a arweinir gan y Cyngor; ·
Cyflwyno nifer o'r
strategaethau ynni/gwastraff wedi'u targedu sy'n rhan annatod o'r cynnig: Roedd yr ymgeiswyr hefyd wedi cyflwyno'r dogfennau diwygiedig canlynol i
gefnogi'r cynigion diwygiedig: ·
Atodiad Datganiad Dylunio a
Mynediad; ·
Asesiad lleoliad treftadaeth ·
Arfarniad Ecolegol
Rhagarweiniol ·
Asesiad Treflun ac Effaith
Weledol ·
Adroddiad Golau Dydd a Golau'r
Haul ·
Adroddiad Strategaeth Ynni ac Arloesedd ·
Datganiad Trafnidiaeth Amlinellwyd y prif faterion a oedd yn effeithio ar yr asesiad treflun ac
effaith weledol, yr asesiad lleoliad treftadaeth a’r asesiad golau dydd/golau'r
haul, a manylir arnynt yn yr adroddiad. Darparwyd cyflwyniad gweledol o'r cynigion diwygiedig, ac amlinellwyd a
manylwyd ar y prif newidiadau a gwahaniaethau i'r cynllun newydd a'r un a
gymeradwywyd yn flaenorol. Penderfynwyd rhoi caniatâd cynllunio yn amodol ar yr amod diwygiedig
fel yr amlinellir isod: 2.Rhaid
ymgymryd â'r datblygiad yn unol â'r cynlluniau a'r dogfennau canlynol: EX(0)100_A - Cynllun
Bloc Presennol; EX(0)101_A - Cynllun Islawr a Llawr Gwaelod Presennol; EX(0)102_A
- Cynllun Llawr Cyntaf ac Ail Lawr Presennol; EX(0)103_A - Cynllun Trydydd
llawr a'r To Presennol; EX(0)104 - Cynllun Safle Presennol; EX(0)200 -
Gweddluniau Stryd sydd eisoes yn bodoli; EX(0)201_A - Gweddluniau sydd eisoes
yn bodoli I; EX(0)202_A - Gweddluniau sydd eisoes yn bodoli II; EX(0)300_A -
Adrannau sydd eisoes yn bodoli; P(0)100_A Cynllun Lleoliad y Safle; -
Cynlluniau a dderbyniwyd 16 Rhagfyr, 2019. P(0)101_Rev B Cynllun
bloc arfaethedig; P(0)102_Rev B Cynllun islawr arfaethedig; P(0)103_Rev B
cynllun llawr gwaelod arfaethedig; P(0)104_Rev B cynllun llawr cyntaf
arfaethedig; P(0)105_Rev B cynllun ail lawr arfaethedig; P(0)106_Rev B Cynllun
trydydd llawr arfaethedig; P(0)107_Rev B Cynllun pedwerydd llawr arfaethedig;
P(0)108_Rev B Cynllun pumed llawr arfaethedig; P(0)109_Rev B Cynllun chweched
llawr arfaethedig; P(0)110_Rev B Cynllun arfaethedig ar gyfer y seithfed a'r
wythfed llawr P(0)111_Rev B Cynllun arfaethedig ar gyfer y nawfed a'r degfed
llawr; P(0)112_Rev B Cynllun arfaethedig ar gyfer yr unfed llawr ar ddeg a'r
to; P(0)113_Rev Cynllun safle arfaethedig; P(0)114_Rev B Cynllun to
arfaethedig; P(0)200_Rev B Gweddluniau Stryd arfaethedig; P(0)201_Rev B Blaenlun arfaethedig i'r De; P(0)202_Rev B Cefnlun
arfaethedig i'r Gogledd; P(0)203_Rev B Ystlyslun arfaethedig i'r Dwyrain;
P(0)204_Rev B Ystlyslun arfaethedig i'r Gorllewin; P(0)300_Rev B Adran hir
arfaethedig A-A; P(0)301_Rev B Adran hir arfaethedig B-B; P(0)302_Rev B Adran
hir arfaethedig C-C; P(0)303_Rev B Trawstoriad arfaethedig Ch-Ch; P(0)304_Rev B
Trawstoriad arfaethedig D-D; P(0)400_Rev B Barn arfaethedig – Cynlluniau a
dderbyniwyd ym mis Mehefin, 2020. Rheswm:
I ddiffinio'r caniatâd a roddwyd. |