Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau
canlynol: Datganodd y Cynghorydd P M Black gysylltiad personol a rhagfarnol ag Eitem
3 – Cais Cynllunio 2019/2236/S73, a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth. Datganodd y
Cynghorydd P Lloyd gysylltiad personol ag Eitem 3 – Cais Cynllunio
2019/2236/S73. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod
y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2020 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 209 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd 1)
Cymeradwyo'r
cais cynllunio y cyfeirir
ato isod am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad. (Sylwer:
Dosbarthwyd diweddariadau i'r adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau y diwrnod
cyn y cyfarfod) #(Eitem 1)
- Cais Cynllunio 2020/0173/FUL - Adeiladu fferm solar i gynnwys gosod paneli
solar i gynhyrchu hyd at 9.99MW o drydan ar gyfer is-orsafoedd, newidyddion,
camerâu diogelwch, ffensys, cysylltiad grid a datblygiad cysylltiedig yn Fferm
Carn Nicholas, y llwybr o Brokesby Road, Bôn-y-maen,
Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Amlinellwyd ac adroddwyd am lythyr cefnogi hwyr a dderbyniwyd gan y
Cynghorydd V M Evans (Aelod Lleol) i gefnogi'r datblygiad arfaethedig. Derbyniwyd gohebiaeth hwyr gan Ecolegydd y Cyngor fel a ganlyn: Nodwyd yn Adroddiad y Swyddog y disgwylid i Ecolegydd
y Cyngor gynnal Prawf Effaith Arwyddocaol Debygol a fyddai'n cael ei adrodd ar
lafar i'r Pwyllgor (P49). Mae hwn wedi'i gwblhau a daethpwyd i'r casgliad y
byddai effaith arwyddocaol heb liniaru a arweiniodd at yr angen am Asesiad
Priodol. Mae'r asesiad priodol wedi'i gwblhau a daethpwyd i'r casgliad na
ragwelir unrhyw effeithiau arwyddocaol ar y SAC/SoDdGA
dynodedig cyfagos yn amodol ar liniaru, a bod y Cynllun Rheoli Amgylcheddol
Adeiladu (CEMP) a’r strategaeth draenio a gyflwynwyd yn cael eu rhoi ar waith
a'u dilyn trwy gydol pob cam o'r prosiect. Mae'r Prawf Effaith Arwyddocaol Debygol a'r Asesiad
Rheoliadau Cynefinoedd wedi'u hatodi fel Atodiadau B ac C i'r Daflen Ddiweddaru
hon. Mae Ecolegydd y Cyngor wedi darparu sylwadau ac
wedi gwneud cais am arolygon ychwanegol o ran Madfallod Cribog Mwyaf ac
Ymlusgiaid. Fodd bynnag, ers i'r Ddogfen Ddiweddaru gael ei llunio, ac yn dilyn
deialog pellach ar y sylwadau a ddarparwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, mae'r
Ecolegydd o'r farn y gellir cynnwys y materion ychwanegol dan amod. Rhaid cofio
bod y caniatâd sy'n bodoli eisoes yn cynnwys y rhan fwyaf o’r safle. Yn ogystal
â hyn, gwnaed y cais 2 ddiwrnod gwaith cyn cyfarfod y Pwyllgor ac ymgynghorwyd
â chydweithwyr ym mis Chwefror. Byddai sylwadau ar yr adeg hon wedi caniatáu
i'r ymgeisydd ymateb yn briodol. Mae'r tymor arolwg gyfer Madfallod Cribog
Mwyaf ar ei orau rhwng mis Ebrill a Mai ac nid yw mis Mehefin mor ffafriol ac
efallai y byddai'r ymgeisydd yn ei chael hi'n anodd ei gwblhau o fewn cyfnod
amser byr a chyn i'r tymor arolwg ddod i ben. I gyd-fynd â hyn, dylid nodi
hefyd nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynegi pryderon am y Madfallod Cribog
Mwyaf am fod y llynoedd y tu allan i ffin y safle
datblygu. Felly nid yw'n cael ei ystyried yn angenrheidiol nac yn rhesymol i
ofyn am yr arolygon hyn ar hyn o bryd. O ran ymlusgiaid, mae'r Cynllun Rheoli
Ecolegol (CRhE) a gyflwynwyd yn cynnwys mesurau
lliniaru ymlusgiaid eisoes. Fodd bynnag, mae'r Ecolegydd wedi gofyn i fanylion ychwanegol gael eu
cynnwys yn y CRhE a gwnaeth gais am gynllun goleuadau
allanol yr ystyrir eu bod yn rhesymol ac yn angenrheidiol. Yng ngolau'r sylwadau gan yr Ecolegydd, dylid diwygio Amod 8 i ddarllen fel
a ganlyn: Yng ngolau'r uchod, byddai Amod 8 yn cael ei
ddiwygio fel a ganlyn: "Cyn cychwyn y gwaith datblygu, gan gynnwys
unrhyw waith clirio'r safle, a heb ystyried y manylion a gyflwynwyd hyd yma,
caiff Cynllun Rheoli Bioamrywiaeth ddiwygiedig ei gyflwyno a'i gymeradwyo yn
ysgrifenedig gan yr awdurdod Cynllunio Lleol i gynnwys: - mwy o fanylder ynghylch y broses o fonitro a
monitro targedau yn ogystal â sbarduno'r gwaith adfer, i gynnwys camau adfer
arfaethedig amlinellol; - manylion y sefydliad/personél a fydd yn gyfrifol
am roi'r cynllun ar waith; - cynnwys gwelliannau i'r cynefinoedd ar ffurf
blychau ystlumod ac adar; a - manylion yr adroddiadau blynyddol i'r cyngor gan
ddarparu tystiolaeth o'r blynyddoedd blaenorol a'r cynigion ar gyfer rheoli'r
blynyddoedd sydd i ddod. a - dilyn dulliau gweithio rhagofalus a gwarchod ar
gyfer y Madfallod Cribog Mwyaf.
Ar ôl hynny caiff y gwaith datblygu ei wneud a'i
reoli yn unol â'r Cynllun Rheoli Bioamrywiaeth cymeradwy. Rheswm: I sicrhau buddion tirlunio, sgrinio a
bioamrywiaeth tymor hir boddhaol i'r datblygiad yn unol â Pholisïau'r CDLl ER6, ER8, ER9 ac ER11.” Amod ychwanegol 18 wedi'i ychwanegu fel a ganlyn: "Heb ystyried y manylion a nodwyd ar y
cynlluniau cymeradwy a chyn gosod unrhyw oleuadau allanol, bydd cynllun o oleuadau
allanol ar gyfer cyfnodau adeiladu a gweithredu’r datblygiad yn cael ei
gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w gymeradwyo'n ysgrifenedig.
Gweithredir y cynllun goleuo yn unol â'r manylion cymeradwy a bydd yn parhau'n
gymeradwy yn ystod cyfnod y datblygiad. Rheswm: I liniaru effeithiau niweidiol i fywyd
gwyllt lleol o fewn y safle ac o'i gwmpas yn unol â pholisïau CDLl ER6, ER8 ac ER9." Byddai nodiadau cyngor ychwanegol yn cael eu hatodi ynghylch ystlumod, moch
daear, adar nythu, draenogod a'r arolwg ymlusgiaid. #(Eitem 2)
- Cais Cynllunio 2020/0173/FUL - Darparu lle agored ac isadeiledd ategol o fewn
hen fasn chwarel (manylion mynediad, golwg, tirlunio, cynllun a maint y datblygiad
yn unol â'r cais amlinellol 2014/0977 a roddwyd ar 11 Ionawr 2018) i safle
Cwmrhydyceirw Quarry Co Ltd, Great
Western Terrace, Cwmrhydyceirw, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. #(Eitem 3)
- Cais Cynllunio 2019/2523/S73 - Datblygiad preswyl gydag adeiladu mynedfa
newydd i gerbydau oddi ar Nantong Way
(amlinellol) (2006/1902) fel yr amrywiwyd gan ganiatâd cynllunio Is-adran 73
2014/1189, 2018/1204/S73 a 2019/0536/S73. Amrywiad ar amod 8 (mynediad parhaol oddi ar Nantong Way) o Adran 73 o ganiatâd
cynllunio 2018/1204/S73 a gymeradwywyd ar 3 Hydref 2018 (i ymestyn y dyddiad er
mwyn adeiladu'r mynediad Nantong Way
parhaol) ar dir yn Upper Bank, Nantong Way, Pentrechwyth, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am
lythyr hwyr gan yr asiant a oedd yn amlinellu'r pwyntiau canlynol: a. Mae'r
adroddiad yn egluro y bu sawl amrywiad i'r caniatâd cynllunio gwreiddiol. Mae
cyd-destun sylweddol i hyn wrth gwrs, yn enwedig yr angen am gaffael tir
ychwanegol, cyfyngiadau ffisegol anhysbys, ynghyd â
gwasanaethau/cyfleustodau/elfennau eraill a oedd yn anhysbys a heb eu nodi pan
brynwyd y tir - ac oherwydd hyn bu rhaid ailweithio’r
cynigion a'r newidiadau'n sylweddol ac ati. Nid yr ymgeiswyr oedd yn gyfrifol
am y newidiadau hyn wrth gwrs, ac nid oeddent am eu gwneud, ond yn hytrach
roedd hi'n hanfodol iddynt gael eu gwneud er mwyn cyflwyno cynllun cyflawnadwy. b. O ran y ffaith
nad yw’n bosib adeiladu mynediad parhaol, yr amserlenni ar gyfer hyn, ac unrhyw
ansicrwydd ynghylch ei ddarpariaeth, ystyrir ei fod yn allweddol i bwysleisio
bod rhwymedigaeth gytundebol gan y datblygwr i'r cyngor i adeiladu'r mynediad
parhaol newydd (ynghyd â gwasanaethau eraill megis yr orsaf bwmpio). At hynny,
mae'r rhwymedigaeth hon wedi'i sicrhau gan flaendal bond arian parod gwerth
£750,000, a ddelir gan y cyngor. Yn amlwg mae hyn oll yn rhoi sicrwydd llwyr y
bydd datrysiad parhaol yn cael ei ddarparu a'i sicrhau. At hynny, mae hwyluso'r
ddarpariaeth hon cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosib yn amlwg er budd yr
ymgeisydd - yn enwedig gan y bydd y bond arian parod sylweddol, a adneuwyd gyda
chi ar hyn o bryd, yn cael ei dalu nôl. c. Nid yw'r
Awdurdod Priffyrdd Lleol yn gwrthwynebu'r cynnig. #(Eitem 4)
- Cais Cynllunio 2020/0490/FUL - Codi adeilad pum llawr at ddefnydd cymysg
(uwchben lefel y ddaear) i ddarparu swyddfa/gweithle hygyrch (Dosbarth B1) gyda
defnyddiau cymunedol a masnachol ategol yn y llawr isaf, y llawr gwaelod isaf
a'r llawr gwaelod (Dosbarthiadau B1/ A1 / A3 / D1 a D2) a man digwyddiadau
cyhoeddus/cyfarfodydd ar lefel y to (Dosbarthiadau B1/ A3 / D1 / D2) ynghyd â
chreu cyswllt newydd i gerddwyr, gwasanaethu cerbydau, mannau
cyhoeddus/tirlunio/isadeiledd gwyrdd a gwaith ategol yn 71 - 73 Ffordd y
Brenin, Canol y Ddinas, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
i ddiwygio cytundeb A106 mewn perthynas â'r cais. Amlinellwyd y
materion cefndir a'r hanes ynghylch y cais a gymeradwywyd ym mis Tachwedd 2016
a manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Mae'r ymgeisydd (Grŵp Tai Coastal) wedi
cyflwyno cais i addasu’r Cytundeb A106 i gynnwys cymal Morgeisai
mewn Meddiant ar yr unedau rhentu cymdeithasol yn unig. Manylwyd ar y materion
a'r ffactorau sy’n ymwneud â'r cais hwn yn yr adroddiad. Nid oedd gan y
Swyddog Tai unrhyw wrthwynebiadau i'r cynnig. Penderfynwyd addasu'r cytundeb A106 (rhwymedigaeth
gynllunio) i ddarparu cymal Morgeisai mewn Meddiant
ar gyfer unedau rhentu cymdeithasol yn unig. |