Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.
Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)
Penderfynwyd
Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio y cyfeirir atynt isod yn
amodol ar yr amodau yn yr adroddiad:
#(Eitem 1)
– Cais Cynllunio 2019/2144/RES - Adeiladu 144 o anheddau preswyl a gwaith
cysylltiedig (Cais Materion a Gadwyd yn Ôl yn dilyn 2019/0911/S73 a roddwyd ar
13 Medi 2019 a'r caniatâd amlinellol 2005/2355 a roddwyd ar 23 Ebrill 2010) ar
dir i'r gorllewin o Heol Gower View ac i'r gogledd o
Heol Brynafon, Penyrheol, Abertawe
Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl.
Anerchwyd y pwyllgor gan Rhianydd Jenkins ac Elfed Roberts (ymgeiswyr)
Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:
Cyflwynwyd llythyr
pellach gan y cwmni sy'n gweithredu ar ran y preswylwyr. Mynegwyd
y rhan fwyaf o'r
pryderon hyn o'r blaen er eu bod wedi darparu dadansoddiad manylach o'r
broses hyd yma. Mae'r
rhan fwyaf o'r materion hynwedi'u cynnwys yn yr
adroddiad ond mae'r
materion hyn yn
newydd:
Dengys y cynlluniau
ddraen tir 225mm Ø ar hyd ffin ogleddol yr eiddo presennol i Ffordd y
Coegylfinir.
Sylwer: Mae cyfrifiadau
a chanfyddiadau peirianwyr Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cadarnhau
y byddai draen 225mm
Ø yn gwbl annigonol i ymdrin â dŵr wyneb topograffigol sy'n ffoi ynghyd
â materion
dŵr/ffynhonnau sy'n deillio o'r problemau a dalgylch Ffawt Gwili a synclin
Gorseinon
i'r dwyrain o'r
datblygiad presennol 2012/1113, yr eir i'r afael â nhw yn COMP2015/0130.
·
Nid yw'r darluniau Trefniad Cyffredinol yn cymryd
sylw o'r problemau dŵr/ffynhonnau
na'r
gwaith dylunio cynlluniedig a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru,
nac
yn darparu ar eu cyfer.
Sylw
Mae'r ymgeisydd yn
ymwybodol o'r problemau draenio ar y safle ac yn prynu'r tir oddi wrth
Lywodraeth Cymru. Mae
awdurdod draenio'r cyngor hefyd yn ymwybodol o'r sefyllfa.
Ni chodwyd y problemau
hyn yng ngham A73 pan ystyriwyd yr egwyddor. Fodd bynnag, ar sail
yr wybodaeth yr oedd
y cyngor y ymwybodol ohoni, roedd cais A73 yn cynnwys amodau draenio
(nid yw'r rhain yn
cael eu cyflawni fel rhan o'r cais hwn). Byddai angen cymeradwyaeth Corff
Cymeradwyo SuDS hefyd, sef y brif ddeddfwriaeth yn hyn o beth, i
ddraenio'r dŵr wyneb
o'r safle ond hefyd ei reoli drwy amod o
ganiatâd A73.
Darparwyd
cynllun safle parcio ddydd Gwener 29 Tachwedd ynghyd â Chynllun Tirlunio
Meddal
diwygiedig.
Mae'r un blaenorol wedi arwain at osod teras o 3 eiddo (lleiniau 33 i 35)
ychydig yn
ôl. Nid oes
problemau'n codi yn y safle o ganlyniad i hyn ond bydd angen diweddaru'r holl
gyfres
o ddogfennau
fel eu bod yn cyd-fynd â'i gilydd.
Mae'r Swyddog
Coedyddiaeth (Tirwedd) yn fodlon bod y diwygiadau’n mynd i'r afael â'r
pryderon a
godwyd, gyda rhywogaethau mwy priodol yn cael eu cynnwys ynghyd â choed
ffrwythau
traddodiadol ar gyfer cyfleoedd chwilio am fwyd.
Nid oes gan
yr ecolegydd unrhyw wrthwynebiadau i'r cynllun na'r cynnig tirlunio.
Nid oes gan
yr Awdurdod Priffyrdd ragor o sylwadau am barcio.
O ganlyniad
i'r newidiadau a nodwyd uchod, bydd angen diweddaru Amod 1 i adlewyrchu'r
cynlluniau
diwygiedig y mae eu hangen.
Mae Amod 2
wedi'i ddiweddaru hefyd i gyfeirio at gynllun y Trefniad Parcio Ceir ynghyd â
chynnwys rhif y lluniad a’r dyddiad
y derbyniwyd y cynllun.
|
|
|
Sylwer: Ni
chyhoeddir y penderfyniad nes bod y cynlluniau diwygiedig yn cael eu derbyn
ac amod 1 yn cael ei ddiweddaru.
|
|
|
|
#(Eitem 2) - Cais Cynllunio 2019/0502/RES - Adeiladu 121
o anheddau, lle agored ac isadeiledd ategol, (manylion golwg, tirlunio, cynllun
a maint y datblygiad cam 2 yn unol â'r cais amlinellol 2014/0977 a roddwyd ar
11 Ionawr 2018) yn 'Cwmrhydyceirw Quarry Co Ltd',
Teras Great Western, Cwmrhydyceirw, Abertawe
Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.
Anerchwyd y pwyllgor gan Robert Lewis (gwrthwynebydd).
Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:
|
Derbyniwyd un llythyr pellach yn ymwneud â phroblemau
draenio a oedd yn ailadrodd pryderon a nodwyd mewn llythyr blaenorol.
Dyma'r amodau
diwygiedig:
·
Amod 2 (Tirlunio)
·
Gwnaed rhywfaint o waith clirio eisoes yng ngham
2 felly dylid diwygio'r sbardun i "Ni fydd gwaith uwch-adeiledd yn
dechrau..."
·
Amod 4 (Deunyddiau)
·
Nodir manylion y deunyddiau ar y cynlluniau
cymeradwy felly nid yw'r amod hwn yn ofynnol. Gellir dileu'r amod ac
ail-rifo'r lleill yn unol â hyn.
|
#(Eitem 4) –
Cais Cynllunio 2018/2692/FUL - Cadw a chwblhau datblygiad ar gyfer 107 o
anheddau preswyl a'r isadeiledd cysylltiedig ar dir yn Upper Bank Pentrechwyth, Ffordd Nantong, Pentrechwyth, Abertawe
Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.
Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:
Dylid diwygio amod 18 i ddarllen:
18. Ni chaniateir datblygiad pellach nes bod cynllun lliniariad
amgylcheddol hanesyddol ysgrifenedig wedi'i gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio
Lleol a'i gymeradwyo ganddo'n ysgrifenedig. Ar ôl
hynny, cynhelir y rhaglen waith yn unol â gofynion a safonau'r cynllun
ysgrifenedig.
Dywedwyd wrth y pwyllgor y cyrhaeddwyd cytundeb ar ddaliadaeth y tai
fforddiadwy. Byddai'r tai hyn yn rhai perchnogaeth cost isel.
#(Eitem 5) - Cais Cynllunio 2018/2720/FUL - Dymchwel yr adeiladau presennol ar y safle ac
ailddatblygu'r safle i ddarparu 60 o unedau preswyl a fydd yn cynnwys 6 annedd
ar wahân, 21 pâr o anheddau pâr a 12 o fflatiau mewn 3 bloc
deulawr gyda mynediad, parcio, a thirlunio cysylltiedig, gorsaf bwmpio a gwaith
ategol ar dir yn at Land Fferm Tyrisha,
Pengelli, Abertawe
Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.
Anerchwyd y cyfarfod gan Geraint John (asiant).
Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:
Derbyniwyd llythyr pellach oddi wrth wrthwynebydd
sy'n datgan fel a ganlyn:
|
1.
1. Mae'r safle'n cael ei amgáu â mwg yn
rheolaidd, gyda thân mawr o leiaf bob blwyddyn. Ni fydd y rheini a fydd yn
byw yn yr eiddo'n ymwybodol o'r tanau hyn na chael eu hamgáu gan fwg, a
gofynnwn i'r pwyllgor ystyried a fydden nhw eu hunain yn rhoi eu teulu mewn
eiddo yn y fath leoliad.
2.
2. Mae mynedfa'r safle yn amlwg yn anniogel ac
nid diogelwch neu symudiadau cerddwyr yw ystyriaeth gyntaf y dyluniad fel
sy'n ofynnol gan Ddeddf Teithio Llesol Cymru. Gofynnaf i'r pwyllgor ystyried
sut bydd plentyn yn symud yn ddiogel o'r ardal chwarae neu'r safle i'r
lôn/llwybr troed cyffredin. Noder y darnau canlynol o'r Ddeddf:
a.9.3.16 a 9.3.20 - Nid ystyrir bod cysylltiadau Teithio Llesol yn ddewisol, ac nid
ddylid cymeradwyo datblygiadau nad ydynt yn darparu ar gyfer
cerdded,
a.
b.9.4.1 noder nad yw
cynlluniau sy'n canolbwyntio ar
briffyrdd bellach yn
dderbyniol o dan y Ddeddf.
b.
c. Hefyd mae 9.3.8 yn
nodi pwysigrwydd caffael tir er mwyn adeiladu priffordd newydd, a'i bod yn
hanfodol sefydlu digon o dir tir i gynnwys llwybrau troed o led a math addas.
c.
ch. Mae'n ofynnol yn
ôl y ddeddf i ddilyn dyluniad dau lwybr troed.
3. Roedd y CDLl yn nodi'r
glir ei bod hi'n ofyniad hanfodol i'r safle gael ei gysylltu â'r Hawl Tramwy
Cyhoeddus gerllaw, ac nid ydyw.
4. Dylai'r pwyllgor nodi nad oes modd torri'r berth ar
law dde'r fynedfa yn ôl fel y cynigiwyd i ffurfio llain welededd gan nad yw
ar dir y datblygwr.
5. Gofynnaf i'r pwyllgor ystyried y rhag-amod y byddai
cymeradwyo'r safle hwn yn ei adael. Er bod y
datblygwr eisoes wedi ehangu'r safle sawl gwaith o'r hyn
a gynhwyswyd yn wreiddiol yn y CDLl a'r tu hwnt,
darparodd y datblygwr ymatebion anwir i gwestiynau yn y CDLl
gan gynnwys o ran stribed pridwerth i osgoi craffu ar y broblem, er gwaethaf
y ffaith nad oedd y cynigion gwreiddiol erioed yn gyflawniadwy.
Mae derbyn cynnig cynllunio sy'n seiliedig ar gamgyfleadau gwreiddiol yn nodi
bod datblygwyr yn cael rhwydd hynt o ran y broses gynllunio ac y gall
datblygwyr ddefnyddio'r broses er mantais bersonol.
Mae hefyd yn cadarnhau, yn groes i'r
llu o bolisïau cynllunio a deddfwriaethau cenedlaethol, y gall datblygwyr
rhoi mwy o bwyslais ar symudiadau traffig na symudiadau cerddwyr mewn
datblygiadau preswyl.
Sylw swyddog: Mae'r
gwrthwynebydd wedi cyflwyno copi o ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth sy'n nodi
y bu 18 o danau gwyllt ar dir ers mis Ebrill 2009. Gellir dangos ffotograff o
dân a gyflwynwyd gyda'r arsylwadau os hoffai'r pwyllgor ei weld. Aed i'r
afael â phroblemau mynediad yn yr adroddiad. O ran yr Hawl Tramwy Cyhoeddus,
mae'r safle yn cysylltu â'r Hawl Tramwy Cyhoeddus wrth y fynedfa i'r
safle.
|
Mae'r Swyddog Draenio wedi cadarnhau nad oes
ganddynt wrthwynebiadau yn amodol ar amodau draenio safonol.
Ar ddiwedd yr argymhelliad, dylid ychwanegu'r
canlynol:
Os na lofnodir cytundeb adran 106 o fewn 3 mis i Weinidogion
Cymru'n tynnu'r cyfeiriad dal yn ôl, gellir darparu pwerau dirprwyedig i
Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas i wrthod caniatâd cynllunio ar y sail
y byddai'r cynnig yn methu cyd-fynd â Pholisïau H3 y CDLl
(Tai Fforddiadwy ar y safle), S13 (Cyfleusterau Addysg), T1 (Mesurau
Trafnidiaeth ac Isadeiledd) ac IO1 (Cefnogi Isadeiledd).
O ystyried pryderon dros ddraeniad, argymhellir
diwygio Amod 3 i ddarllen fel a ganlyn (gyda'r testun diwygiedig mewn
llythrennau italig):
Cyn cychwyn y datblygiad, a heb ystyried y
manylion a ddangosir ar y llun o'r cynllun draenio a gynigiwyd,
110 P11, cyflwynir manylion llawn y trefniadau draenio dŵr wyneb i'r
Awdurdod Cynllunio Lleol, a'u cymeradwyo ganddo'n
ysgrifenedig. Bydd hyn yn cynnwys:
- Manylion
llawn cyfrifoldeb am fonitro a rheoli'r basn am oes y datblygiad;
- Manylion llawn manylebau cynllunio yn y basn
gwanhau dŵr wyneb
- cynllun bioddiogelwch i helpu i leihau'r perygl
o gyflwyno/lledaenu unrhyw rywogaethau anfrodorol ymledol wrth blannu'r basn gwanhau
ar gyfer SuDS. Bydd y cynllun yn cynnwys manylion
cyflenwr/wyr a/neu ffynhonnell y planhigion.
Caiff y basn gwanhau
ei gwblhau'n unol â'r manylion cymeradwy cyn i ddigon o breswylwyr ddechrau
byw yn unrhyw un o'r anheddau a ganiateir drwy hyn a'u cadw am oes y
datblygiad.
Caiff y basn gwanhau ei reoli, ei fonitro a'i
adolygu 2 flynedd ar ôl ei greu, a chyflwynir adroddiad cryno i'r ACLl a fydd yn amlinellu llwyddiannau/methiannau ac
unrhyw angen pellach am blannu plygiau fel yn 4.6 a 4.7 yr Adroddiad
Technegol Ecolegol a'r amserlenni ar gyfer hyn. Caiff unrhyw waith ychwanegol
ei wneud wedi hynny yn unol â'r amserlen gytunedig.
Ni chaniateir i ddŵr wyneb a/neu ddraeniad
tir gysylltu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â'r rhwydwaith carthffosiaeth
cyhoeddus oni bai y dangoswyd nad oes unrhyw opsiynau eraill ar gael.
Rheswm: Sicrhau ffordd foddhaol a chynaliadwy o
ddraenio dŵr wyneb i atal risg gynyddol o lifogydd, hybu bioamrywiaeth a
sicrhau y gellir cynnal a chadw'r nodweddion hyn yn y dyfodol.
|
(Sylwer: Cafodd y
pwyllgor egwyl o 5 munud am 4.20pm, yn dilyn y penderfyniad ar eitem 5)
#(Eitem 6)
Cais Cynllunio 2018/2168/OUT - Adeiladu hyd at 20 o anheddau, ffordd fynediad
newydd a phont newydd (amlinellol) ar dir oddi ar Felin Frân, Felin Frân,
Llansamlet, Abertawe
Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.
Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:
Os na lofnodir cytundeb adran 106 o fewn 3 mis o ddyddiad penderfyniad y
pwyllgor, darperir pwerau dirprwyedig i Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas wrthod
caniatâd cynllunio ar y sail y byddai'r cynnig yn methu cyd-fynd â Pholisïau H3
y CDLl (Tai Fforddiadwy ar y safle), S13
(Cyfleusterau Addysg), T1 (Mesurau Trafnidiaeth ac Isadeiledd).
2) GWRTHOD y
cais cynllunio isod am y rhesymau a amlinellir isod:
#(Eitem 3)
– Cais Cynllunio 2019/1342/FUL - Dymchwel yr annedd bresennol ac adeiladu 1
byngalo ar wahân a 2 annedd ar wahân yn Rhif 2 , Y Bryn, Sgeti, Abertawe
Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.
Anerchwyd y pwyllgor gan Eleanor Sullivan (asiant) ac Alyson Downing a Bernard Cairns (gwrthwynebwyr).
Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr A M Day a C L Philpott a oedd wedi
siarad o blaid gwrthwynebiadau'r preswylydd.
Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:
Ar 2 Rhagfyr 2019, tynnodd
perchennog/preswylydd rhif 6
Harford Court ei wrthwynebiad i'r datblygiad
yn ei ôl y datblygiad yn ei
ôl.
|
Cymeradwyo
|
Amod Rhif 5
a nodir ar dudalen 76 i'w ddiwygio i ddarllen fel a ganlyn:
5. Er y manylion cyflwynedig
a nodwyd ar Gynllun Safle TB/18/100 Cyf F, ni chaniateir unrhyw ddatblygiad
nes bod manylion llawn y mynediad, troi, parcio a'r lleiniau gwelededd ar
gyfer pob annedd wedi'u cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'u
cymeradwyo ganddo'n ysgrifenedig. Bydd y manylion
yn darparu ar gyfer cadw amlenni gwelededd yn rhydd o gaeadleoedd neu
ddalfeydd ac eithrio'r coed hynny i'w cadw, darparu manylion llawn y
deunydd wynebu caled a fydd yn fandyllog a manylion yr ardaloedd i'w
dynodi'n fannau parcio a throi sy'n gysylltiedig â phob annedd.
Ni wneir unrhyw waith adeiladu ar y safle nes bydd y mynedfeydd newydd
wedi'u darparu ar y safle yn unol â'r manylion cymeradwy. Bydd y datblygiad
ar ôl hynny'n cael ei godi'n unol â'r manylion cymeradwy, a chedwir yr ardaloedd parcio at ddibenion parcio a chedwir lleiniau gwelededd yn rhydd o gaeadleoedd a
dalfeydd am byth.
Hysbyswyd aelodau ar lafar yr awgrymir
ychwanegu amod ychwanegol at yr adroddiad, yn dilyn ymweliadau safle gan
aelodau, er mwyn darparu ar gyfer manylion llawn triniaethau ffin ledled y
safle.
Gwrthodwyd y cais yn
groes i
argymhellion y swyddog am y rhesymau canlynol:
Ni fyddai'r
byngalo arfaethedig yn rhinwedd ei leoliad, ei faint, ei ffurf a'i
ddyluniad cynlluniedig yn parchu cymeriad a golwg yr ardal leol ac yn
niweidiol amwynderau gweledol y strydlun a chyd-destun y safle amgylchynol,
yn groes i bolisi PS2 Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (a fabwysiadwyd ym
mis Chwefror 2019) a Canllaw Dylunio Mewnlenwi a
Chefnwlad (CCA) yr awdurdod.
|
|
|