Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2019 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Eitem 6 yr
Agenda - Penderfynu
ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (Eitem 1) -
Cais cynllunio 2019/1905/FUL - Newid defnydd y siop gwerthwr tai ar y llawr gwaelod
(Dosbarth A2) i fod yn gaffi/bar gwin (Dosbarth A3) yn 448 Heol Gŵyr,
Cilâ, Abertawe - Tynnwyd
y cais yn ôl gan yr ymgeisydd. |
|
Dargyfeiriadau a Chreu Llwybrau Troed a Llwybrau Ceffyl Cymuned Pennard. PDF 246 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 35
Dargyfeiriadau a Chreu
Llwybrau Troed a Llwybrau Ceffyl - Cymuned Pennard Cyflwynodd y
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio adroddiad a oedd yn ceisio addasu llwybrau
cyfreithlon y llwybrau ar draws cwrs golff Pennard Burrows i sicrhau eu bod yn
cyd-fynd â'r llwybrau y mae'r cyhoedd wedi'u defnyddio ers o leiaf 25 mlynedd. Amlinellwyd y
manylion a'r wybodaeth gefndir ynghylch y cynigion yn fanwl yn yr adroddiad. Derbyniwyd un
gwrthwynebiad i'r cynigion a manylwyd ar hwn yn yr adroddiad. Dywedodd y
Cadeirydd nad oedd y Cynghorydd Lynda James (aelod lleol) yn gallu dod i'r
cyfarfod ond ei bod wedi dweud wrtho ei bod yn cefnogi'r cynigion. Penderfynwyd gweithredu'r gorchmynion i greu neu
ddiddymu llwybr cyhoeddus er mwyn symud llwybrau cyfreithlon y llwybrau i'r
llwybrau a ddefnyddir, ac os ceir gwrthwynebiadau, caiff y gorchmynion a'r
gwrthwynebiadau eu cyflwyno i'r Arolygiaeth Gynllunio. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 16 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd (1)
cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir ato isod am y
rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad: #(Eitem 2)
- Cais cynllunio 2019/1307/S73 - Datblygu 61 o anheddau gyda mannau agored
cysylltiedig, tirlunio, trefniadau mynediad, gwaith isadeiledd a pheirianneg
cysylltiedig (amrywiad ar amodau 1 (cynlluniau), 14 (cael gwared ar goed a
gwrychoedd), 15 (tirlunio meddal), 16 (gwaith tirlunio), 18 (rheoli
gwrychoedd), 19 (arwynebau allanol) o gynnig cynllunio 2019/0450/S73, a
gymeradwywyd ar 9 Mai 2019 i gael gwared ar wrych a rhoi planhigion addas yn ei
le) ar dir oddi ar Lôn Summerland, Newton, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am
lythyr gwrthwynebu hwyr arall gan Gyngor Cymuned y Mwmbwls. Derbyniwyd hefyd
gynllun diwygiedig. Gwnaed newidiadau
i'r argymhelliad fel a ganlyn: Dileu '399.01 Rev
E - Cynllun Plannu a Rheoli Gwrychoedd, a dderbyniwyd ar 8 Hydref 2019' o
amodau 1, 14, 15, 16, 18 a 19 a nodi'r canlynol: '399.01 REV E - Cynllun Plannu
a Rheoli Gwrychoedd, a dderbyniwyd ar 4 Tachwedd 2019' Anerchwyd y
pwyllgor gan Geraint John (asiant). |
|
2019/1906/106 - Tir i'r de o Heol Glebe - Addasu Cytundeb A106. PDF 484 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn ceisio awdurdod i
ddiwygio gofynion arfaethedig cytundeb Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a
Thref 1990 (fel y'i diwygiwyd) mewn perthynas â'r caniatâd cynllunio amlinellol
(2013/0617) a gymeradwywyd ar gyfer y datblygiad preswyl ar y safle. Amlinellwyd y
materion cefndir a'r hanes ynghylch y cais a gymeradwywyd ym mis Hydref 2017 a
manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Mae'r ymgeisydd
wedi gofyn i gynnwys Cymal Meddiant gan y Morgeisai sy'n ymwneud â'r unedau
rhentu cymdeithasol y cyfeirir atynt yng nghytundeb Adran 106, oherwydd y
byddai hyn yn rhoi opsiynau gwell i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
(LCC) i ariannu datblygiadau. Amlinellwyd y rhesymau dros gyflwyno'r cais. Dywedodd y
Cadeirydd nad oedd y Cynghorydd Robert Smith (aelod lleol) yn gallu dod i'r
cyfarfod ond ei fod wedi dweud wrtho ei fod yn cefnogi'r cynigion. Penderfynwyd cymeradwyo newid y cytundeb Adran 106
(rhwymedigaeth gynllunio) i ddarparu Cymal Meddiant gan y Morgeisai er mwyn
darparu'r tai fforddiadwy yn y datblygiad arfaethedig. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o
atodiad i'r Adolygiad Drafft o Ardal Gadwraeth y Mwmbwls a cheisiodd ganiatâd i
gynnal ymgynghoriad â'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Amlinellwyd
manylion yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus cychwynnol a gynhaliwyd yn 2018. Daeth
materion ynghylch ehangu'r ardal gadwraeth i gynnwys yr ardaloedd ychwanegol a
amlinellir ar y map yn yr adroddiad ac ychwanegu eiddo ychwanegol ar lan y môr,
fel a gynigiwyd yn yr adroddiad i'r amlwg yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw. Penderfynwyd 1)
cymeradwyo'r
ddogfen atodol i Adolygiad Ardal Gadwraeth y Mwmbwls ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus a rhanddeiliaid; 2)
adrodd
yn ôl i'r Pwyllgor Cynllunio am atodlen o ymatebion i'r sylwadau a dderbyniwyd
er mwyn iddo ei ystyried a rhoi cymeradwyaeth derfynol iddo fel Canllawiau
Cynllunio Atodol. |