Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

58.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

 

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

Y Cynghorwyr C Anderson, L S Gibbard, M H Jones, M B Lewis, P Lloyd, P B Smith, A H Stevens, D W W Thomas a T M White - Cofnod Rhif 61 – Eitem 6 – 2019/0319/TPO – Personol - mae'r ymgeisydd yn gyd-gynghorydd.

 

 

59.

Cofnodion. pdf eicon PDF 132 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2019 fel cofnod cywir.

 

60.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Cofnodion:

Dim.

61.

Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 54 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

 

Penderfynwyd:   -

 

1)  Gohirio'r cais cynllunio a grybwyllir isod wrth aros am benderfyniad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y cais galw i mewn.

 

#(Eitem 1) – Cais Cynllunio 2018/2059/FUL - Cyfleuster bach adfer ynni o wastraff sy'n cynnwys estyniad i'r adeilad presennol, ffatri allanol, adeileddau cysylltiedig a chorn simnai 25m ar safle Gwasanaethau Gwastraff Biffa, Clôs Clarion, Parc Menter Abertawe, Abertawe

 

Cyn y gohiriad - diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Y Diweddaraf am y Cais Galw i Mewn

Mae Tudalen 41 yr adroddiad yn nodi y gofynnwyd am alw'r cais i mewn fel y gallai Gweinidogion Cymru benderfynu arno. Mae'r Gweinidog bellach wedi cyflwyno

hysbysiad gohirio i atal y cyngor rhag rhoi caniatâd cynllunio heb awdurdod blaenorol Gweinidogion Cymru. Cyflwynwyd yr Hysbysiad Gohirio er mwyn caniatáu mwy o amser i Weinidogion Cymru ystyried a ddylid cyfeirio'r cais i Weinidogion Cymru benderfynu arno.

 

Nid yw'r hysbysiad yn atal yr Awdurdod Cynllunio Lleol rhag parhau i brosesu'r cais.  Gall y pwyllgor wrthod y cais neu benderfynu ei gymeradwyo ond ni all y cyngor roi caniatâd cynllunio heb awdurdod blaenorol Gweinidogion Cymru.

 

Diweddariadau eraill

Ar waelod tudalen 42, darperir manylion y mathau penodol o wastraff ar yr hawlen amgylcheddol ddrafft. Mae swyddogion rheoli llygredd wedi dweud nad yw gwastraff sy'n deillio o ofal iechyd dynol nac anifeiliaid a/neu ymchwil gysylltiedig mwyach yn rhan o'r mathau penodol o wastraff ar yr hawlen amgylcheddol ddrafft.

 

Mae Uned Cynnwys Rhanddeiliaid yr Adran Addysg wedi dweud, ar ôl ystyried y cyngor a ddarparwyd gan Is-adran Rheoli Llygredd y cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, fod yr Adran Addysg yn tynnu ei wrthwynebiad yn ôl.

 

2) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod (#):

 

#(Eitem 2) - Cais Cynllunio 2018/2580/FUL - Adeiladu 70 o unedau preswylio a fydd yn cynnwys:  36 o anheddau fforddiadwy :- 12 fflat un ystafell wely, 15 tŷ dwy ystafell wely, 3 byngalo dwy ystafell wely a 6 thŷ tair ystafell wely; a 34 annedd marchnad agored 'anghenion lleol':-10 tŷ dwy ystafell wely, 6 thŷ tair ystafell wely, 4 byngalo tair ystafell wely, ac 14 tŷ pedair ystafell wely, ynghyd â garejis ar wahân cysylltiedig, mynedfa, gwaith i'r briffordd, lle agored a thirlunio (cynllun diwygiedig) ar dir i'r gogledd o Heol Pennard ac i'r dwyrain o Pennard Drive, Southgate, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Phil Baxter (asiant) a Gary Gregor (gwrthwynebydd).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd L James (aelod lleol) ac amlinellodd ei gwrthwynebiadau i'r cynnig.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

Tudalen 117 – Draenio – ail baragraff – dileu'r frawddeg a rhoi'r canlynol yn ei lle: “Mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau nad yw'n gwrthwynebu'r cais ond y dylid cynnwys amod sy'n nodi na chaniateir i ddŵr wyneb a/neu ddraeniad tir gysylltu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â'r rhwydwaith carthffosiaeth cyhoeddus"

 

Derbyniwyd pump ar hugain o lythyrau gwrthwynebu hwyr sy'n ailddweud y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn flaenorol.

 

Derbyniwyd llythyr gwrthwynebu hwyr oddi wrth y Cynghorydd Lynda James.

 

Derbyniwyd tair llythyr gwrthwynebu hwyr oddi wrth Gyngor Cymuned Pennard.

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar Rwymedigaeth Gynllunio Adran 106.

 

 

#(Eitem 4) – Cais Cynllunio 2019/0163/FUL - Cadw defnydd fel HMO 7 ystafell wely yn 105A Heol Walter, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Hywel Purchase (asiant).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr I Mann a P N May (aelodau lleol) ac amlinellon nhw eu gwrthwynebiadau i'r cynnig.

 

 

#(Eitem 5) - Cais Cynllunio 2019/0191/FUL - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO 3 ystafell wely (Dosbarth C4) i 3 pherson yn 39 Heol Foxhole, St Thomas, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan John Row (gwrthwynebydd).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr  J A Hale ac C E Lloyd (aelodau lleol) ac amlinellon nhw eu gwrthwynebiadau i'r cynnig.

 

 

#(Eitem 6) – Cais Cynllunio 2019/0319/TPO - Tocio canghennau a brigdocio 5 metr oddi ar gorun 7 derwen a warchodir gan GCC 100 ar dir yn agos i 52 Cilgant Denbigh, Ynysforgan, Abertawe

 

 

(2) Gwrthod y cais cynllunio a grybwyllir isod am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad:

 

#(Eitem 3) – Cais Cynllunio 2019/0239/FUL - Adeiladu 20 byngalo (fforddiadwy) gyda gwaith draenio cysylltiedig a lle hamdden ar dir oddi ar Heol Pentre Bach, Gorseinon, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchwyd y pwyllgor gan Jason Evans (asiant).

 

Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd  R V Smith (aelod lleol) ac amlinellodd ei gefnogaeth ar gyfer argymhelliad y swyddog sef gwrthod y cais.

 

62.

Ceisiadau Cynllunio: 2019/0577/106 a 2018/0358/S73 - Datblygiad preswyl at ddiben adeiladu 41 uned, gan gynnwys mynedfa a'r holl waith cysylltiedig arall - Heol Pentre Bach, Gorseinon, Abertawe. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a oedd yn ceisio awdurdod i addasu'r cytundeb A106 (rhwymedigaeth gynllunio) ar gyfer y datblygiad yn Heol Pentre Bach.

 

Amlinellwyd cefndir cymeradwyaeth wreiddiol y cais a manylwyd arno yn yr adroddiad.

 

Amlinellwyd hefyd y prif broblemau’n ymwneud â geiriad y cytundeb Adran 106 gwreiddiol a amlygwyd wedi hynny.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais i addasu’r cytundeb A106 (rhwymedigaeth gynllunio) er mwyn diwygio'r derminoleg i hepgor y term "i’w rhentu" yn y diffiniad o "dai canolradd" a diweddaru gweddill y cytundeb yn unol â hyn fel y gall yr ymgeisydd ddefnyddio cynnyrch canolradd eraill a gymeradwyir gan LlC.