Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y cysylltiadau canlynol: Y Cynghorydd M B
Lewis – Personol – Cofnod Rhif 43 – Eitem 8 – 2018/1873/RES – Mae’r Cyng. A S Lewis,
yr Aelod Lleol sy’n siarad ar y cais, yn wraig i mi. |
|||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2018 fel cofnod cywir. |
|||
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|||
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd: - 1) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio
isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod(#): #(Eitem 1)
– Cais Cynllunio 2018/2238/FUL - Codi uned ddiwydiannol/warws rhannol unllawr a rhannol ddeulawr, lle swyddfa ategol, lle priodol
i symud a pharcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig yn Lleiniau 7B, 8 a 9, Parc
Busnes Felindre, Ffordd Parc Felindre, Llangyfelach, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Meryl Lewis (yr asiant). Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Yn dilyn mwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd, mae’r Is-adran Priffyrdd wedi
cadarnhau nad yw Amod 14 (goleuadau traffig) yn ofynnol mwyach - caiff Amod 14
ei ddileu. Nodyn Gwybodaeth 2 – caiff yr awr ddechrau ei newid i 07:30 i gyd-fynd ag
Amod 9 y Cynllun Rheoli Adeiladu a’r Amgylchedd. (Eitem 2) –
Cais Cynllunio 2018/2020/FUL – Gosod cysylltiad nwy ar ffurf peirianwaith
newydd uwchben y ddaear a phiblinell nwy danddaearol
i ddod â nwy naturiol o’r System Trawsyrru Nwy Genedlaethol i Orsaf Bŵer Abergelli, gan gynnwys mynedfa, gweithrediadau peirianneg
cysylltiedig a thirlunio ar dir yn Fferm Abergelli,
Felindre, Abertawe (Eitem 3) –
Cais Cynllunio 2018/2021/FUL – Gosod cysylltiad trydanol ar ffurf cebl
tanddaearol 400kV newydd i allforio pŵer o Orsaf Bŵer Abergelli i’r System Trawsyrru Nwy Genedlaethol yn Is-orsaf
Gogledd Abertawe, gan gynnwys gweithrediadau peirianneg cysylltiedig a
thirlunio ar dir yn Fferm Abergelli, Felindre,
Abertawe (Eitem 4) –
Cais Cynllunio 2016/1619 – Dymchwel tai allan ac adeiladu dwy annedd ar wahân
ar dir y tu ôl i Glanmor Court, Park Drive, Uplands, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. (Eitem 5) – Cais Cynllunio 2018/1279/RES – Datblygiad
preswyl sy’n cynnwys 70 o dai annedd gyda ffyrdd a lle agored cysylltiedig,
(manylion golwg, tirlunio, cynllun a maint y datblygiad gan gynnwys lefelau
arfaethedig pob tŷ annedd o ganiatâd cynllunio 2006/0650 fel y'i hamrywir
gan 2011/0329 a 2013/0425) ar dir ym Mryn Hawddgar, Clydach, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. (Eitem 6) –
Cais Cynllunio 2018/1537/RES – Datblygiad preswyl sy’n cynnwys hyd at 92 o
anheddau gyda mynedfa, draenio a lle agored cyhoeddus cysylltiedig (Manylion
mynedfa, golwg, tirlunio, cynllun a maint) yn unol â Chaniatâd Cynllunio
2013/0617 a roddwyd ar 30 Hydref 2017 ar dir i’r de o Heol Glebe,
Casllwchwr, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Cai Parry (asiant) (Eitem 7) –
Cais Cynllunio 2018/1848/FUL - Cadw newid defnydd o annedd breswyl (Dosbarth C3) i HMO 6 ystafell wely (Dosbarth
C4) ac ychwanegu dormer gefn a dwy ffenestr do yn y blaen yn 166 Teras Rhyddings, Brynmill, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorwyr I E Mann, P N May, N J Davies (aelodau lleol) a
siaradodd yn erbyn y cais. (Eitem 8) –
Cais Cynllunio 2018/1873/RES – Adeiladu 28 o anheddau, lle agored cyhoeddus ac
isadeiledd atodol (cais materion a gadwyd yn ôl y cam cyntaf yn unol â chais
amlinellol 2014/0977 sy’n ymwneud â golwg, tirlunio, cynllun a maint) ar dir y
tu ôl i 5-39 Brodorion Drive, Cwmrhydyceirw,
Treforys, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorwyr A S Lewis a C R Evans (aelodau lleol) a siaradodd yn
erbyn y cais. Ychwanegwyd y
canlynol gan Nodyn Gwybodaeth 5: Mae’r Awdurdod Priffyrdd
wedi dweud na fydd y briffordd yn cael ei mabwysiadu gan y cyngor oherwydd lled
y ffordd. #(Eitem 10) - Cais Cynllunio 2018/2101/RES - Dymchwel
adeilad/adeileddau presennol ar y safle ac adeiladu llety pwrpasol i fyfyrwyr
sy’n cynnwys pedwar bloc o rhwng 5 a 6 llawr (cyfanswm o 706 o leoedd gwely)
gyda siop coffi mâl/caffi (Dosbarth A3) a champfa (Dosbarth D2) ynghyd â
defnyddiau cymunedol atodol gan gynnwys ardal reoli/golchi dillad/ystafell
gyffredin/lle parcio ceir a beiciau/ardal wasanaethu gwaith peirianneg, draenio
isadeiledd a thirlunio cysylltiedig - Cymeradwyo materion a gadwyd yn ôl -
manylion mynedfa, golwg, tirlunio, cynllun a maint yn unol ag Amodau 3, 6, 7, 8
a 10 Caniatâd Cynllunio Amlinellol 2016/1573 a roddwyd ar 22 Mai 2018 ar dir ar
hen safle llaethdy Unigate, Heol y Morfa, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan Matthew Gray (asiant). Adroddwyd am
sylwadau’r Is-adran Priffyrdd fel a ganlyn: Nid yw’r
ddogfennaeth barcio ychwanegol a gyflwynwyd yn gwneud dim i symud yr
argymhelliad a gynhwysir yn fy adroddiad gwreiddiol. Mae’r mesurau a gynigiwyd eisoes yn rhan o’r CCA sy’n sail i’r lleihad yn y
lle cyntaf ar gyfer Llety Pwrpasol i Fyfyrwyr – ni ellir eu cyfrif ddwywaith. Dylid diwygio
amod 1 i ddarllen:
Sylwer: Torrodd y
pwyllgor am saib o bum munud yn dilyn eitem 8 am 4.15pm #(Eitem 11)
– Cais Cynllunio 2018/2230/FUL – Newid defnydd o adeilad a ddefnyddir fel
cartref gofal i 8 fflat hunangynhwysol yn 54-56 Cilgant Eaton, Uplands, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan Matthew Gray (asiant). Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd I E Mann ac N J Davies (aelodau lleol) a siaradodd yn
erbyn y cais. Adroddwyd am 1
llythyr gwrthwynebu hwyr. #(Eitem 12) – Cais Cynllunio 2018/2290/S73 – Codi
adeilad llety myfyrwyr pwrpasol sy’n cynnwys chwech i saith llawr – 245 o leoedd
gwely gyda chyfleusterau cymunedol atodol a gwaith cysylltiedig – Cais o dan
Adran 73 i amrywio amod 33 (Cynlluniau) o ganiatâd cynllunio cyfeirnod 2007/2829 a 2008/1990 (yn dilyn
2018/2015/NMA) ar dir yn Heol New Cut/Heol y Morfa, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Terri-Anne Cross (asiant). Amod ychwanegol 5 wedi'i ychwanegu fel a ganlyn: Cyn i bobl breswylio yn y rhan berthnasol o’r datblygiad a ganiateir trwy
hyn, bydd gwydr aneglur yn cael ei osod yn ffenestri’r gegin/ardaloedd byw
eilaidd ar y gweddlun a nodir gan 3 – 3. Cyflwynir manylion hyn yn gyntaf i’r
Awdurdod Cynllunio Lleol a fydd yn eu cymeradwyo’n ysgrifenedig. Bydd y
ffenestri'n cael eu cadw'n barhaol yn y cyflwr hwnnw wedyn. Rheswm: Diogelu preifatrwydd y bobl sy’n byw mewn eiddo preswyl cyfagos. (Eitem 13) – Cais Cynllunio 2018/2320/FUL – Addasu
eiddo presennol yn ddatblygiad defnydd cymysg sy’n cynnwys lle
manwerthu/masnachol ar y llawr gwaelod (A1/ A2 / A3), swyddfeydd llawr cyntaf
(B1), addasu’r llawr uchaf i greu lle preswyl ac adeiladu dau lawr ychwanegol i
greu adeilad preswyl 6 llawr a fydd yn darparu 52 uned breswyl ynghyd â lle
parcio ceir allanol, storfa finiau a gwaith ategol yn Orchard
House, Stryd y Berllan, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchodd Phil Baxter (asiant) y pwyllgor. Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gwblhau Adran 106
y Rhwymedigaeth Gynllunio. 2) Gohirio’r cais cynllunio a nodir isod am ymweliad safle: #(Eitem 9) - Cais Cynllunio 2018/2001/FUL -
Ailddatblygu’r safle i ddarparu 5 annedd ar wahân a dau bâr o anheddau pâr
gydag un pâr o garejis i wasanaethu lleiniau 1 a 2 a dwy garej ar wahân i
wasanaethu lleiniau 4 a 5 gyda mynedfeydd, lle parcio a thirlunio cysylltiedig
yn y Greyhound Inn,
Llanrhidian, Abertawe Cyn gohirio: Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Phil Baxter (asiant) a Janice Williams
(gwrthwynebydd). Diweddarwyd yr adroddiad i ddangos 100 o lythyrau cefnogi hwyr, 2 lythyr gwrthwynebu
hwyr, 3 llythyr sylwadau a sylwadau ychwanegol gan y Pennaeth Trafnidiaeth a
Pheirianneg. |
|||
Gwahardd y cyhoedd. PDF 111 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y Bwrdd
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a
nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitemau
busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||
Adroddiad gorfodaeth cynllunio. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Bennaeth Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas a oedd yn amlinellu’r
cefndir i’r materion sy’n ymwneud â’r gwaith a wnaed i dŷ allan mewn gardd
eiddo. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Penderfynwyd 1) Awdurdodi Rhybudd Gorfodi o
dan Adran 172 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y’i diwygiwyd) i fynnu
bod yr adeilad a’r deunyddiau cysylltiedig yn cael eu symud o’r tir. 2) Mai’r cyfnod ar gyfer
cydymffurfio â’r rhybudd fydd 6 mis ar ôl i’r rhybudd ddod i rym. 3) Ceisio
caniatâd hefyd i gymryd camau cyfreithiol os na chydymffurfir â’r rhybudd. |