Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: Y Cynghorwyr C Anderson, P M Black, L S Gibbard, M H Jones, M B Lewis, P
Lloyd, P B Smith, A H Stevens, D W W Thomas a T M
White – Personol – Cofnod Rhif 25 – Eitem 3 – Cais Cynllunio 2018/1429/FUL –
mae'r ymgeisydd yn gyd-gynghorydd. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod Cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Awst 2018 fel cofnod cywir |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac
Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain
isod â (#) Penderfynwyd: - 1) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr
adroddiad a/neu a nodir isod(#): # (Eitem 1) Cais Cynllunio 2018/1515/ADV - 3 arwydd uchel
wedi'u goleuo'n fewnol, un atalfa 4m o uchder wedi'i oleuo'n fewnol - cantilifer ar y dde, 2 arwydd gwerthwr
allweddi wedi'u goleuo'n fewnol, un arwydd bwydlen ddwbl wedi'i oleuo'n fewnol,
un arwydd ffrâm baner ac amrywiaeth o arwyddion cyfeiriad ar dir yn Fferm Heol
Ddu, Gellifedw, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Estelle
Bubear (gwrthwynebydd). Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr M Sykes a P M
Matthews (aelodau lleol) a siaradodd yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am
lythyr gwrthwynebu hwyr. (Eitem 2) Cais Cynllunio 2018/0930/RES - Materion a
Gadwyd yn Ôl - manylion mynediad - yn unol â chaniatâd cynllunio amlinellol
2013/0617 a roddwyd ar 30 Hydref 2017 ar gyfer datblygiad preswyl sy'n cynnwys
hyd at 92 o anheddau â mynediad, draeniad
a man agored cyhoeddus cysylltiedig, ar dir i'r de o Heol Glebe, Casllwchwr, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Bethan Jones (ar ran Capel
Moriah) a Cai Parry (asiant). Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd R V Smith (Aelod Lleol) a siaradodd o blaid y
sylwadau gan Gapel Moriah ynghylch yr angen i
ddarparu mannau parcio ar gyfer ymwelwyr â'r capel. Cymeradwywyd y cais. Cytunwyd y byddai Swyddogion
Priffyrdd yn cysylltu â'r Aelod Lleol - pan fydd arian A106 sy'n ymwneud â'r
caniatâd cynllunio amlinellol yn cael ei dderbyn - er mwyn trafod yr opsiynau amrywiol sydd ar gael
ar gyfer gwario arian A106 i'w darparu ar gyfer gwella diogelwch priffyrdd
lleol. (Eitem 3) Cais Cynllunio 2018/1429/FUL - Cadw a chwblhau
tŷ allan ar wahân yn 4 Gerddi Badminton, Ravenhill,
Abertawe (Eitem 4) Cais Cynllunio 2018/1467/FUL - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO ystafell wely i 5
person (Dosbarth C4) gyda dormer newydd yn y cefn a chwalu corn simnai yn 45
Stryd Westbury, Abertawe Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorwyr N J Davies, I
E Mann a P N May (aelodau lleol), a siaradodd yn erbyn y cais. Diwygiwyd Amod 3 i nodi fel a ganlyn: Bydd yr ardal storio biniau
a'r sied feiciau fel y'u hamlinellir yn y lluniau ADEILADHMO/04 ystlyslun
chwith arfaethedig, ADEILADHMO//06 ystlyslun dde arfaethedig, ADEILADHMO/14
cynllun safle arfaethedig a dderbyniwyd ar 16 August
2018, ar gael at ddefnydd y preswylwyr cyn y defnydd buddiol o'r datblygiad ac
felly cânt eu cadw ac ar ôl hynny, ni chânt eu defnyddio at unrhyw ddiben
arall. (Eitem 5) Cais Cynllunio 2018/1512/FUL - Newid o ddefnydd
preswyl (Dosbarth C3) i HMO 6 ystafell wely i 6 pherson (Dosbarth C4) yn 123
Teras Rhyddings, Brynmill,
Abertawe Anerchwyd y pwyllgor gan Elizabeth Borland (gwrthwynebydd). Anerchwyd y Pwyllgor gan y Cynghorwyr N J Davies, I
E Mann a P N May (aelodau lleol), a siaradodd yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am
lythyr gwrthwynebu hwyr. (Eitem 6) Cais Cynllunio 2018/1562/FUL - Newid o ddefnydd
preswyl i HMO 7 ystafell wely i 7 person yn 47 Cilgant Gwydr, Uplands, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Matthew Gray (asiant). Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr I E Mann a P
N May (aelodau lleol) a siaradodd yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am
lythyr gwrthwynebu hwyr. (Eitem 8) Cais Cynllunio 2018/1723/FUL - Newid o ddefnydd
preswyl (Dosbarth C3) i HMO i 5 person (Dosbarth C4) yn St Stephens Court, Ardal Forol, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: adroddwyd am
13 llythyr gwrthwynebiad a anfonwyd yn hwyr. 2) Gwrthod y cais cynllunio a grybwyllir isod am y
rhesymau a amlinellwyd yn yr adroddiad: (Eitem 7) Cais Cynllunio 2018/1665/FUL - Newid defnydd o
2 fflat hunangynhwysol (Dosbarth C3) i HMO 9 ystafell wely (Sui Generis) i 9 person gyda newidiadau ffenestriad
cysylltiedig yn 45 Stryd yr Ysgol, Port Tennant,
Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Julian Hoskins
(gwrthwynebydd) a Robert Hughes (asiant). |
|
Apelio Penderfyniad - 199 St Helens Avenue, Brynmill, Abertawe, SA1 4NE. PDF 97 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad "er
gwybodaeth" am ganlyniad yr apêl cynllunio yn erbyn penderfyniad y
Pwyllgor Cynllunio ar 6 Mawrth 2018 i wrthod cais am newid o ddefnydd preswyl i
HMO 6 ystafell wely. Amlinellwyd manylion cefndir y cais a phenderfyniad yr Arolygydd Cynllunio
yn yr adroddiad. Penderfynwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |