Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o Fuddiannau Personol a Rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
gysylltiadau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2018 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w Gohirio/Tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Gorchymyn Cadw Coed Dros Dro GCC 646. PDF 576 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog
Coed adroddiad 'Gorchymyn Cadw Coed GCC 646 am dir yn: Llwyn Teg, Heol Iscoed,
Heol Islwyn, Gelli Deg a Gelli Rhedyn (2018)' Darparwyd
diweddariad ar yr adroddiad er mwyn cynnwys arsylwadau hwyr. Penderfynwyd cymeradwyo Gorchymyn Cadw Coed GCC 646 ar
dir yn: Llwyn Teg, Heol Iscoed, Heol Islwyn, Gelli Deg a Gelli Rhedyn, ac
eithrio coed T5 a T16. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd: - 1) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr
adroddiad ac/neu a nodir isod(#): (Eitem 1) Cais cynllunio 2018/0585/FUL -
Annedd o'r newydd yn The Tillers, Heol Marsh, Llanrhidian, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. (Eitem 2) Cais
cynllunio 2018/1286/FUL - Newid defnydd o breswyl (dosbarth C3) i HMO 5
ystafell wely ar gyfer 4 person (dosbarth C4) yn 25 Heol Dan-y-graig, Port Tennant, Abertawe Anerchwyd y pwyllgor gan Robert Hughes (asiant). Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorwyr Joe Hale a Clive Lloyd (aelodau lleol) a siaradodd yn
erbyn y cais. (#) (Eitem 3)
Cais cynllunio 2018/1323/FUL - Newid defnydd o breswyl
(dosbarth C3) i HMO 5 ystafell wely ar gyfer 4 person (dosbarth C4) yn 22 Heol Parc y Rhyddings, Brynmill, Abertawe Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorwyr Peter May a Nick Davies (aelodau lleol) a siaradodd
yn erbyn y cais. Darparwyd
diweddariad ar yr adroddiad er mwyn cynnwys gwrthwynebiadau hwyr gan y
Cynghorydd Irene Mann (aelod lleol). (#) (Eitem 4) Cais cynllunio 2018/1329/FUL
- Newid defnydd o breswyl (dosbarth C3) i HMO 7 ystafell wely
ar gyfer 7 person, gan gynnwys gosod canllaw i'r ardd gefn a'r grisiau yn 134 Heol y
Brenin Edward, Brynmill, Abertawe Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorwyr Peter May a Nick Davies (aelodau lleol) a siaradodd
yn erbyn y cais. Darparwyd
diweddariad ar yr adroddiad er mwyn cynnwys gwrthwynebiadau hwyr gan y
Cynghorydd Irene Mann (aelod lleol). (#)
(Eitem 6) Cais cynllunio 2017/1930/FUL - Dymchwel adeilad presennol a rhoi adeilad
deulawr yn ei le, sy'n cynnwys llety yn y lle o dan y to, swyddfa ar y llawr
gwaelod a dwy fflat ddeulawr hunangynwysedig â 2 ystafell wely ar y lloriau
uchaf yn Swansea Jack, 130 Heol Ystumllwynarth, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan Roger Goodwin (preswylydd lleol) a siaradodd yn erbyn y cais ar
ran preswylwyr lleol. Anerchwyd y pwyllgor
gan y Cynghorydd Fiona Gordon (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais. Darparwyd
diweddariad ar yr adroddiad er mwyn cynnwys negeseuon e-bost hwyr yn cynnwys
gwrthwynebiad i'r cais a chefnogaeth iddo. Amod ychwanegol
wedi'i ychwanegu fel a ganlyn: Ni chaniateir
unrhyw waith datblygu, gan gynnwys dymchwel, tan i Ddatganiad Dull Adeiladu
gael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig.
Dylid glynu wrth y datganiad cymeradwy drwy gydol y cyfnod adeiladu. Dylai'r
datganiad ystyried y canlynol: i) parcio
cerbydau gan weithredwyr y safle ac ymwelwyr; ii) llwytho a
dadlwytho peiriannau a deunyddiau; iii) storio
peiriannau a deunyddiau a ddefnyddir wrth adeiladu'r datblygiad; iv) codi a
chynnal a chadw hysbysfyrddau diogelwch, gan gynnwys arddangosfeydd addurnol a
chyfleusterau i'r cyhoedd eu gweld, pan fo'n briodol; v) cyfleusterau
golchi olwynion; vi) mesurau i
reoli allyriadau llwch a baw yn ystod y gwaith dymchwel ac adeiladu; a vii) chynllun ar
gyfer ailgylchu/cael gwared ar wastraff sy'n deillio o waith dymchwel ac
adeiladu. Rheswm: Lleihau'r tebygolrwydd o rwystro'r briffordd,
peri perygl i ddefnyddwyr y ffordd, gwarchod iechyd cyhoeddus ac amwynder
lleol, er mwyn sicrhau bod safon foddhaol o ddatblygu cynaliadwy ac er mwyn
sicrhau bod safon dda o ddatblygiad a golwg i gadw amwynderau a chymeriad
pensaernïol yr ardal. (Eitem 7) Cais
cynllunio 2018/1263/RES - Adeiladu maes parcio aml-lawr (manylion am fynediad,
golwg, tirlunio, cynllun a graddfa yn unol ag amod 6 caniatâd cynllunio
amlinellol 2015/1584 a gymeradwywyd ar 10 Tachwedd 2015) yn Llain A9, Glannau
Abertawe, Abertawe Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr Joe
Hale a Clive Lloyd a siaradodd ynghylch y ddarpariaeth parcio ceir a'r costau
parcio yn yr ardal. 2) Gwrthod y ceisiadau cynllunio isod am y rhesymau a nodir
isod: (#)
(Eitem 5) Cais cynllunio 2018/1386/FUL - Newid defnydd o breswyl (dosbarth C3) i HMO 5 ystafell wely i 5 person
(dosbarth C4) yn 6 Stryd Lewis, St Thomas, Abertawe Anerchwyd
y pwyllgor gan Matthew Gray (asiant). Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr
Clive Lloyd a Joe Hale a siaradodd yn erbyn y cais. Darparwyd diweddariad ar yr adroddiad er
mwyn cynnwys 4 gwrthwynebiad ychwanegol hwyr. Gwrthodwyd y cais yn groes i argymhelliad y
swyddog am y rhesymau canlynol: - 1) Byddai'r cais, ynghyd â'r tai amlfeddiannaeth sy'n bodoli ar Stryd
Lewis, yn arwain at gynnydd yn nifer y tai amlfeddiannaeth a chrynhoad
niweidiol ohonynt yn y stryd fach (lle mae 15% ohonynt yn dai amlfeddiannaeth, sydd
yn uwch na'r trothwy 10% a awgrymir mewn ymchwil gan Lywodraeth Cymru yn
'Adolygiad a Chasglu Tystiolaeth o Dai Amlfeddiannaeth: Adroddiad am y
canfyddiadau (Ebrill 2015)’. Byddai'r fath effaith yn arwain at niweidio
cymeriad y stryd a chydlyniant cymdeithasol gyda lefelau uwch o breswylwyr dros
dro a llai o aelwydydd tymor hir a theuluoedd sefydledig. Byddai hyn yn arwain,
yn y tymor hir, at gymunedau na fyddent yn gytbwys nac yn hunangynhaliol. O
ganlyniad, mae'r cynnig yn groes i faen prawf (ii) Polisi HC5 Cynllun Datblygu
Unedol Dinas a Sir Abertawe (2008) a nodau'r polisi cenedlaethol a bennwyd ym
Mholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 9, Ionawr 2016), sef creu cymunedau cymysg,
cynaliadwy a chynhwysol. 2) Byddai'r HMO arfaethedig, oherwydd ei
fod ar Stryd Lewis, yn rhyngosod anhedd-dŷ sydd eisoes yn bodoli (rhif 7)
rhwng dau HMO (rhif 8 a'r eiddo yn y cais, rhif 6). Byddai hyn yn achosi
effaith andwyol sylweddol ar amwynderau preswyl deiliaid rhif 7 Stryd Lewis
oherwydd y byddai wedi'i ynysu rhwng dwy uned heb deulu a byddai'r cynnydd yn
nifer y bobl yn mynd ac yn dod o'r ddau HMO cyfnesaf yn arwain at fwy o
sŵn ac aflonyddwch, a byddai'n groes i faen prawf (i) Polisi HC5 Cynllun
Datblygu Unedol Dinas a Sir Abertawe (2008). (#) (Eitem 8) Cais cynllunio 2017/2606/FUL
- Dymchwel adeilad presennol ac adeiladu llety pwrpasol i fyfyrwyr rhwng 6 a 14
llawr (hyd at 414 o welyau a chymysgedd o fflatiau clwstwr a fflatiau stiwdio)
gyda chyfleusterau cymunedol ategol ar y llawr gwaelod, lle storio beiciau a
biniau, ac uned fasnachol ar y llawr gwaelod (dosbarth A3) a gwaith isadeiledd
cysylltiedig, tirlunio a lleoedd parcio ceir (4 lle) ar dir i'r gogledd o Stryd
Jockey, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Mr Wynne,
Cadeirydd Cymdeithas MENCAP Abertawe (perchennog yr adeilad gerllaw) a
siaradodd yn erbyn y cais ar ran y gymdeithas. Lleisiodd bryderon am broblemau
parcio a'r effeithiau posib ar fynediad ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth, yn
enwedig i'r clwb. Mae'r gymdeithas yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i
ddefnyddwyr gwasanaeth diamddiffyn a'u teuluoedd. Anerchwyd
y pwyllgor gan James Banks (asiant). Darparwyd diweddariad ar yr adroddiad er
mwyn cynnwys sylwadau gan y Tîm Rheoli Llygredd a awgrymodd ddiwygiad i Amod
17. Gwrthodwyd y cais yn groes i argymhelliad
y swyddog am y rhesymau canlynol: - 1) Byddai'r
datblygiad - o ganlyniad i'w uchder, ei raddfa a'i grynswth ar safle datblygu
gyfyngedig - yn effeithio i raddau annerbyniol ar gymeriad a golwg yr ardal, a
byddai'n groes i ofynion polisïau EV1, EV2 ac EC2 Cynllun Datblygu Unedol
Abertawe (a fabwysiadwyd ym mis Tachwedd 2008). 2) Byddai'r datblygiad arfaethedig yn
darparu 4 lle parcio er mwyn gwasanaethu 414 o fyfyrwyr a'r cyfleusterau ar y
llawr gwaelod. Ystyrir y lefel o leoedd parcio i fod yn annigonol er mwyn
gwasanaethu'r llety i fyfyrwyr a fydd yn rhoi pwysau ar y strydoedd cyfagos,
gan arwain at barcio diystyriol a niwed i ddiogelwch y briffordd yn yr ardal o
ganlyniad, sy'n groes i ofynion polisïau EV1 ac AS6 Cynllun Datblygu Unedol
Dinas a Sir Abertawe a Chanllawiau Cynllunio Atodol 'Safonau Parcio' (a
fabwysiadwyd ym mis Mawrth 2012). 3) Gohirio'r cais cynllunio isod dan y broses bleidleisio
dau gam er mwyn cael adroddiad pellach am y rhesymau dros wrthod: (Eitem 9) Cais Cynllunio 2018/1023/FUL - Adeiladu llety
pwrpasol i fyfyrwyr rhwng 7 a 9 llawr (591 o welyau) gyda
chyfleusterau/gwasanaethau cymunedol ategol, 1 uned llawr gwaelod Dosbarth A3, mannau
parcio ceir a beiciau, ardal wasanaethu, storfa sbwriel, gwaith peirianneg,
draenio, isadeiledd a thirlunio cysylltiedig i'r mannau cyhoeddus yn Llain A1,
Heol y Brenin, Abertawe Cyn gohirio: Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Nigel Fletcher (Rheoli
Gwastraff - Cyngor Abertawe) a siaradodd yn erbyn y cais mewn perthynas â'r
Is-adran Rheoli Gwastraff. Anerchwyd y pwyllgor gan Matthew Halstead
(asiant). Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr
Clive Lloyd a Joe Hale (aelodau lleol) a siaradodd yn erbyn y cais. |
|
Abergelli Power Limited (APL) – Adroddiad Eitem ar Orsaf Bŵer Nwy. PDF 2 MB Cofnodion: Rhoddwyd
cyflwyniad ar y diweddaraf gan Andrew Ferguson, Prif Swyddog Cynllunio, mewn
perthynas â chais Abergelli Power Limited am orchymyn caniatâd datblygu ar
gyfer y cynnig am orsaf bŵer nwy yn Felindre. Penderfynwyd y bydd y pwyllgor yn nodi sylwadau
perthnasol y cyngor mewn perthynas â'r uchod. |