Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau
canlynol: Y Cynghorydd P M
Black – Personol a Rhagfarnol – Cais Cynllunio 2017/2441/RES (Eitem 1) –
Cyfrannodd y datblygwr arian at fy ymgyrch etholiadol yn Etholiad Cynulliad
Cenedlaethol Cymru 2016, a gadawodd cyn y drafodaeth. Y Cynghorydd P
Lloyd – Personol a Rhagfarnol – Cais Cynllunio 2017/2441/RES (Eitem 1) - Rwy'n
adnabod yr ymgeisydd. Y Cynghorydd A H Stevens
– Personol – Cais Cynllunio 2018/0358/S73 (Eitem 2) - Rwyf wedi bod yn
gysylltiedig â'r cais ar ran y preswylwyr. Y Cynghorydd A H
Stevens - Personol a Rhagfarnol – Cais Cynllunio 2016/1478 (Eitem 6) - Bu'n
gysylltiedig â'r cais yn flaenorol fel Cynghorydd Cymuned gyda Chyngor Tref
Gorseinon ac wedi rhentu rhan o dir ar gyfer anifeiliaid, a gadawodd cyn y
drafodaeth. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2018 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd 1) Cymeradwyo'r
ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir
isod(#): (Eitem 1)
Cais Cynllunio 2017/2441/RES - Datblygiad preswyl gyda 45 o anheddau (manylion
mynediad, golwg, tirlunio, cynllun a graddfa'n unol â chaniatâd cynllunio
2006/1902 a roddwyd ar 6 Gorffennaf 2012 fel y'i hamrywir gan gais Adran 73
2014/1189) ar dir yn Upper Bank, Pentrechwyth,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. (#)(Eitem 2) Cais Cynllunio 2018/0358/S73 -
Datblygiad preswyl lle'r adeiledir 41 uned, gan gynnwys mynediad a'r holl
weithiau cysylltiedig - amrywiad ar amod 2 (cynlluniau cymeradwy) caniatâd
cynllunio 2017/0775/FUL a roddwyd ar 8 Awst 2017 er mwyn ychwanegu is-orsaf a
diwygio'r parcio ar gyfer lleiniau 3 i 6 yn Heol Pentre
Bach, Gorseinon, Abertawe. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am
lythyr dim gwrthwynebiad hwyr (yn amodol ar amodau draenio) gan Ddŵr
Cymru. Cymeradwywyd y
cais yn amodol ar yr ymgeisydd yn ymrwymo i Weithred Amrywio i Adran 106 y
Rhwymedigaeth Gynllunio a'r amodau a amlinellir. (Eitem 3) Cais Cynllunio 2017/2610/FUL - Adeiladu ysbyty
preifat deulawr/trillawr (Dosbarth C2) gyda maes
parcio oddi tano ac yn yr awyr agored, iard wasanaethu a mynediad cysylltiedig,
gwaith isadeiledd a thirlunio ar leiniau A15 ac A16 Heol Langdon,
SA1 Glannau Abertawe, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd C Lloyd (aelod lleol) a siaradodd o blaid y cais. (Eitem 4 Cais
Cynllunio 2018/0413/S73 - Cais Adran 73 i amrywio Amod 3 (caniatáu i ddau
ddefnyddiwr werthu bwyd, hyd at gyfanswm o 3,720 metr sgwâr (Arwynebedd Allanol
Gros), ac Amodau 2, 4, 5, 6, 7 a 21 (i gyfeirio at y Cynllun Safle diwygiedig -
cyfuno Unedau 5A a 5B) ac Amod 9 (diwygio gorffeniadau allanol Unedau 5A/5B)
cais cynllunio 2016/0662 a roddwyd ar 26/10/2016 yn Uned 5A a 5B, Parc Tawe,
Canol y Ddinas, Abertawe Cymeradwywyd y cais
yn amodol ar amodau ac ar yr amod bod yr ymgeisydd yn ymrwymo i Weithred o
Amrywio newydd i Ymgymeriad Unochrog Adran 106. (#) (Eitem
5) Cais Cynllunio 2017/2638/FUL - Adeiladu ffatri 4,672m2 (Dosbarth
B2) gyda pharcio ategol, 2 loches i feiciau, lloches smygu, ystafell switshys, iard
wasanaeth a thirlunio ar Lain H, Heol Bruce, Fforest-fach, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am
lythyr hwyr gan yr Awdurdod Glo a nododd ei fod yn dymuno gwneud sylw am y
cais, ond ni fyddai'n gallu cyflwyno sylwadau tan 11 Ebrill 2018. Cymeradwywyd y
cais yn amodol ar yr amodau a amlinellir, ac yn amodol ar unrhyw amodau y
bernir bod eu hangen gan yr Awdurdod Glo. (Os yw'r Awdurdod Glo'n gwrthwynebu,
adroddir yn ôl i'r Pwyllgor Cynllunio am y mater) (#) (Eitem
6) Cais Cynllunio 2016/1478 - Cais cynllunio hybrid (gyda'r holl faterion
wedi'u cadw ar wahân i fynediad strategol) ar gyfer datblygiad defnydd cymysg,
preswyl yn bennaf, i'w ddatblygu fesul cam, gan gynnwys: gwaith paratoi fel y
bo angen, gan gynnwys cloddio/ailraddio lefelau safle; hyd at 750 o unedau
preswyl (dosbarth defnydd C3, gan gynnwys cartrefi fforddiadwy); darparu 1
ysgol gynradd; arwynebedd llawr A1-A3/D1 hyblyg o oddeutu 280m2 -
370m2; lle agored gan gynnwys parciau; man gwyrdd naturiol a
lled-naturiol; mannau gwyrdd ar gyfer amwynderau; cyfleusterau i blant a phobl
ifanc; darpariaeth chwaraeon awyr agored, gan gynnwys caeau chwarae;
gwasanaethau cysylltiedig, gwaith isadeiledd a pheirianneg gan gynnwys
mynediadau cerbydau newydd, gwaith gwella i'r rhwydwaith priffyrdd presennol,
ffyrdd, llwybrau cerdded/beicio newydd; gwaith tirlunio (gan gynnwys systemau
draenion cynaliadwy) gwaith lliniaru ecolegol a gwaith ategol ar dir i'r
gogledd o Bentre'r Ardd, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
cyfarfod gan Geraint John (asiant). Anerchwyd y
cyfarfod gan y Cynghorydd W Evans (aelod lleol) a siaradodd o blaid
pryderon/gwrthwynebiadau preswylwyr lleol ynghylch y cais, yn enwedig o ran y
problemau traffig, colli mannau gwyrdd a diffyg darpariaeth feddygol ar gyfer y
dyfodol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am un
llythyr gwrthwynebu hwyr. Caiff y cais ei
gyfeirio at Lywodraeth Cymru fel cais gwyro, ac argymhellir ei fod yn cael ei
gymeradwyo'n amodol ar yr amodau ac ar yr ymgeisydd yn ymrwymo i gytundeb Adran
106 fel a fanylir yn yr adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o
Adolygiad Drafft o Ardal Gadwraeth y Mwmbwls a cheisiodd ganiatâd i gynnal
ymgynghoriad â'r cyhoedd a rhanddeiliaid. Darparwyr cyflwyniad
gweledol a oedd yn amlinellu'r prif ddiwygiadau arfaethedig i'r polisi. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo dogfen Adolygiad Drafft o Ardal Gadwraeth y Mwmbwls ar gyfer
ymgynghoriad cyhoeddus â'r cyhoedd a rhanddeiliaid. 2) Adrodd yn ôl i'r Pwyllgor Cynllunio am
atodlen o ymatebion i'r sylwadau a dderbyniwyd er mwyn iddo ei ystyried a rhoi
cymeradwyaeth derfynol iddo fel Canllawiau Cynllunio Atodol. |