Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|||
Cymeradwyo a llofnodi fel cofnod cywir gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 9 Ionawr 2018 fel
cofnod cywir. |
|||
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|||
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau
i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd 1) Cymeradwyo'r
ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir
isod(#): #(Eitem 1)
Cais cynllunio 2017/2572/FUL - Datblygiad amlddefnydd sy'n cynnwys 28 o
anheddau preswyl a dwy uned fasnachol (Dosbarth A1) yn Pines Country, 692 Heol
Llangyfelach, Treboeth, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Gill Bramley (gwrthwynebydd) a Phil Baxter
(asiant).
(Eitem 2)
Cais cynllunio 2017/2360/OUT Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. (Eitem 3) Cais
cynllunion 2017/2511/FUL - Adeiladu 25 o unedau preswyl (16 o dai tref tri
llawr, bloc tri llawr o 6 fflat a thri fflat "uwchben garej") gyda
mynediad cysylltiedig, parcio, man storio sbwriel a beiciau a gwaith tirlunio
yn llain E3b i'r de o Ffordd Fabian, Heol Langdon, Dociau Abertawe, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Robin Vaughan (gwrthwynebydd) a Phil Baxter
(ymgeisydd). Cymeradwywyd y cais yn unol â'r argymhelliad yn amodol ar yr
ymgeisydd yn ymrwymo i Rwymedigaeth Gynllunio Adran 106 ac yn amodol ar
ychwanegu amod i fynd i'r afael â gwanhau sain yn yr eiddo fel a ganlyn: Cyn dechrau unrhyw waith
uwchstrwythurol, cyflwynir manylion gwanhau sain yr eiddo ar gyfer y drysau, y
ffenestri a'r waliau allanol i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a bydd hwnnw yn
cymeradwyo hyn yn ysgrifenedig. Bydd y cynllun a gyflwynir yn sicrhau bod
ystafelloedd y gellir byw ynddynt yn amodol ar fesurau inswleiddio sain yn cael
eu darparu gydag unedau awyru mecanyddol fel bod y rhai a fydd yn byw ynddynt
yn y dyfodol yn gallu cadw eu ffenestri ar gau. Ni fydd unrhyw uned breswyl yn
cael ei meddiannu tan i'r mesurau inswleiddio sain ac awyru a gymeradwywyd gael
eu gosod mewn perthynas â'r uned honno. Rheswm: Diogelu defnydd preswyl arfaethedig yn erbyn
sain bresennol sy'n deillio o draffig yn yr ardal a gweithdrefnau masnachol
gerllaw. |
|||
Gwagle Cyhoeddus Agored - SA1 Glannau Abertawe PDF 633 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a oedd yn ymwneud â darparu
Ardaloedd Chwarae i Blant o fewn y datblygiad yn SA1. Amlinellwyd y manylion
cefndir a'r cyd-destun mewn perthynas â'r ddarpariaeth, yn ogystal â'r cynnig
diwygiedig gan Lywodraeth Cymru i ariannu tri man agored/cyhoeddus yn y
lleoliadau a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd: 1) ymrwymo i Rwymedigaeth Cynllunio Adran 106 i
ddarparu man agored/cyhoeddus yn ogystal ag ardal chwarae i blant yn y tair
ardal a nodir o fewn Datblygiad Abertawe SA1, yn amodol ar dderbyn taliad
gwerth £1,000,000 gan Lywodraeth Cymru i dalu am y dyluniad, y cynllun a
chostau cynnal a chadw'r ddarpariaeth yn y dyfodol. 2) cytuno ar yr ymagwedd a nodir uchod gan
y Pwyllgor Cynllunio a rhoi pwerau dirprwyedig i Bennaeth Cynllunio ac
Adfywio'r Ddinas er mwyn cytuno ar fanylion Rhwymedigaeth Gynllunio Adran
106 Llywodraeth Cymru. |