Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|||
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 5 Medi 2017 fel cofnod cywir, yn amodol ar ychwanegu
enw'r Cyng. M H Jones at restr yr ymddiheuriadau. |
|||
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|||
GCC629 - Tir wrth 7 Teras Hadland, West Cross, Abertawe. PDF 4 MB Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio adroddiad a oedd yn ceisio gwneud gorchymyn dros dro mewn perthynas â 7 Teras Hadland, West Cross, Abertawe, GAC 629, yn orchymyn parhaol. Amlinellwyd y sylwadau
a dderbyniwyd ynghylch y cynnig yn yr adroddiad, gan fanylu arnynt. Penderfynwyd cadarnhau'r Gorchymyn Cadw Coed GCC629 ar dir 7 Teras Hadland, West Cross, Abertawe. |
|||
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 92 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd 1) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod(#): #(Eitem 1) Cais
cynllunio 2017/0925/RES - Tir oddi ar Lôn Masarn, Ysbyty Cefn Coed, Heol
Waunarlwydd, y Cocyd, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Ian Murray a Nick Dodd (gwrthwynebwyr) a Rhian Powell (asiant). Anerchodd y Cyng. C L Philpott (Aelod Lleol) y pwyllgor, gan siarad am y cais ac amlinellu pryderon preswylwyr am y datblygiad. Croesawyd y cynigion ar gyfer biniau graean ychwanegol ganddi, yn ogystal â chynnwys aelodau lleol a phreswylwyr yn y Pwyllgor Rheoli. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:
(Eitem 2) Cais
cynllunio 2017/0373/FUL - yr hen Stadiwn Milgwn, Heol
Ystrad, Fforestfach, Abertawe Anerchwyd y pwyllgor gan Stacey Norman (yr ymgeisydd). Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd W G Lewis (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais. #(Eitem 3) Cais
Cynllunio 2017/1384 – S73 - Lidl Uk Gmbh, Heol Sway, Treforys,
Abertawe Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Ar dudalen 46, o dan adran 'Cefndir', dylai'r cyfeiriad at gais ‘2013/0824’ yn llinell 1 ddarllen ‘2016/1312’ Nodwyd cynllun sy'n ei ddisodli yn amodau 2 a 4. Dylid newid y cyfeiriad yn amod 2 i gynllun ‘2016/.29 Rev E cynigion tirlunio diwygiedig a dderbyniwyd ar 22 Awst 2017' i ‘2016/.29 Rev G cynllun cynigion tirlunio diwygiedig, a dderbyniwyd ar 19 Medi 2017'. Yn amod 4, mae angen cyfeirio at rif y cynllun. Dylid newid ‘2016/.29 Rev E’ i ‘2016/.29 Rev G’ (Eitem 4) Cais
cynllunio 2017/1699/FUL – 1306 Heol Caerfyrddin, Fforestfach,
Abertawe (Eitem 5) Cais
cynllunio 2017/1849/FUL – 95 Heol Pontarddulais, Gorseinon, Abertawe #(Eitem 6) Cais cynllunio 2017/1231/FUL - Canolfan Arddio Fforest Mill, Heol Pontarddulais, Cadle,
Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Meryl Lewis (yr asiant). Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd E J King (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am lythyr hwyr o wrthwynebiad gan gwmni o beirianwyr a oedd yn cynrychioli Marston's (tafarn Mary Dilwyn). Cymeradwywyd y cais yn amodol ar yr ymgeisydd yn ymrwymo i Rwymedigaeth Gynllunio A106. |
|||
Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio. PDF 1 MB Cofnodion: Cyflwynwyd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol gan Bennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried bod yr adroddiad yn ddull pwysig ar gyfer monitro perfformiad awdurdodau cynllunio lleol yn erbyn cyfres allweddol o ddangosyddion perfformiad cenedlaethol. Mae'r adroddiad hefyd yn offeryn pwysig ar gyfer meincnodi perfformiad awdurdodau lleol ar draws Cymru. Rhoddwyd manylion adroddiad drafft 2016-17 yn Atodiad A yr adroddiad. Rhoddwyd manylion am y ffigurau perfformiad gwirioneddol, y gwelliannau a gyflawnwyd dros y blynyddoedd diwethaf a'r materion i'w datrys yn yr adroddiad, yn ogystal â chyfres o benderfyniadau apêl yn deillio o geisiadau a oedd wedi'u gwneud yn groes i argymhellion swyddogion. Llongyfarchodd aelodau staff yr Adran Gynllunio ar eu hymrwymiad a'u perfformiad dros y flwyddyn. |