Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2017 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: (Eitem 1) Cais Cynllunio
2017/1684/OUT - Adeiladu 40 o anheddau, ffordd fynediad newydd a gosod pont
newydd (amlinellol) ar dir yn Felin Frân, Llansamlet, Abertawe Tynnwyd y cais yn
ôl gan yr ymgeiswyr. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd 1) Cymeradwyo'r
ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod: (Eitem 2) Cais
Cynllunio 2017/2201/FUL - Annedd newydd ar wahân gyda garej ar wahân yn
Underhill, Llanmadog, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. (Eitem 3) Cais
Cynllunio 017/2220/FUL - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO 3
ystafell wely (Dosbarth C4) yn 8 Stryd Lewis, St. Thomas, Abertawe. Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Anerchwyd y
Pwyllgor gan Mr Rowe (gwrthwynebydd). Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorwyr C E Lloyd a J Hale (aelodau lleol) a siaradon nhw yn
erbyn y cais. (Eitem 4) Cais
Cynllunio 2017/1451/OUT - Datblygiad preswyl o hyd at 100 o anheddau yn ogystal
â lleoedd parcio, mynediad tirlunio a mannau agored cysylltiedig. (cais amlinellol - holl faterion
wedi'u cadw ar wahân) yn hen Bwll Glo Cefn Gorwydd, Heol Gorwydd, Tregŵyr,
Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan Mike Rowlands a Val Higgon (gwrthwynebwyr) a Phillipa Cole
(asiant). Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd C A Holley ar ran y Cynghorydd S M Jones (aelod
lleol) a siaradodd yn erbyn y cais. Cymeradwywyd y
cais yn unol â'r argymhelliad yn amodol ar adran 106 y Rhwymedigaeth Gynllunio
fel y'i nodir yn yr adroddiad. (Eitem 5) Cais
Cynllunio 2017/2195/ADV - 1 arwydd mewnol sy'n sefyll ar ben ei hun wedi'i
oleuo a 2 arwydd ffens wedi'u gosod heb eu goleuo yn 30 Cilgant Uplands, Uplands,
Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Anerchwyd y
Pwyllgor gan y Cynghorwyr N J Davies ac I E Mann (aelodau lleol), a oedd yn
siarad yn erbyn y cais. |