Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorydd D W W
Thomas – Eitem Agenda 7 (Cais Cynllunio 2017/1393/S73) – Personol – Mae fy
chwaer yn breswylydd yn Campion Gardens. |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 1 Awst 2017 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Cafodd yr eitem
ganlynol ei gohirio gan swyddogion: Eitem Agenda 6 -
Gorchymyn Cadw Coed Dros Dro - GCC629 - Tir wrth 7 Teras Hadland, West Cross,
Abertawe. |
|
Gorchymyn Cadw Coed Dros Dro - GCC628 - 24 Heol y Chwarel, Treboeth, Abertawe. PDF 77 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth i gadarnhau
fel gorchymyn llawn, orchymyn dros dro GCC 628 wrth dir ger 24 Heol y Chwarel,
Treboeth. Amlinellwyd y
sylwadau a dderbyniwyd ynghylch y cynnig a manylwyd arnynt yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD cadarnhau Gorchymyn Cadw Coed 628: Tir
ger 24 Heol y Chwarel, Treboeth. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) PENDERFYNWYD 1) CYMERADWYO'R
ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod: (Eitem 1) Cais
Cynllunio 2017/1067/FUL – 13A Stryd Balaclave, St Thomas, Abertawe #(Eitem 2) Cais
Cynllunio 2016/0354/FUL – Sunnybank, Reynoldston, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. #(Eitem 3) Cais
Cynllunio 2017/0425/FUL – The Pines, Oxwich, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. (Eitem 4) Cais
Cynllunio 2017/1434/S73 – Pentref Ymddeol Campion Gardens, Comin Clun, Mayals,
Abertawe (Eitem 5) Cais
Cynllunio 2017/1434/S73 – Birch Court, 44 Heol Sway, Treforys, Abertawe |
|
2013/0617 - Tir i'r de o Heol Glebe, Casllwchwr, Abertawe. PDF 70 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd Tîm adroddiad ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a oedd yn
amlinellu penderfyniad blaenorol y pwyllgor ynghylch cymeradwyo datblygiad
preswyl yn y lleoliad uchod, yn amodol ar gytundeb Adran 106, y cynhwyswyd ei
fanylion yn yr adroddiad. Atodwyd copïau o
adroddiad gwreiddiol y pwyllgor cynllunio er gwybodaeth. Mae Adran 1.7 yr adroddiad (tudalen 59) yn cyfeirio
at adroddiad y Pwyllgor Cynllunio a Thaflen Camau Gweithredu 4 Ebrill 2017 yn
cael eu hatodi fel Atodiad B. Fodd bynnag, drwy gamgymeriad nid oedd y
dogfennau hyn wedi cael eu hatodi fel atodiad i adroddiad yr eitem. Cafodd
copïau o'r dogfennau hyn eu dosbarthu i aelodau'r Pwyllgor Cynllunio cyn
dechrau'r cyfarfod. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Dylai llinell olaf Adran 3.1 yr adroddiad (tudalen
60) gael ei diwygio fel a ganlyn: “Ac yn unol â’r amodau a bennwyd yn Atodiad A, ac
eithrio Amod 3 y dylid ei ddiwygio er mwyn cyfeirio at y cynllun safle
diwygiedig a gyflwynwyd fel rhan o’r cais hwn (Rhif 1107-TP01 Diw. B – Cynllun
Presennol y Safle, a dderbyniwyd ar 21 Gorffennaf 2017).” Derbyniwyd hefyd lythyr hwyr breswylydd sy'n byw ar
Heol Glebe yn gwrthwynebu i'r cais am y rhesymau a grynhoir isod: Ni all Heol Glebe ymdopi â’r traffig ychwanegol a gynhyrchir gan y
datblygiad arfaethedig. Mae cyfleusterau parcio eisoes yn annigonol i
breswylwyr Heol Glebe ac mae'r ffordd eisoes yn beryglus. Bydd y traffig
ychwanegol a gynhyrchir gan y cynnig yn gwneud yr ardal o amgylch mynedfa'r
safle yn beryglus i breswylwyr lleol. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchodd y Cynghorydd R V Smith (Aelod Lleol) y pwyllgor gan siarad i
gefnogi'r cais yn amodol ar beidio â diwygio amodau cytundeb Adran 106 o'r
rheiny a gynhwyswyd yn y gymeradwyaeth wreiddiol. PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R cais yn amodol ar gytundeb Adran 106 i ddarparu: ·
15% o dai fforddiadwy ar y safle; sy'n cynnwys cymysgedd 50/50
o eiddo 2 a 3 ystafell wely wedi'u darparu ar 42% o Arweiniad i Gostau
Derbyniol, o ddaliadaethau wedi'u rhentu'n gymdeithasol sy'n cydymffurfio â
Gofynion Ansawdd Datblygu. Dylai dyluniad a manyleb y tai fforddiadwy fod o
safon sy'n gyfartal â'r rhai a ddefnyddir yn yr Unedau Marchnad Agored; ·
Cyfraniad addysg o £100,000; ·
Cyfraniad priffyrdd o £92,100; ·
Cynlluniau rheoli ar gyfer cynnal a chadw a rheoli'r
pyllau gwanhau a chynnal a chadw a rheoli mannau agored cyhoeddus a'r ardaloedd
chwarae, a mynediad cyhoeddus iddynt; ·
Caiff ffïoedd monitro eu talu'n unol â gofynion CCA
mabwysiedig y cyngor yn dwyn y teitl "Rhwymedigaethau Cynllunio"
(2010). |