Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd P M
Black – Eitem 6 yr Agenda (Ceisiadau Cynllunio 2017/1164/FUL a 2017/1248/LBC) –
Personol – Mae fy ngwraig yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe. Y Cynghorydd T M
White – Eitem 6 yr Agenda (Cais Cynllunio 2017/0787/S73 – Personol – Rwyf wedi
ymdrin â materion etholaeth eraill i breswylwyr sy'n byw yn y datblygiad. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo bod cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2017 yn gofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Sandie Richards, Prif Gyfreithiwr, ar ran Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
Democrataidd a Dealltwriaeth Busnes. Amlinellwyd
manylion cefndirol a hanes blaenorol y cais yn ogystal â'r dystiolaeth a
gyflwynwyd, y profion cyfreithiol statudol i'w defnyddio, materion iawndal, a'r
casgliadau anffurfiol yn yr adroddiad. Bu'n rhaid ymgynghori unwaith eto ar y
mater oherwydd cwestiynau ynghylch a ddefnyddiwyd y cynlluniau cywir yn dilyn y
penderfyniad gwreiddiol yn 2016. Mae'r holl ymgyngoreion
bellach wedi derbyn y fersiwn gywir. PENDERFYNWYD 1.
Tynnu'r
Gorchymyn Dargyfeirio Llwybr Cyhoeddus a wnaethpwyd ar 26 Gorffennaf 2016 yn
ôl; 2.
Gwneud
Gorchymyn Dargyfeirio Llwybr Cyhoeddus newydd ar yr un amodau â'r gorchymyn
blaenorol; ac 3.
Os
ceir unrhyw wrthwynebiadau i orchymyn o'r fath a wneir ac ni all y cyngor ei
gadarnhau, gyfeirio'r gorchymyn i'r Arolygiaeth Gynllunio am benderfyniad. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) PENDERFYNWYD 1) CYMERADWYO'R
ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod: #(Eitem 1)
Cais Cynllunio 2016/3704/FUL – 17-18 Ffordd y Brenin, Abertawe Anerchwyd y
Pwyllgor gan Mr T Rocke (asiant). Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. CYMERADWYWYD y cais yn amodol ar yr ymgeisydd yn
ymrwymo i Gytundeb Adran 106 i ddarparu ar gyfer cymal Rheoli Parcio Ceir a
chyfraniad ariannol o £97,415 i gyllido gwaith isadeiledd priffyrdd, ac yn
ddibynnol ar amodau sy'n cyd-fynd â'r argymhelliad. #(Eitem 3) Cais
cynllunio 2017/0962/FUL - 38 Rhodfa Mirador, Uplands, Abertawe Anerchwyd y
Pwyllgor gan Mr Ripley (gwrthwynebydd). Anerchwyd y
Pwyllgor gan y Cynghorwyr P N May ac I E Mann (aelodau'r Pwyllgor), a oedd yn
siarad yn erbyn y cais. Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Derbyniwyd 2 adroddiad ychwanegol ers llunio'r adroddiad. Ymysg y pryderon
a godwyd, honnwyd nad oedd yr ymgeisydd yn berchen ar y lle to cymunedol. Trosglwyddwyd yr
wybodaeth ynghylch perchnogaeth tir i asiant yr ymgeisydd a ymatebodd gan
gadarnhau bod y lle to a'r fflat ar y llawr cyntaf dan yr un berchnogaeth
unigol. #(Eitem 4)
Cais Cynllunio 2017/1164/FUL - Y Techniwm Digidol a
Thŷ Fulton, Ffordd Fynediad Fewnol Parc Singleton, Sgeti, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Adolygu Amod 4 ynghylch amserlen cyflwyno cynllun tirlunio fel a ganlyn: Ni fydd unrhyw
waith uwchstrwythurol yn cychwyn nes y bydd cynllun
tirlunio manwl yn cael ei gyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol a'i gymeradwyo
ganddo yn ysgrifenedig, a dylai'r cynllun hwn gynnwys rhywogaethau, bylchau ac
uchder yr holl blanhigion ar ôl cael eu plannu a manylion y pridd. Dylai'r
cynllun hefyd gynnwys manylion yr holl goed (gan gynnwys lledaeniad a rhywogaeth)
a'r holl wrychoedd sydd ar y tir ar hyn o bryd, gan nodi'r rhai i'w cadw ac
amlinellu mesurau ar gyfer eu gwarchod drwy gydol y broses ddatblygu. Caiff yr
holl blannu, hadu neu dywarchu a nodir yn y cynllun tirlunio a gymeradwyir ei
wneud yn ystod y tymhorau plannu a hadu cyntaf yn dilyn defnydd cyntaf o'r
adeilad(au) neu gwblhad y datblygiad, p'un bynnag
fydd gyntaf; a chaiff planhigion o faint a rhywogaeth debyg eu plannu yn ystod
y tymor plannu nesaf lle bydd unrhyw goed neu blanhigion yn marw, yn cael eu
symud neu'n cael eu difrodi'n ddifrifol neu'n afiach o fewn 5 mlynedd o
gwblhau'r datblygiad. (Eitem 5)
Cais Cynllunio 2017/1248/LBC - Tŷ Fulton,
Prifysgol Cymru Abertawe, Ffordd Fynediad Fewnol Parc Singleton,
Sgeti, Abertawe Cymeradwyo'r cais yn amodol ar unrhyw gyfarwyddyd gan
CADW. 2) GWRTHOD y
cais cynllunio isod am y rhesymau a amlinellir isod: #(Eitem 2)
Cais Cynllunio 2017/0787/S73 - (Hen Safle Unit Superheaters
Engineering Heol New Cut) Tirlunio Gerllaw 14, 16, 18, 20, 22 (Lleiniau 46-50)
Stryd Pottery, Abertawe Anerchwyd y
Pwyllgor gan Mr S Granger (gwrthwynebydd). Anerchwyd y
Pwyllgor gan y Cynghorwyr B Hopkins a T M White (aelodau lleol), a oedd yn
siarad o blaid cais preswylwyr i'r datblygwr lynu wrth y cynllun gwreiddiol. Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Rhesymau dros
wrthod y cais Oherwydd diffyg
cynlluniau plannu, nid yw'r cynllun tirlunio diwygiedig yn bodloni'r un safonau
amwynder gweledol fel a amlinellwyd yn y rhan o'r safle datblygu sy'n weddill
ac, o ganlyniad, nid yw'n darparu gwaith tirlunio addas ac o safon a fyddai'n
parchu cymeriad y strydlun a meddalu'r ffurf ddatblygedig, yn groes i ofynion
polisïau EV1, EV2 ac EV4 Cynllun Datblygu Unedol Dinas a Sir Abertawe (a
fabwysiadwyd yn 2008). |
|
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Arweinydd Tîm adroddiad ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a oedd yn
amlinellu penderfyniad blaenorol y pwyllgor ynghylch cymeradwyo datblygiad o
106 o anheddau preswyl yn y lleoliad uchod, yn amodol ar gytundeb Adran 106 i
ddarparu 30% o dai fforddiadwy, y cynhwyswyd ei fanylion yn yr adroddiad. Atodwyd copïau o
adroddiad gwreiddiol y pwyllgor cynllunio er gwybodaeth. Adroddodd ymhellach
am yr hysbysiad gan gynghorwyr yr ymgeisydd yn amlinellu eu hanawsterau wrth
ddiwallu'r tai fforddiadwy o ran agwedd tai cytundeb A106. Roeddent wedi dweud na fyddai'r cynllun yn
ariannol ddichonadwy, ac ni fyddai'n mynd yn ei flaen oni bai y gellid cytuno
ar gyfraniad tai fforddiadwy llai. Roedd swyddogion
wedi adolygu'r dystiolaeth a gyflwynwyd ac, yn dilyn trafodaethau â'r ymgeisydd
a'r Adran Tai, cynigiwyd darpariaeth ddiwygiedig o 15% o dai fforddiadwy. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn amodol ar yr amodau
fel y'u cymeradwywyd ym Mhwyllgor Rheoli Datblygu Ardal 2 ar 25 Mehefin 2013 ac
yn amodol ar yr ymgeisydd yn ymrwymo i rwymedigaeth gynllunio A106 mewn
perthynas â: 1) Darparu 15% o
dai fforddiadwy ag Arweiniad i Gostau Derbyniol o 42% i'w "gwasgaru"
ar draws y safle a fydd yn cynnwys amrywiaeth o fathau o dai, gan gynnwys tai
i'w rhentu'n gymdeithasol, tai â rhent canolradd, tai i'w gwerthu, megis
perchentyaeth cost isel (i'w benderfynu/drafod) ac ni chaiff y rhain eu
defnyddio at unrhyw ddiben arall heblaw at ddibenion tai fforddiadwy, yn unol â
chynllun cyflwyno fesul cam i'w gytuno gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol. 2) Cyn i'r safle ddechrau cael ei ddefnyddio at y
diben arfaethedig, darparu gwelliannau diogelwch ffyrdd ar Heol Abertawe, sef cyfrannu
£10,000 tuag at arwyddion a marciau ffordd newydd. Os na chwblheir rhwymedigaeth gynllunio Adran 106 o fewn 3 mis o'r
penderfyniad crybwylledig, yna rhoddir pwerau wedi'u
dirprwyo i Bennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio i arfer disgresiwn er mwyn
gwrthod y cais ar sail methiant i gydymffurfio â pholisïau HC17 a HC3 Cynllun
Datblygu Unedol Dinas a Sir Abertawe (Tachwedd 2008). |
|
Penderfyniadau Apeliadau'r Pwyllgor Cynllunio. PDF 95 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad "er gwybodaeth" gan yr arweinydd tîm ar ran Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a oedd yn amlinellu canlyniadau tri phenderfyniad
apêl i'r Arolygiaeth Gynllunio yn erbyn penderfyniadau gan y Pwyllgor
Cynllunio. Amlinellwyd
crynodeb o gefndir y tri phenderfyniad yn yr adroddiad ynghyd â'u goblygiadau
ar gyfer penderfyniadau'r pwyllgor yn y dyfodol a dyfarniadau o gostau posib. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |
|
Cofnodion: Gofynnwyd i'r
Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitemau busnes
a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad ar y sail eu bod yn debygol o ddatgelu
gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd 12A Deddf Llywodraeth
Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i
Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn
yr adroddiad. Ystyriodd y Cabinet
Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod
ar gyfer yr eitemau busnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y
nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol.
(SESIWN GAEËDIG) |
|
Adroddiad Awdurdodi Camau Gorfodi. Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio a oedd yn amlinellu ac
yn crynhoi hanes cefndirol meddiannaeth anawdurdodedig annedd ym Mhennard. Amlinellwyd amod
i'r cais cynllunio gwreiddiol a roddwyd ym 1968 a oedd yn cyfyngu ar ddefnydd
yr annedd i bobl a gyflogwyd/gyflogwyd yn flaenorol ym maes amaethyddiaeth, a
dywedodd fod y preswylwyr presennol wedi methu bodoli'r meini prawf gofynnol. Anerchwyd y
Pwyllgor gan Mrs W (y preswylydd) ynghylch y mater, gan amlinellu amgylchiadau
personol ei hachos. Anerchwyd y Pwyllgor hefyd gan y Cynghorydd L James (aelod
lleol), a oedd yn siarad o blaid Mrs W. PENDERFYNWYD awdurdodi cyflwyno Rhybudd Gorfodi sy'n
mynnu diwedd ar feddiannaeth anghyfreithlon eiddo o fewn cyfnod cydymffurfio o
24 mis, gan ddechrau ar y dyddiad y mae'r Rhybudd Gorfodi yn dod i rym. Y
Rhybudd Gorfodi i ddod i rym fis ar ôl ei gyflwyno (oni bai yr apelir yn erbyn
y Rhybudd Gorfodi cyn iddo ddod i rym). |