Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddianau
canlynol: Y Cynghorydd T M
White – Eitem 5 Agenda – Canllawiau Cynllunio Atodol (HMO) – Personol – Mae gen
i berthynas sy'n byw yn ardal y CAA |
|
Cymeradwyo a
llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y pwyllgorau
cynllunio a gynhaliwyd ar 25 Mai a 6 Mehefin 2017 fel cofnodion cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Canllaw Cynllunio Atodol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth a Llety Pwrpasol i Fyfyrwyr. PDF 924 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm a'r Ymgynghorydd Cynllunio o Lichfields
adroddiad manwl ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a oedd yn
amlinellu'r sylwadau a dderbyniwyd yn
ystod yr ymgynghorydd cyhoeddus diweddar i aelodau, a cheisiwyd cytuno ar yr
ymatebion i'r rhain a’r diwygiadau arfaethedig i'r Canllawiau, ac i
fabwysiadu’r fersiwn derfynol fel y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA). Amlinellwyd a chynhwyswyd manylion cefndir y gwaith o baratoi'r cynigion a
luniwyd mewn partneriaeth â'r ymgynghorwyr cynllunio, Lichfields, yn yr
adroddiad. Rhoddwyd manylion y cyd-destun cynllunio, pwrpas y CCA, yr ymgynghoriad
cyhoeddus a'r ymarfer ymgysylltu a gynhaliwyd, yr ymatebion a dderbyniwyd a'r
materion allweddol a oedd yn codi o'r ymgynghoriad yn yr adroddiad yn ogystal
â'r goblygiadau ariannol a chyfreithiol. Darparwyd cyflwyniad gweledol ac adroddwyd am fwy o lythyrau gwrthwynebiad
hwyr. Siaradodd Mr Roach a Mr Rowe yn erbyn y cynigion. Siaradodd y Cynghorwyr C E Lloyd a N J Davies (aelodau lleol) mewn
perthynas â'r cynigion, gan godi pryderon gan breswylwyr lleol gan geisio
eglurder ynghylch agweddau penodol ar y canllawiau arfaethedig. Siaradodd y
Cynghorydd P N May (aelod lleol) yn erbyn y cynigion ac awgrymodd ddiwygiadau
arfaethedig i'r cynllun. Yna trafodwyd y cynigion Aelodau'r Pwyllgor. Dywedodd y Swyddog Cynllunio
wrth y Pwyllgor y byddai’r newidiadau i'r CCA a fyddai'n gosod cyfyngiadau
ychwanegol ar HMOs yn arwain at yr angen am fwy o
waith i ystyried effeithiau ôl-ddilynol newidiadau o'r fath a'r angen am
ddiwygiadau angenrheidiol eraill i'r CCA. Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol wrth y
Pwyllgor hefyd na ellid gwneud diwygiadau i'r argymhelliad yn yr adroddiad sy'n
ymwneud â newidiadau i'r CCA, megis diwygiadau arfaethedig i'r cyfyngiadau
trothwy, heb wneud ymarfer ymgynghori arall. PENDERFYNWYD peidio â chymeradwyo’r argymhellion fel y’u hamlinellir
yn yr adroddiad a phenderfynwyd gwneud mwy o waith i adolygu'r CCA a chynnal
ymgynghoriad cyhoeddus ychwanegol. Penderfynwyd y dylai gwaith pellach
ail-archwilio’r cyfyngiadau trothwy ar gyfer HMOs yn
y sir, gan gynnwys effaith cyflwyno trothwy o 15% yn ne ward Uplands a chyflwyno polisi i atal 'rhyngosod' eiddo nad
ydynt yn HMO rhwng eiddo HMOs. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad a ddarparodd drosolwg o'r ddogfen
Canllawiau Cynllunio Atodol drafft wedi’i diweddaru, "Canllaw Dylunio ar
gyfer Datblygiadau Perchnogion Tai" i'r Pwyllgor a cheisiodd awdurdod i
gynnal ymgynghoriad cyhoeddus a chyda rhanddeiliad. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r CCA drafft fel yr atodwyd yn
Atodiad A i'r adroddiad fel sail ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus. |
|
Gorchymyn Cadw Coed 611 - Tir yn 344, Heol Abertawe, Waunarlwydd, Abertawe. PDF 1 MB Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio adroddiad er mwyn ystyried cadarnhau,
fel gorchymyn llawn, y Gorchymyn Cadw Coed 611 dros dro ar dir yn 344, Heol
Abertawe, Waunarlwydd, Abertawe. Amlinellwyd a rhoddwyd
manylion y gwrthwynebiad a’r sylwadau a dderbyniwyd o ran y cynnig yn yr
adroddiad. PENDERFYNWYD cadarnhau'r Gorchymyn Cadw Coed 611: Tir
yn 334, Heol Abertawe, Waunarlwydd, Abertawe |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) PENDERFYNWYD
CYMERADWYO'R ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu
a nodir isod: #(Eitem 1)
Cais Cynllunio 2017/1049FUL - 123 Rhodfa San Helen, Brynmill, Abertawe Gan na fabwysiadwyd y CCA ar HMOs gan y Pwyllgor, tynnwyd Argymhelliad B
(gwrthwynebiad) yn ôl. #(Eitem 2)
Cais Cynllunio 2017/0993/FUL – 90 Rhodfa Hawthorn, Uplands, Abertawe Anerchwyd y
pwyllgor gan Mr M Blagrove (gwrthwynebydd) a Mr D Micklewright. Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. #(Eitem 3)
Cais Cynllunio 2017/0775/FUL – Tir yn Heol Pentre Bach, Gorseinon, Abertawe SA4
4ZA. Anerchwyd y
pwyllgor gan Mr A Rees (asiant). Anerchodd J P
Curtice (aelod lleol) y Pwyllgor a gofynnodd i'r cynigion arafu traffig
arfaethedig gael eu diwygio fel eu bod yn cynnwys llwyfannau arafu ac nid
twmpathau cyflymder. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Tudalen 242 - Gwall
teipio yn hanes y safle. Cymeradwywyd cais 2015/2506 ar 30 Medi 2016, nid 30
Medi 2011. Ers i'r adroddiad
gael ei ysgrifennu, mae gwaith wedi dechrau ar y safle i roi'r caniatâd
cynllunio 2015/2506 ar waith. Mae'r caniatâd cynllunio felly mewn bodolaeth a bydd
mewn bodolaeth am byth. O ganlyniad i hyn, a fel yr amlinellwyd ar dudalen 264
yr adroddiad, nid oes angen ystyried egwyddor y datblygiad ymhellach. Cymeradwywyd yn
amodol ar gytundeb S106. #(Eitem 4)
Cais Cynllunio 2017/0482/S73 – Tir yn Nhŷ Drummau, Heol Gellifedw,
Gellifedw, Abertawe Anerchwyd y
pwyllgor gan Mr N Green (asiant). Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Yn y paragraff olaf
ond un ar dudalen 290 yr adroddiad, dylai llinell 4 ddarllen, "heblaw am
roi 'Louise Thomas' ac 'Emma Jones' yn lle 'Lucy Thomas' a 'Lisa Thomas'. Cymeradwywyd yn
amodol ar roi caniatâd cynllunio dros dro am 4 blynedd ac i'r unigolion a enwyd
fel yr amlinellir. #(Eitem 5)
Cais Cynllunio 2017/0768/S73 – Tir i'r gorllewin o Barc y Bont, ger Trinity
Place, Pontarddulais, Abertawe |