Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorwyr P B
Black, M H Jones, E J King, M B Lewis, R D Lewis, P Lloyd, A H Stevens, D W W Thomas,
L J Tyler-Lloyd a T M White – Cais Cynllunio Rhif 2017/0262/FUL(Eitem 5) –
Personol oherwydd bod yr ymgeisydd yn gyd-gynghorydd. Y Cynghorydd A H
Stevens – Eitem 5 yr Agenda - Cais Parc Y Werin, Gorseinon – Personol a
Rhagfarnol – yn rhan o drafodaethau cynt am y mater fel Cynghorydd Tref a
gadawodd cyn y drafodaeth a Chais Cynllunio Rhif 2017/0795(Eitem 3) - rhan o
drafodaethau cynt am y mater fel Cynghorydd Tref a gadawodd cyn y drafodaeth. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol fel cofnod Cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 4 Ebrill 2017 yn gofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad
gan Sandie Richards, Prif Gyfreithiwr, ar ran Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol, Democrataidd a Dealltwriaeth Busnes. Amlinellwyd mewn
manylder fanylion a hanes cefndirol perthnasol i'r cais am statws maes
tref/pentref yn ogystal â'r dystiolaeth a gyflwynwyd, y profion cyfreithiol
perthnasol, baich y prawf gofynnol, cylch gwaith a rôl yr Arolygydd, yr
ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd a chanfyddiadau'r Arolygydd, y casgliad a'r
argymhellion. Ar ran yr
ymgeiswyr, anerchodd Mr C Huggill y Pwyllgor, gan siarad o blaid y cais.
Cyfeiriodd hefyd at y llythyr hwyr a gyflwynwyd ynglŷn â'r mater. Atebodd Sandie
Richards, gan ddatgan bod yr adran gyfreithiol wedi gweld ac ystyried y llythyr
ac nid oedd yn newid canfyddiadau adroddiad yr Arolygydd. PENDERFYNWYD 1. GWRTHOD cais y
cofrestriad uchod. 2. Ni ddylai UNRHYW
RAN o dir y safle cais gael ei ychwanegu i'r Rhestr o Feysydd Tref neu Bentref
o dan adran 15 Deddf Tiroedd Comin 2006. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Sandie Richards, Prif Gyfreithiwr, ar ran Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol, Democrataidd a Dealltwriaeth Busnes. Amlinellwyd
manylion a hanes cefndirol perthnasol i'r cais yn ogystal â'r dystiolaeth a
gyflwynwyd, y profion cyfreithiol statudol i'w defnyddio, materion iawndal, a'r
casgliadau anffurfiol yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD 1. cymeradwyo'r
cais a chreu gorchymyn dargyfeirio llwybr cyhoeddus, ac 2. os derbynnir
gwrthwynebiadau i'r gorchymyn, gyfeirio'r gorchymyn i'r Arolygiaeth Gynllunio
er mwyn iddi benderfynu arno. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad
gan Sandie Richards, Prif Gyfreithiwr, ar ran Pennaeth Gwasanaethau
Cyfreithiol, Democrataidd a Dealltwriaeth Busnes. Amlinellwyd
manylion a hanes cefndirol perthnasol i'r cais yn ogystal â'r dystiolaeth a
gyflwynwyd, yr ystyriaeth a'r ymgynghoriadau yr ymgymerwyd â hwy, a'r
casgliadau y daethpwyd iddynt yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD 1.
cymeradwyo'r cais a chreu gorchymyn dargyfeirio llwybr cyhoeddus, ac 2. os
derbynnir gwrthwynebiadau i'r gorchymyn, gyfeirio'r gorchymyn i'r Arolygiaeth
Gynllunio er mwyn iddi benderfynu arno. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) PENDERFYNWYD
CYMERADWYO'R ceisiadau
cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod: #(Eitem 1)
Cais Cynllunio 2017/0648 - Hen Ganolfan Dewi Sant a thir cyfagos i'r gogledd ac
i'r de o Heol Ystumllwynarth, canol y ddinas, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl. Anerchwyd y pwyllgor gan Mr G Edwards (gwrthwynebwr) a Mr D Lewis
(ymgeisydd) Siaradodd y Cynghorydd R C Stewart (Arweinydd), a'r Cynghorydd R
Francis-Davies, (Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau
Mawr) o blaid y cais. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd ar ohebiaeth hwyr gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg
Gwent a oedd yn argymell amod ychwanegol. Adroddwyd ar ohebiaeth hwyr gan Ganolfan Ddinesig Abertawe a oedd yn amlinellu
sawl gwrthwynebiad ac a oedd yn argymell sawl amod ychwanegol. Newidiadau i'r Amodau fel a ganlyn: Amod 10 Dileu: "Bydd y Côd yn
berthnasol i'r ardal blaenau siop a fydd yn estyn 3m i gefn pob blaen
siop". Amod 20 Newid y geiriad
fel a ganlyn: "Cyn dechrau ar bob cam o'r datblygiad, dylid llunio
strategaeth draenio dŵr wyneb strategol ar gyfer y cam hwnnw..." Amod 21 Newid y
geiriad fel a ganlyn: "Bydd unrhyw gais materion neilltuedig yn cynnwys
strategaeth draenio dŵr fanwl yn unol â materion a neilltuwyd ar bob cam y
mae'n rhaid ceisio cymeradwyaeth ar ei chyfer. Bydd y strategaeth hon yn
dangos sut y bydd rheoli dŵr yn y safle materion neilltuedig y ceisir
cymeradwyaeth ar ei gyfer yn cyd-fynd â'r manylion a gymeradwywyd ar gyfer y
strategaeth dŵr wyneb strategol..." Amod 30 Newid: “vii) Arwyddion
negeseuon amrywiol cysylltiedig" Amod 33 Newid
geiriau: ‘hour of operation’ i ‘hours of operation’. Ychwanegu at
ddiwedd amod: "Wedi hynny, bydd yr arena yn gweithredu yn ôl y cynllun
a gymeradwywyd" Amod 36 Newid:
‘measurers’ i ‘measures’ Amod 37 Ychwanegu "oni
bai y gellid dangos bod lefel o sŵn amgen yn dderbyniol, wrth ystyried y
datblygiad a'r dystiolaeth a gyflwynwyd fel rhan o'r cynllun" Amod 39 Newid: “it
shall have a” Amod 42 Ychwanegu at ddiwedd amod: "a gedwir ar ôl hynny
at ddibenion" (Eitem 2)
Cais cynllunio 2016/3619/FUL - 12-24 Ffordd Belle Vue, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. CYMERADWYWYD y cais yn amodol ar yr ymgeisydd yn ymrwymo i GYTUNDEB
ADRAN 106 i ddarparu ar gyfer 30% o dai fforddiadwy a chyfraniad ariannol o
£23,000 i gyllido gwaith isadeiledd priffyrdd, ac yn ddibynnol ar amodau sy'n
cyd-fynd â'r argymhelliad. (Eitem 3)
Cais cynllunio 2017/0795/FUL - Tir cyfagos â Heol Eifion, Gorseinon, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchodd Mrs P Morgan (gwrthwynebwr) y pwyllgor. (Eitem 4)
Cais cynllunio 2016/1510 - Yr Hen Glwb Cymdeithasol Four Seasons, Heol y
Trallwn, Llansamlet, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. (Eitem 5)
Cais cynllunio 2017/0262/FUL - 23 Teras Portia, Mount Pleasant, Abertawe #(Eitem 6)
Cais cynllunio 2017/0196/FUL - 3 Bay View, St Thomas, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Adroddwyd am lythyr o wrthwynebiad a dderbyniwyd yn hwyr. Anerchodd Mr Shannon (gwrthwynebwr) a'r Cynghorydd Joe Hale (aelod lleol) y
pwyllgor, gan siarad yn erbyn y cais. (Eitem 7)
Cais Cynllunio 2017/0196/FUL – 3 Heol Beechwood, Uplands, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd Nick Davies (aelod lleol) a siaradodd
yn erbyn y cais. (Eitem 8)
Cais cynllunio 2017/0391/FUL - 25 Cilgant Mirador, Uplands, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorwyr Nick Davies a Peter May (aelodau
lleol) a siaradodd yn erbyn y cais. DS: Torrodd y pwyllgor am saib o bum munud yn
dilyn eitem 8 am 4.45pm (Eitem 9)
Cais cynllunio 2017/0840/FUL - 107 Heol Wern Fawr, Port Tennant, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchodd y Cynghorydd Joe Hale (aelod lleol) y pwyllgor gan siarad yn
erbyn y cais. (Eitem 10)
Cais Cynllunio 2017/0843 - 39 Stryd FUL - 39 Sebastopol, St Thomas, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchodd y Cynghorydd Joe Hale (aelod lleol) y pwyllgor gan siarad yn
erbyn y cais. (Eitem 11)
Cais cynllunio 201/0844/FUL - 3 Benthall Place, St Thomas, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Mr K Thomas a Mr M Davies (gwrthwynebwyr) a'r
Cynghorydd Joe Hale (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais. #(Eitem 12)
Cais cynllunio 2017/0845/FUL - 40 Heol Danygraig, Port Tennant, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchodd y Cynghorydd Joe Hale (aelod lleol) y pwyllgor gan siarad yn
erbyn y cais. Adroddwyd am lythyr o wrthwynebiad a dderbyniwyd yn hwyr. |
|
Penderfyniadau Apeliadau'r Pwyllgor Cynllunio. PDF 85 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad "er gwybodaeth" gan yr arweinydd tîm ar ran Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a oedd yn amlinellu canlyniadau pedwar
penderfyniad apêl i'r Arolygiaeth Gynllunio yn erbyn penderfyniadau gan y
Pwyllgor Cynllunio. Amlinellwyd crynodeb
o gefndir y pedwar penderfyniad yn yr adroddiad ynghyd â'u goblygiadau ar
benderfyniadau'r pwyllgor yn y dyfodol a dyfarniadau o gostau posib. PENDERFYNWYD y byddai'r adroddiad yn cael ei nodi. |