Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2016 fel cofnod cywir |
|
Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Arweiniad i awdurdodau lleol ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus. PDF 62 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad 'er gwybodaeth' a amlinellodd
ganllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Sandie
Richards, Prif Gyfreithiwr, adroddiad ar ran Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i
ystyried a ddylid derbyn neu wrthod y cais i wneud Gorchymyn Addasu i gofnodi
llwybr cyhoeddus ar hyd Heol Rhyd, Craig-cefn-parc ar Fap a Datganiad Diffiniol
Hawliau Tramwy Cyhoeddus y cyngor. Cafodd yr hanes
cefndir, arfarniad o'r dystiolaeth a gyflwynywyd, y gwrthwynebiadau a'r
sylwadau o blaid eu hamlinellu yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid derbyn y cais a gwneud gorchymyn
addasu. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod gyda (#) PENDERFYNWYD: (1)
CYMERADWYO'R ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r
amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod: (Eitem 1)
Cais Cynllunio 2016/1860 - 115 Teras Rhydings, Brynmill, Abertawe Anerchodd y Cynghorydd Nick Davies (Cynghorydd Ward
Lleol) y Pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais. Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. #(Eitem 3)
Cais Cynllunio 2016/1553 - 101 a 101A, Heol Port Tennant, Abertawe Anerchodd C E Lloyd
a J A Hale (Aelodau Lleol) y Pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais. Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. (Eitem 5)
Cais Cynllunio 2016/1523 – Tŷ Sun Alliance, Heol San Helen, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Cymeradwywyd y cais
yn unol â'r argymhelliad yn amodol ar gwblhau cytundeb Adran 106 a'r amodau a
amlinellwyd yn yr adroddiad. 2) GWRTHOD y ceisiadau cynllunio
isod am y rhesymau a nodir isod: (Eitem 2)
Cais Cynllunio 2016/3076 - 124 Rhodfa San Helen, Brynmill, Abertawe Anerchodd y Cynghorydd Nick Davies (Cynghorydd Ward
Lleol) y Pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais. Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. GWRTHODWYD y cais yn groes i argymhellion y swyddog
am y rhesymau canlynol: Byddai'r cynnig, ar
y cyd â Thai Amlfeddiannaeth (HMOs) yn Rhodfa San Helen yn arwain at grynhoad
niweidiol o HMO yn y stryd a'r ardal ehangach.
Byddai'r effaith gronnus hon yn arwain at niweidio cymeriad yr ardal a
chydlynad cymdeithasol gyda lefelau uwch o breswylwyr dros dro a llai o
aelwydydd tymor hir a theuluoedd sefydledig. Byddai'r fath effaith, yn y tymor
hir, yn arwain at gymunedau na fyddent yn gytbwys nac yn hunangynhaliol. O
ganlyniad, mae'r cynnig yn groes i faen prawf (ii) Polisi HC5 Cynllun Datblygu
Unedol Abertawe (2008) a nodau'r polisi cenedlaethol a bennwyd ym Mholisi
Cynllunio Cymru (Rhifyn 9 Tachwedd 2016), sef creu cymunedau cymysg cynaliadwy
a chynhwysol. (3) Caiff y cais cynllunio isod ei GYMERADWYO a'i GYFEIRIO at
CADW ac yn destun yr amodau diwygiedig nodir isod: #(Eitem 4) Cais Cynllunio 2016/3287/LBC - Pont Rufeinig,
Mill Lane, Maylas, Abertawe Anerchodd Gordon Gibson a Tim McCarthy
(gwrthwynebwyr) y Pwyllgor gan siarad yn erbyn y cynllun. Anerchodd Chris Grigson (ymgeisydd) y Pwyllgor gan
siarad o blaid y cais. Anerchodd y
Cynghorwyr Linda Tyler-Lloyd a Cheryl Philpott (Cynghorwyr Ward Lleol) y
Pwyllgor gan siarad o blaid y cynllun. Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am 1
llythyr arsylwi hwyr. Adroddwyd am 1 llythyr gwrthwynebu hwyr . Adroddwyd am 8
llythyr cefnogi hwyr. Diwygiwyd amodau 1
a 2 i ddarllen fel y ganlyn: 1. O fewn 3 mis i
ddyddiad y penderfyniad hwn caiff strategaeth ysgrifenedig ei chyflwyno i'r
Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer cywiro'r llethrau ochr planedig a fydd hefyd
yn cynnwys cynllun ar gyfer rheoli'r llystyfiant. Caiff y cynllun
cymeradwy ei roi ar waith ar y safle o fewn 3 mis i ddyddiad cymeradwyo’r manylion ac ar ôl hynny
cychwynnir plannu yn unol â'r strategaeth gymeradwy. 2. O fewn 3 mis i
ddyddiad y penderfyniad hwn caiff cynllun ysgrifenedig ei gyflwyno i'r Awdurdod
Cynllunio Lleol yn dangos adleoliad y gatiau a'r ffens i leoliad y tu allan i'r
ardal restredig. Caiff y cynllun cymeradwy ei roi ar waith ar y safle o fewn 3
mis i'r dyddiad y cymeradwyir manylion. |
|
Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad wedi'i ddiweddaru ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.
Cafodd y cais ei ohirio dan y broses bleidleisio dau gam yn y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr er mwyn darparu rhagor o gyngor o ran y
rhesymau posib dros wrthod a godwyd gan Aelodau. Manylwyd ar y prif
faterion mewn perthynas â'r rhesymau posib dros wrthod yn yr adroddiad, yn
ogystal â'r cyngor o ran cyfreithlonedd, neu fel arall, y rhesymau a'r cyngor o
ran costau gan y Swyddfa Gymreig. Nodwyd nad oedd
argymhelliad y swyddog i gymeradwyo'r cais wedi newid. Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Anerchodd y Cynghorwyr Clive Lloyd a Joe Hale
(Cynghorwyr Ward Lleol) y Pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais. PENDERFYNWYD GOHIRIO'R cais cynllunio dan
y broses bleidleisio dau gam er mwyn cynnal arolwg parcio o'r stryd ac
ystyried effaith y datblygiad ar amwynder drwy rinwedd 'aflonyddiad arall' dan
feini prawf (i) Polisi HC5. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad a oedd yn darpau trosolwg o'r Canllawiau
Cynllunio Atodol (CCA) drafft ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth a Llety Pwrpasol i
Fyfyrwyr ac yn ceisio caniatâd i ymgymryd ag ymarfer ymgynghoriad cyhoeddus â
rhanddeiliaid. Amlinellwyd cefndir CCA arfaethedig, cyd-destun y cynllunio a'r polisi,
sylfaen y dystiolaeth, yr argymhellion arfaethedig, yr ardaloedd yr effeithir
arnynt ac amserlen yr ymgynghoriad. PENDERFYNWYD y dylai'r CCA drafft fel y'u hatodir yn atodiad A gael
eu cymeradwyo at ddiben ymgynghoriad cyhoeddus. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad oedd yn darparu gwybodaeth i'r Pwyllgor
ynglŷn â'r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad diweddar ar
Canllaw Dylunio Blaenau Siopau ac Thu Blaenau Masnachol ac i gytuno ar y
diwygiadau arfaethedig i'r canllaw drafft a'i fabwysiadu fel canllawiau
cynllunio atodol (CCA). PENDERFYNWYD 1)
Y
dylid cytuno ar y diwygiadau arfaethedig i'r Canllaw Dylunio Blaenau Siopau a
Thu Blaenau Masnachol fel y'u hamlinellir yn atodiad B yr adroddiad. 2)
Y dylid cymeradwyo’r CCA, fel y'u diwygiwyd. 3)
Y
dylid cytuno ar y Canllaw Arweiniad Dylunio Blaenau Siopau ac Thu Blaenau
Masnachol fel canllaw cynllunio atodol a’i fabwysiadu. |