Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorydd D. W.
Cole – Cofnod 33 - Cais i gofrestru tir a adwaenir fel Parc y Werin, Gorseinon,
Abertawe fel maes tref neu bentref - Rhif y Cais 2734(S) – Personol – fel Aelod
Lleol. Y Cynghorydd D. W.
W. Thomas – Cofnod 33 - Cais i gofrestru tir a adwaenir fel Parc y Werin,
Gorseinon, Abertawe fel maes tref neu bentref - Rhif y Cais 2734(S) – Personol
– fel Dirprwy Aelod y Cabinet dros Addysg. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor
Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Medi 2016 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Sandie
Richards, Prif Gyfreithiwr, adroddiad “er gwybodaeth” ar ran Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a roddodd y
diweddaraf i'r pwyllgor ar benderfyniad yr arolygydd i gynnal ymchwiliad
anstatudol gan fod, yn ei farn ef, “yr anghydfod
rhwng y partïon bellach yn ddigon cymhleth a dyrys fel mae'r ffordd orau o
geisio'i ddatrys yw i'r ddau barti ddod i ymchwiliad lleol”. Nododd fod yr
ymchwiliad yn debygol o ddigwydd yn y flwyddyn newydd. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am ddiwygiadau
i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) PENDERFYNWYD: (1)
1)
CYMERADWYO'R ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad
a/neu a nodir isod: (#) (Eitem 1)
Cais Cynllunio 2016/0662 - Y Sgwâr, Parc Tawe, Abertawe Siaradodd Richard Haynes (asiant) i gefnogi'r cais a dangoswyd cymhorthion
gweledol i gefnogi ei sylwadau. Adroddwyd am
ohebiaeth hwyr gan yr ymgeisydd. Cymeradwywyd y cais
yn unol â'r argymhelliad yn amodol ar y diwygiadau canlynol i amodau a chwblhau
Adran 106 Ymgymeriad Unochrog/Gweithred Amrywio newydd: Amod 7: Mae'n rhaid i Unedau 1, 5A, 5B, 5C, 6A, 6B, 6C, 6D, K1, K2, K3 a K4, a
ganiateir trwy hyn, yng Ngham 1 Parc Tawe (yn unol â diffiniad Cynllun Safle,
9485 P-024 Rev U a gyflwynwyd) beidio â chael eu
hymrannu dan 700 m. sg. (arwynebedd allanol crynswth)
na'u cyfuno ymhellach uwchben 3,500 m. sg.
(arwynebedd allanol crynswth). Amod 11 Bydd dyluniad terfynol a thriniaeth y gweddluniau gorllewinol a gogledd-orllewinol
agored newydd i Plantasia'n cael eu rhoi ar waith yn
unol â'r manylion cymeradwy dan ryddhad amodol, cyf:2015/2367. Er gwaethaf y
manylion a nodwyd yn y darlun cymeradwy 9485 E-05 J, bydd union ddyluniad a
lleoliad mynedfa Plantasia'n cael eu cyflwyno i'r
awdurdod cynllunio lleol a'u cymeradwyo ganddo, gan ymddwyn yn rhesymol. Bydd
manylion y fynedfa'n cael eu rhoi ar waith yn unol â'r cynllun cymeradwy.
Amod 13: Bydd y cynllun tirlunio, dan ryddhad amodol, cyf:2015/2513, yn cael ei
gynnal gan y datblygwr (ar yr amod bod y datblygwr, gan wneud ymdrechion
rhesymol, yn cael unrhyw ganiatâd angenrheidiol gan yr awdurdod lleol) cyn
unrhyw ddefnydd buddiol o'r Unedau yn 2A, 2B, 2C, 3, 8, K1, K2, K3 a K4. Bydd
unrhyw goed a phrysglwyni sy'n cael eu plannu'n unol â'r amod hwn y ceir gwared
arnynt yn cael eu disodli gan goed neu brysglwyni o faint a rhywogaeth debyg
i'r rhai y bu'n ofynnol i'w plannu'n wreiddiol. Bydd coed a phrysglwyni sy'n
cael eu plannu'n unol â'r amod hwn sy'n marw neu'n mynd yn ddifrifol afiach o
fewn dwy flynedd i'w plannu'n cael eu disodli gan goed neu brysglwyni o faint a
rhywogaeth debyg i'r rhai y bu'n ofynnol i'w plannu'n wreiddiol. (Eitem 3)
Cais Cynllunio 2016/1416 - Yr Iard Gychod, gerllaw
Cei'r Farchnad Bysgod, Heol Trawler, Ardal Forol,
Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. 2) GOHIRIO'R cais cynllunio y
sonnir amdano isod dan y broses bleidleisio ddau gam
i gael rhagor o gyngor ar y materion a godwyd gan Aelodau, yn enwedig o ran y rhesymau dros wrthod
ar sail sŵn ac aflonyddu, trefniadau sbwriel, parcio ceir a llechfeddiant
HMO. (#) (Eitem 2)
Cais Cynllunio 2016/1249 - 26 Heol Pinewood, Uplands, Abertawe Cyn gohirio,
siaradodd Jayne Keeley (gwrthwynebydd) yn erbyn y
cais ac anerchodd y Cynghorydd J. C. Bayliss (Aelod Lleol) y pwyllgor hefyd a
siarad yn erbyn y cais. Adroddwyd am lythyr
gwrthwynebu hwyr ychwanegol. |
|
Adroddiad Perfformiad Blynyddol. PDF 79 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr
Adroddiad Perfformiad Blynyddol gan y Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio.
Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried bod yr adroddiad yn ddull pwysig ar gyfer
monitro perfformiad awdurdodau cynllunio lleol yn erbyn cyfres allweddol o
ddangosyddion perfformiad cenedlaethol. Mae'r adroddiad
hefyd yn offeryn pwysig ar gyfer meincnodi perfformiad awdurdodau lleol ar
draws Cymru. Manylwyd ar yr adroddiad drafft ar gyfer 2015-2016 a oedd yn
gyfnod pan oedd newid sylweddol mewn sut roedd yr awdurdod yn ymdrin â
cheisiadau cynllunio, gan gynnwys strwythur pwyllgorau diwygiedig a chynllun
dirprwyo diwygiedig, yn Atodiad A yr adroddiad. Rhoddwyd manylion
am y ffigurau perfformiad gwirioneddol, y gwelliannau a gyflawnwyd a'r materion
i'w datrys, yn ogystal â chyfres o benderfyniadau apêl a oedd wedi'u gwneud yn
groes i argymhellion swyddog. |