Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddion canlynol: Y cynghorydd D W
Cole - Cofnod rhif 28 - Cais Cynllunio 2015/2506 – Tir ar Heol Pentre Bach, Gorseinon, Abertawe – Personol, yn Gynghorydd
Ward ar gyfer yr ardal. Y Cynghorydd M H
Jones – Cofnod Rhif 26 - Hawliau Tramwy Cyhoeddus – Hawliau Tramwy Cyhoeddus
honedig amrywiol rhwng Heol Hendrefoelan, Ffordd Huntington a Heol Waunarlwydd – Personol – wedi cerdded y
llwybrau traed hyn. Y Cynghorydd D W W Thomas – Cofnod Rhif 28 - Cais Cynllunio 2015/2506 – Tir ar Heol Pentre Bach, Gorseinon, Abertawe – Personol - Dirprwy Aelod y Cabinet dros Addysg. |
|
Cymeradwyo
a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 2 Awst 2016 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl. Cofnodion: PENDERFYNWYD gohirio'r ceisiadau canlynol fel a nodir
isod: (Eitem 2)
Cais Cynllunio 2016/0627 tir gerllaw Ysbyty Treforys a Chwrtnewydd,
Heol Mynydd Gelli Wastad, Treforys, Abertawe SA6 6PX
– Defnyddio tir er mwyn parcio ceir am gyfnod gweithredol o dair blynedd, gan
gynnwys newid y mynediad presennol o Heol Mynydd Gelliwastad a'r holl
weithrediadau cysylltiedig, a defnyddio tir cyfagos i storio uwchbridd. GOHIRIWYD y cais i ganiatáu i'r ymgeisydd ystyried materion
datblygu prosiect. (Eitem 3) Cais Cynllunio 2016/0641 Ysbyty Treforys
Ymddiriedolaeth GIG Abertawe, Heol Maes Eglwys, Cwmrhydyceirw Abertawe SA6 6NL
- ysbyty preifat deulawr/trillawr gyda thirlunio,
ffordd a maes parcio cysylltiedig (amlinellol) GOHIRIWYD y cais oherwydd bod angen ystyried y cais hwn ar y cyd â
chais 2016/0627. (Eitem 5) Cais Cynllunio 2016/1249 26 Heol Pinewood, Uplands, Abertawe SA2
0LT - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO i 4 person (Dosbarth C4) GOHIRIWYD y cais i ganiatáu
cywiro anghysondebau yn yr adroddiad. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Sandie
Richards, Prif Gyfreithiwr, adroddiad ar ran Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd i ystyried a ddylid derbyn neu wrthod y cais i wneud
Gorchymyn Addasu i gofnodi llwybrau cyhoeddus amrywiol ar Fap a Datganiad
Diffiniol Hawliau Tramwy Cyhoeddus y cyngor. Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. PENDERFYNWYD y dylid derbyn y cais a gwneud gorchymyn addasu. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o
geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) PENDERFYNWYD: (1)
CYMERADWYO'R ceisiadau cynllunio isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod: (Eitem 1) Cais
Cynllunio 2016/1051 Channel View, Y Crwys, Abertawe
SA4 3UR Annedd newydd ar wahân Llythyr gwrthwynebiad hwyr a dderbyniwyd oddi wrth
un o breswylwyr West Cross. Mae'r gwrthwynebydd o'r farn
nad yw dyluniad yr annedd newydd yn dderbyniol am nad yw'n ategu cymeriad
Gŵyr na'r lleoliad gwledig hwn. Mae'r gwrthwynebydd hefyd yn dweud nad yw
dymchwel y tŷ presennol yn gynaliadwy. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. (2) GWRTHOD
y ceisiadau cynllunio isod am y rhesymau a nodir isod: (Eitem 4) Cais Cynllunio 2016/1038 124 Rhodfa San Helen, Brynmill, Abertawe SA1 4NW.
Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO 5 ystafell wely (Dosbarth
4) Derbyniwyd llythyr o wrthwynebiad ychwanegol. Mae'r materion a godwyd yn
adlewyrchu'r rhai a godwyd mewn gwrthwynebiadau eraill. Cynllun bloc diwygiedig sy'n dangos darpariaeth lle parcio i gar oddi ar y stryd y tu ôl i'r eiddo. Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd Nick Davies,
Cynghorydd Ward Uplands, a siaradodd yn erbyn y cais.
GWRTHODWYD y cais yn groes
i argymhellion y swyddog am y rhesymau canlynol: 1)
Byddai'r cynnig, ar y cyd â Thai Amlfeddiannaeth
(HMO) yn Rhodfa San Helen yn arwain at grynhoad niweidiol o HMO a mwy ohonynt
yn y stryd a'r ardal ehangach. Byddai'r effaith gronnus hon yn arwain at
niweidio cymeriad yr ardal a chydlyniant cymdeithasol
gyda lefelau uwch o breswylwyr dros dro a llai o aelwydydd tymor hir a
theuluoedd sefydledig. Byddai'r fath effaith, yn y tymor hir, yn arwain at
gymunedau nad ydynt yn gytbwys nac yn hunangynhaliol. O ganlyniad, mae'r cynnig
yn groes i faen prawf (ii) Polisi HC5 Cynllun
Datblygu Unedol Abertawe (2008) a nodau'r polisi cenedlaethol a bennwyd ym
Mholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 8 Ionawr 2016), sef creu cymunedau cymysg
cynaliadwy a chynhwysol. (Eitem 6) Cais Cynllunio 2016/1316 – 105 Teras Rhyddings, Brynmill, Abertawe SA2
0DS – Cadw newid defnydd o annedd 4 ystafell wely (Dosbarth C3) i ddefnydd HMO
5 ystafell wely (Dosbarth C4) a newidiadau i ffenestr fae a ffenestri llawr
cyntaf y blaenlun. Derbyniwyd llythyr o wrthwynebiad hwyr oddi wrth
breswylydd lleol yn ailadrodd gwrthwynebiadau a godwyd gan breswylwyr eraill. Derbyniwyd llythyr o wrthwynebiad hwyr gan y Cyng. Peter May ar y sail bod
y cynnig yn mynd yn groes i Bolisi AS6. Mae'n ystyried mai'r unig reswm dros
ddarparu rhesel feicio yw mynd o'r tu arall i'r ffaith fod mwy o alw am barcio.
Nid oes mynediad cefni'r eiddo felly byddai angen mynd ag unrhyw feic sydd wedi
parcio yn yr ardd gefn drwy'r tŷ, felly'n anaml iawn y byddai'n cael ei ddefnyddio neu fyth.
Diben yr amod sy'n gofyn am le parcio i feiciau yw er mwyn cael caniatâd
cynllunio yn hytrach na hyrwyddo cludiant cynaliadwy. Nid yw'r arsylwadau
priffordd yn ystyried y pwynt hwn, gan ganolbwyntio ar fannau parcio i
breswylwyr yn hytrach na chyfanswm y mannau parcio sydd ar gael ar y stryd. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Julia Johnson ar ran y preswylwyr lleol, a
siaradodd yn erbyn y cais. Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd Nick Davies, Cynghorydd Ward Uplands, a siaradodd yn erbyn y cais. Gwrthodwyd y cais yn groes i argymhellion y swyddog am y rhesymau canlynol: 1.
Byddai'r cynnig, ar y cyd â Thai Amlfeddiannaeth (HMO) yn Nheras Rhyddings', yn arwain at grynhoad niweidiol o HMO a mwy
ohonynt yn y stryd a'r ardal ehangach. Byddai'r effaith gronnus hon yn arwain
at niweidio cymeriad yr ardal a chydlyniant
cymdeithasol gyda lefelau uwch o breswylwyr dros dro a llai o aelwydydd tymor
hir a theuluoedd sefydledig. Byddai'r fath effaith, yn y tymor hir, yn arwain
at gymunedau nad ydynt yn gytbwys nac yn hunangynhaliol. O ganlyniad, mae'r
cynnig yn groes i faen prawf (ii) Polisi HC5 Cynllun
Datblygu Unedol Abertawe (2008) a nodau'r polisi cenedlaethol a bennwyd ym
Mholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 8 Ionawr 2016), sef creu cymunedau cymysg
cynaliadwy a chynhwysol. |
|
Cais Cynllunio Cyf: 2015/2506 - Tir yn Heol Pentre Bach, Gorseinon, Abertawe SA4 4ZA. PDF 508 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad wedi'i ddiweddaru ar ran y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio Dinas. Gohiriwyd y cais o'r Pwyllgor Cynllunio ar 2
Awst 2016 dan y broses bleidleisio dau gam fel y gellid rhoi mwy o gyngor o ran
dehongli Arweiniad i Ddatblygwr y cyngor - Ceisiadau Cynllunio ar gyfer
Datblygiad Preswyl gan Bobl nad ydynt yn Ddeiliaid Tai (sy'n hyrwyddo ymagwedd
gadarnhaol ar gyfer safleoedd preswyl priodol a argymhellir i'w dyrannu yn y CDLl sy'n dod i'r amlwg) a rhesymau dros wrthod sy'n
gysylltiedig â'r effaith ar y Lletem Las, diogelwch
priffyrdd a chyfraniadau A106. PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R cais yn unol â'r argymhelliad. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Alan Webster, Cynorthwy-ydd Tirlunio
(Tyfwr Coed), adroddiad ar ran y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio Dinas i ystyried
cadarnhau, fel gorchymyn llawn, Orchymyn Cadw Coed dros dro 618: Tir ger Neuadd
Bentref Newton, Heol Caswell, Abertawe. 2016. PENDERFYNWYD CADARNHAU'R Gorchymyn Cadw Coed: Tir ger Neuadd Bentref Newton, Heol Caswell, Abertawe. |