Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddianau
canlynol: Y Cynghorydd D. W. W. Thomas – Cofnod 20 – Cais Cynllunio 2015/2506 – Personol oherwydd mai fi yw Dirprwy Aelod y Cabinet dros Addysg. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl. Cofnodion: (Eitem 6) Cais Cynllunio 2016/1051- Annedd ar wahân
newydd yn Nhrem y Sianel, Y Crwys, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol cyn gohirio. |
|
Penderfynu ar Geisiadau Cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio gyfres o geisiadau
cynllunio. Adroddwyd am ddiwygiadau i'r atodlen hon a
nodir y rhain isod â (#). PENDERFYNWYD: 1) y dylid GOHIRIO'R cais cynllunio isod dan y broses
bleidleisio ddau gam i gael rhagor
o gyngor swyddog ar y materion a godwyd gan
aelodau'n benodol ynghylch dehongli
arweiniad i ddatblygwr y cyngor, Ceisiadau Cynllunio ar gyfer Datblygiad Preswyl gan
Bobl nad ydynt yn Ddeiliaid Tai, sy'n hyrwyddo ymagwedd gadarnhaol at safleoedd
preswyl priodol a gymeradwywyd i'w dyrannu yn yr CDLl
sy'n dod i'r amlwg ynghyd â'r effaith ar y lletem las, diogelwch priffordd a chyfraniadau A 106. #(Eitem 1) Cais Cynllunio 2015/2506 -
Datblygiad preswyl ar gyfer adeiladu 41 o unedau gyda gwaith
mynediad a thirlunio cysylltiedig yn Heol Pentre Bach, Gorseinon,
Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchodd Phil Baxter (asiant) y pwyllgor. Anerchodd y Cynghorwyr D. C. Cole a J. P.
Curtice (Aelodau Lleol) y pwyllgor a siarad yn erbyn y cais. (2) y dylid CYMERADWYO'R
ceisiadau cynllunio isod yn destun yr amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir
isod: #(Eitem 3)
Cais Cynllunio 2014/1872 - Adeiladu 10 uned ar gyfer defnydd Dosbarth B1 a B2
gyferbyn â Makro, Beaufort Reach, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. (Eitem 4)
Cais Cynllunio 2014/0919 - Amrywio Amod 13 Caniatâd Cynllunio 2015/2119 a
roddwyd ar 14 Rhagfyr 2015 i agor rhwng 0800 a 2200 ar wyliau banc yn Lidl UK Gmbh, Heol y Trallwn, Llansamlet, Abertawe #(Eitem 5)
Cais Cynllunio 2016/0971 - Annedd newydd (Diwygiad i Ganiatâd Cynllunio
2015/2308 a roddwyd ar 17 Mawrth 2016) yn The Bungalow,
Parkmill Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. #(Eitem 7)
Cais Cynllunio 2016/0408 - Newid defnydd, addasu'r llawr cyntaf a'r ail lawr
presennol a chodi dau lawr newydd i greu 44 o unedau byw/gwaith (Dosbarth
C3/B1) a gwaith cysylltiedig yn 15-20 Stryd y Castell, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. #(Eitem 9)
Cais Cynllunio 2016/0873 - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO i 4
person (Dosbarth C4) yn 28 Heol Parc Rhyddings, Brynmill, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Adroddwyd am lythyr gwrthwynebu hwyr arall. Anerchodd y Cynghorwyr N. J. Davies a P.
N. May (Aelodau Lleol) y pwyllgor a siarad yn erbyn y cais. #(Eitem 10) Cais
Cynllunio 2016/1114 - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO 5 ystafell
wely (Dosbarth C4) yn 26 Heol Marlborough, Brynmill, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Adroddwyd am lythyr gwrthwynebu hwyr arall. Anerchodd y Cynghorwyr N. J. Davies a P.
N. May (Aelodau Lleol) y pwyllgor a siarad yn erbyn y cais. (3) GWRTHOD y cais
cynllunio isod am y rhesymau a nodir isod: #(Eitem 2)
Cais Cynllunio 2016/1268 - Cadw a chwblhau estyniad ochr ac addasiadau i'r to
yn hen safle Century Works yn Frederick
Place, Llansamlet, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Adroddwyd am lythyr gwrthwynebu hwyr arall gan breswylydd lleol. Anerchodd Arthur
Thomas (gwrthwynebydd) y pwyllgor. Anerchodd y Cynghorydd P. M. Matthews
(Aelod Lleol) y pwyllgor a siarad yn erbyn y cais. Gwrthodwyd y cais yn groes i argymhellion y
swyddog am y rhesymau canlynol: 1) Byddai'r
cynnig, oherwydd ei faint, ei grynswth a'i ddyluniad ger cefn eiddo ar Heol Peniel
Green yn cael effaith niweidiol sylweddol ar amwynder preswyl deiliaid yr eiddo
hynny. Felly, mae'r cynnig yn groes i bolisïau EV1 ac EC3 Cynllun Datblygu
Unedol Mabwysiedig Dinas a Sir Abertawe (2008). 2) Byddai'r
cynnig, oherwydd ei faint a'i ddyluniad, yn cael effaith niweidiol ar gymeriad
yr adeilad cynnal a'r cyffiniau, er anfantais i amwynderau gweledol yr ardal.
Felly, mae'r cynnig yn groes i bolisïau EV1 ac EC3 Cynllun Datblygu Unedol
Mabwysiedig Dinas a Sir Abertawe (2008). #(Eitem 8)
Cais Cynllunio 2016/0873 - Newid o ddefnydd preswyl (Dosbarth C3) i HMO i hyd
at chwe pherson (Dosbarth C4) yn 8 Teras Alexandra, Brynmill, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Adroddwyd am lythyr gwrthwynebu hwyr arall. Anerchodd y Cynghorwyr N. J. Davies a P.
N. May (Aelodau Lleol) y pwyllgor a siarad yn erbyn y cais. Gwrthodwyd y cais yn groes i argymhellion y
swyddog am y rhesymau canlynol: 1) Byddai'r
cynnig, ar y cyd â Thai Amlfeddiannaeth (HMO) yn Nheras Alexandra'n
arwain at grynhoad niweidiol o HMO a mwy ohonynt yn y stryd a'r ardal ehangach.
Byddai'r effaith gronnus hon yn arwain at niweidio cymeriad yr ardal a chydlyniant cymdeithasol gyda lefelau uwch o breswylwyr
dros dro a llai o aelwydydd tymor hir a theuluoedd sefydledig. Byddai'r fath
effaith, yn y tymor hir, yn arwain at gymunedau nad ydynt yn gytbwys nac yn
hunangynhaliol. O ganlyniad, mae'r cynnig yn groes i faen prawf (ii) Polisi HC5 Cynllun Datblygu Unedol Abertawe (2008) a
nodau'r polisi cenedlaethol a bennwyd ym Mholisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 8
Ionawr 2016), sef creu cymunedau cymysg cynaliadwy a chynhwysol. 2) Ni roddwyd
gwybodaeth ddigonol i ddangos y gellir darparu mannau
parcio oddi ar y stryd ychwanegol yng nghwrtil y safle at ddefnydd yr eiddo fel
HMO. Yn unol â hynny, byddai'r cynnig, i hyd at 6 phreswylydd, yn cynyddu'r
galw am fannau parcio oddi ar y stryd mewn man sydd eisoes yn orlawn ac, fel y
cyfryw, byddai'n niweidiol i'r preswylwyr/perchnogion ceir presennol a llif y
traffig, yn groes i faen prawf (iv) Polisi HC5 a
Pholisi AS6 Cynllun Datblygu Unedol Abertawe (2008). |
|
GCC 617 - Campws Townhill, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Heol Pantycelyn, Townhill. PDF 4 MB Cofnodion: Cafwyd adroddiad
gan y Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio a oedd yn ceisio ystyried
cadarnhau Gorchymyn Cadw Coed 617 dros dro - Campws Townhill,
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Heol Pant y Celyn, Townhill,
fel gorchymyn llawn. Cafodd yr hanes
cefndir, arfarniad o'r safle, y gwrthwynebiadau a'r sylwadau o blaid eu
hamlinellu yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD cadarnhau Gorchymyn Cadw Coed 617 - Campws Townhill, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Heol Pant y Celyn, Townhill, Abertawe. |
|
Cadw Coed ar Safleoedd Datblygu. PDF 68 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafwyd
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio Dinas a oedd yn ystyried y
Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) “Diogelu Coed ar Safleoedd Datblygu (2016)”
fel diweddariad i'r canllawiau presennol a fabwysiadwyd yn 2008, ac i'w
mabwysiadu fel CCA i'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl). PENDERFYNWYD 1) ymgynghori ar
“Diogelu Coed ar Safleoedd Datblygu” (2016) fel diweddariad i CCA “Diogelu Coed
ar Safleoedd Datblygu” (2008) yn y Cynllun Datblygu Unedol ac adrodd y
canfyddiadau'n ôl i'r Pwyllgor Cynllunio i'w cymeradwyo. 2) cynnwys "Diogelu Coed ar Safleoedd Datblygu” (2016), fel a gymeradwywyd, yn y Canllawiau Cynllunio Atodol yn y Cynllun Datblygu Lleol i'w fabwysiadu. |