Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd T M White – Cofnod Rhif 16 – Cais Cynllunio 2016/0517 – Personol – fel Aelod Ward. |
|
To approve & sign the Minutes of the previous meeting(s) as a correct record. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2016 yn gofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Cais i gofrestru tir yn Heol Tirmynydd, y Crwys yn faes tref neu bentref. PDF 57 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad “er gwybodaeth” a
amlinellodd fanylion cais a wnaed i gofrestru tir ar Heol Tirmynydd,
y Crwys. Amlinellwyd cefndir
y cais a'r ffaith fod arolygydd wedi cael ei benodi ac y penderfynwyd y dylid
cynnal ymchwiliad anstatudol. Caiff adroddiad arall ei gyflwyno i'r pwyllgor gan amlinellu argymhellion yr arolygydd yn dilyn yr ymchwiliad. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 54 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
Adfywio Economaidd a Chynllunio gyfres o geisiadau cynllunio. Adroddwyd ar ddiwygiadau i'r
atodlen hon a nodir y rhain isod â (#). PENDERFYNWYD: (1) CYMERADWYO'R ceisiadau cynllunio isod yn unol
â'r amodau yn yr adroddiad
a/neu a nodir isod: #(Eitem 2) Cais Cynllunio 2005/2644 – Tir oddi ar Deras Fairwood,
Tregŵyr, Abertawe Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am 2 lythyr
gwrthwynebiad a anfonwyd yn hwyr. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Diwygiwyd Amod
10 i nodi fel a ganlyn: Cyn dechrau
defnyddio lleiniau 1-3 mewn
ffordd fuddiol, caiff y droedffordd o flaen Teras Fairwood
(a ddangosir ar y darluniau
wedi'u cymeradwyo yma) eu darparu'n
llawn yn unol â manylion i'w cyflwyno i'r
Awdurdod Cynllunio Lleol a'u cymeradwyo'n
ysgrifenedig ganddo cyn cychwyn gwaith
datblygu ar y safle. Bydd manylion y gwaith troedffordd a gyflwynir yn cynnwys manylion
y ddarpariaeth Gorchmynion Rheoleiddio Traffig i ddiogelu cyffordd
Teras Fairwood â'r lôn i'r
gorllewin o'r safle. #(Eitem 3) Cais Cynllunio 2016/0921 – Llain PD,
PL a PN, tir i'r de o Ffordd Fabian ac i'r dwyrain o afon Tawe Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Adroddwyd am wrthwynebiad
a e-bostiwyd yn hwyr. Bu Mr E Jones (asiant)
yn annerch y pwyllgor. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. (2) GWRTHOD y cais cynllunio isod am y rhesymau a nodir isod: #(Eitem 1) Cais Cynllunio 2016/0517 – Bloc A, Dewi
Sant, Heol New Cut, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Bu Mr W Chung (gwrthwynebwr)
yn annerch y pwyllgor. Bu'r Cynghorydd B Hopkins (Aelod Lleol) yn
annerch y pwyllgor ac yn siarad yn
erbyn y cais. Rhesymau 1. Mae lleoliad y storfa sbwriel yn cael effaith
annerbyniol ar amwynder preswyl y deiliaid cyfagos o ran ei pherthynas â'r eiddo preswyl cyfagos
a'i heffaith andwyol, niweidiol wrth gyfrannu at lygredd amgylcheddol yn groes i bolisïau
datblygu unedol EV2 ac EV4 Abertawe. 2. Mae dyluniad, gwedd a lleoliad y storfa sbwriel o fewn y strydlun yn amharu ar gymeriad
gweledol yr ardal yn groes
i bolisïau datblygu unedol EV2 ac EV4 Abertawe. |