Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 3A - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorydd I M Richard – Cofnod Rhif 108 - Cais Cynllunio 2016/0086
(Eitem 4) – Rhagderfyniad. (Ni adawodd y cyfarfod gan y gohiriwyd yr eitem am
Ymweliad Safle.) Y Cynghorydd T M White – Cofnod Rhif 108 - Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Anghysondeb yn y Map Diffiniol mewn perthynas â Llwybr Cerdded 35 - Cymunedau Penrhys a Llanilltud Gŵyr. Personol gan fy mod yn adnabod yr unigolyn sydd wedi cyflwyno tystiolaeth. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno
bod cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Ebrill 2016 yn gofnod
cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl. Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem ganlynol gan swyddogion am y rheswm a nodir isod: Eitem 6 yr Agenda - Cais i gofrestru tir a adnabyddir fel Parc y Werin,
Gorseinon, Abertawe yn faes tref neu bentref - Cais Rhif 2734(S). I ganiatáu i'r arolygydd ystyried gwybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad a
oedd yn ceisio pennu a ddylid gwneud gorchymyn dargyfeirio llwybr cyhoeddus i
ddargyfeirio llinell ddiffiniol bresennol llwybr cerdded rhif 35. Adroddwyd bod y Pwyllgor Cynllunio eisoes wedi pennu nad oedd digon o
dystiolaeth i wneud gorchymyn addasu tystiolaethol i gywiro'r anghysondeb yn
aliniad llwybr cerdded rhif 35. Felly
mae'n ofynnol ystyried gwneud gorchymyn llwybr cyhoeddus i gywiro'r anghysondeb
a chydymffurfio â dyletswydd gyfreithiol y cyngor i wneud hynny. Cafodd yr ymgynghoriad, yr agweddau cyfreithiol ar y mater, y llwybr
presennol a'r llwybr newydd arfaethedig (A-F-G-H-I-J-K-E) eu nodi a'u
hesbonio'n fanwl yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwneud gorchymyn dargyfeirio llwybr cyhoeddus er mwyn dargyfeirio llinell ddiffiniol bresennol llwybr cerdded rhif 35 fel y nodwyd yn yr adroddiad. |
|
Heol Travistock a Heol Parc Wern, Sgeti, Abertawe - Gorchymyn Cadw Coed P 17.7.4 599. PDF 65 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio adroddiad a oedd yn
ceisio ystyriaeth o'r cadarnhad, ar ffurf gorchymyn llawn, Gorchymyn Cadw Coed
arfaethedig 599 - Heol Tavistock a Heol Parc Wern,
Sgeti, Abertawe. Cafodd yr hanes cefndir, arfarniad o'r safle, gwrthwynebiadau a sylwadau a
dderbyniwyd eu hamlinellu yn yr adroddiad. Ymwelodd aelodau â'r
safle yn dilyn gohiriad yn y cyfarfod blaenorol. PENDERFYNWYD cadarnhau
Gorchymyn Cadw Coed: Heol Tavistock a Heol Parc Wern,
Sgeti, Abertawe. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 48 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio gyfres o geisiadau
cynllunio. Adroddwyd ar ddiwygiadau i'r atodlen hon
ac fe'u nodir isod â (#). PENDERFYNWYD: (1) GOHIRIO'R cais cynllunio
a nodir isod yn unol â'r broses bleidleisio dau
gam er mwyn cael rhagor o gyngor gan swyddogion am resymau dros wrthod o ran
Dim Tai Fforddiadwy, Pryderon Priffordd a Cholli Amwynderau i Blant Ysgol yn
Ysgol Gynradd Cwmrhydyceirw. #(Eitem 1) Cais Cynllunio 2014/0977 - Parc Ceirw,
Chwarel Cwmrhydyceirw a'r tir cyfagos, Cwmrhydyceirw, Abertawe Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Ym mharagraff olaf tudalen 133, cynigir mannau
mynediad i gerddwyr o Heol Vicarage (nid Heol Maes y
Gwernan fel y nodwyd), Heol Cwmrhydyceirw a Bythynnod y Rheilffordd. Dylai paragraff 3 ar dudalen 148 nodi yn yr ail
linell '...terfynu defnydd o safle tirlenwi' ac nid 'terfynu defnydd o'r
chwarel'. Amod 35 - Diwygio'r geiriad i gyfeirio at leiniau
A, C a D (nid A, B ac C). Ychwanegu'r Adran 106 ganlynol o'r Rhwymedigaeth
Gynllunio: Y Tu Hwnt i Frics a Morter - bydd y datblygwr yn ymrwymo, dan gynllun
Y Tu Hwnt i Frics a Morter y cyngor, i ddod â gwerth cymdeithasol ychwanegol
i'r datblygiad drwy hyfforddiant a gweithgareddau cyflenwi wrth ddatblygu'r
safle. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchodd Geraint John (asiant) a Mr G Rees (gwrthwynebydd) y pwyllgor. Anerchodd y Cynghorwyr R C Stewart, R Francis-Davies, C R Evans ac A S
Lewis (Aelodau Lleol) y pwyllgor gan siarad yn erbyn y cais. (2) GOHIRIO'R ceisiadau
cynllunio a nodir isod am YMWELIADAU SAFLE am y rhesymau a amlinellir
isod: #(Eitem 2) Cais Cynllunio 2015/2223 - Tir oddi ar
Ffordd Fabian, Abertawe Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: 9 Mai 2016 - Derbyniwyd llythyr arall yn gwrthwynebu. Mae'n cyfeirio at
gwsmeriaid yn ymweld â'r safle ar daith benodol yn
hytrach na chwsmeriaid sy'n mynd heibio yn unig. Mae pryderon yn cynnwys
ychwanegu at lygredd, diogelwch priffordd a phobl yn osgoi teithio i Abertawe. #(Eitem 4) Cais Cynllunio 2016/0086 - Tir ar Fferm
Cefn Betingau, Treforys, Abertawe Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Fel nad oes unrhyw amheuaeth ynghylch natur y datblygiad, dylai'r cynnig
ddarllen fel a ganlyn: Adeiladu fferm solar heb gydymffurfio ag amod 8 caniatâd
cynllunio 2013/0865 sy'n gofyn am blannu gwrych i rannu caeau 9 a 10. (3) GWRTHOD y cais
cynllunio a nodir isod am y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiad a/neu a nodir
isod: #(Eitem 3) Cais Cynllunio 2015/2258 - Tir yn Fferm
Cawsi, Heol Mynydd Gelli Wastad, Treforys, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchodd Mr P Vining (yn gwrthwynebu ar ran
PABM) y pwyllgor. (4) CYMERADWYO'R cais
cynllunio a nodir isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir
isod: #(Eitem 5) Cais Cynllunio 2016/0605 - 38 Ysgol Oakleigh House, Penlan, Cilgant Uplands, Abertawe Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: 9 Mai 2016 - Derbyniwyd gwybodaeth ychwanegol gan
yr ymgeisydd - mae'r datganiad cynllunio yn rhoi gwybodaeth am y defnydd
arfaethedig. 9 Mai 2016 - Ymateb gan y Cyng. Peter May - yn
cynghori ar broblemau parcio a mynediad difrifol dros y blynyddoedd. Nododd fod
y cais am 2 ystafell ddosbarth ac nid 6 phlentyn ychwanegol a bod deddfwriaeth
ac arweiniad yn newid. Mae'n bryderus y gallai etholwyr gael eu gadael mewn
sefyllfa lle mae gan yr ysgol le i hyd at 50 o ddisgyblion ychwanegol a
fyddai'n arwain at 50 o geir ychwanegol. Mae'n gofyn i'r pwyllgor wneud cais am
farn ddiwygiedig gan yr ymgyngoreion
statudol yn seiliedig ar gynnydd o 50 o blant (2 ystafell ddosbarth) ac os yw'r
pwyllgor yn teimlo ei fod am gymeradwyo hyn, yna dylid cynnwys amod sy'n gwneud
cais i'r ymgeisydd dalu am gostau barrau H ar gyfer preswylwyr Cilgant Penlan a
Gerddi Notts mewn ymdrech i ddiogelu mynediad i'w
heiddo. 9 Mai 2016 - Derbyniwyd e-bost gan breswylydd a
oedd yn atodi 7 llun yn dangos parcio yn yr ardal. 7 Mai 2016 - Gwrthwynebiad ychwanegol. Codi
pryderon am yr ystafelloedd dosbarth ychwanegol yn amharu ar ansawdd bywyd a
gwerth tai oherwydd yr aflonyddiad a grëir. Pryderon na all yr ardal ymdopi â'r traffig ychwanegol. |
|
Protocol Drafft y Pwyllgor Cynllunio. PDF 60 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio adroddiad a oedd yn
ceisio ystyriaeth o ymateb i Brotocol Drafft Pwyllgorau Cynllunio CLlLC. Cafodd meysydd cefndir y mae'r protocol drafft newydd yn eu cynnwys,
arfarniad y swyddog o'r meysydd pwnc hyn ac ymateb drafft eu hamlinellu'n fanwl
yn yr adroddiad. Byddai'n rhaid trefnu hyfforddiant ychwanegol i aelodau yn y flwyddyn
ddinesig newydd petai'r awdurdod yn cael ei ddewis fel maes
"trywydd". PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ymateb i'r adroddiad, a nodwyd yn Atodiad 1, fel ymateb yr awdurdod i ymgynghoriad CLlLC ar y Protocol Drafft Pwyllgorau Cynllunio. |