Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â
darpariaethau Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas
a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd A C S Colburn
– Cofnod Rhif 99 - Cais i gofrestru tir a adwaenir fel Picket
Mead, Newton, Abertawe'n
faes tref neu bentref. - Personol a rhagfarnol gan i mi gymryd rhan yn yr
Ymchwiliad Cyhoeddus felly gadewais cyn y drafodaeth. Y Cynghorydd A M
Cook – Cofnod Rhif 98 - Cais Cynllunio 2008/0512 – (Eitem 7 ar yr agenda) -
Personol gan fy mod yn Aelod Ward. Y Cynghorydd M H
Jones – Cofnod Rhif 100 - Cais Cynllunio 2015/2527 (Eitem 1) - Personol a
rhagfarnol gan fod rhai o'r gwrthwynebwyr yn ffrindiau personol ac agos - gwnes
ddatganiad dan baragraff 14(2) y Côd a gadewais cyn y
drafodaeth. Y Cynghorydd M
Thomas – Cofnod Rhif 100 - Cais Cynllunio 2015/0055 (Eitem 2) - Personol gan fy
mod yn adnabod yr ymgeisydd. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: PENDERFYNWYD cytuno bod cofnodion y Pwyllgor Cynllunio
a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2016 yn gofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio / tynnu'n ôl. Cofnodion: Gohiriwyd yr eitem
ganlynol gan Swyddogion am y rhesymau a nodwyd isod: Eitem 7 ar yr
agenda - Cais Cynllunio 2008/0512 - Tir oddi ar Heol Brithwen, Waunarlwydd,
Abertawe - Datblygiad Preswyl (amlinelliad). Caniatáu i'r ymgeisydd
gyflwyno mwy o wybodaeth hyfywedd i'w hystyried. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd adroddiad a oedd yn amlinellu
canfyddiadau ac argymhellion yr Arolygydd. Cafodd hanes
cefndir y cais, y profion cyfreithiol a wnaed, yr ymgynghoriad, y sylwadau a
dderbyniwyd o blaid ac yn erbyn, yr ymchwiliad a gynhaliwyd, y cyngor
cyfreithiol a gafwyd a'r cylch gwaith, y canfyddiadau a chasgliad yr Arolygydd
eu hamlinellu a'u cyfleu i'r pwyllgor. Anerchwyd y
pwyllgor gan Mr Victor Collier a siaradodd o blaid y cais. PENDERFYNWYD 1) y dylid gwrthod
y cais i gofrestru'r uchod. 2) Ni ddylai unrhyw
ran o dir y safle ymgeisiol gael ei hychwanegu at y Gofrestr Meysydd Tref neu
Bentref o dan Adran 15 Deddf Tiroedd Comin 2006. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.. PDF 48 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio gyfres o geisiadau
cynllunio. Adroddwyd am newidiadau i'r atodlen hon ac
fe'u nodir isod gan (#). PENDERFYNWYD (1) y dylai'r ceisiadau
cynllunio a enwir isod gael eu CYMERADWYO yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu a nodwyd isod: #(Eitem 1)
Cais Cynllunio. 2015/2527 - 438 Heol Gŵyr, Cilâ, Abertawe. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Diwygio Amodau 3 a 4 ac ychwanegu'r frawddeg ganlynol at bob amod: Bydd gosod yr holl gyfarpar fel rhan o'r cynllun y cytunwyd arno wedi hyn
yn cael ei gynnal a'i weithredu yn unol â'r manylion y cytunwyd arnynt tra bo'r
defnydd ohonynt yn parhau. Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
Pwyllgor gan Simon Peake (asiant). Anerchwyd y
Pwyllgor gan y Cynghorydd J W Jones (Aelod Lleol) a siaradoedd yn erbyn y cais. #(Eitem 2)
Cais Cynllunio. 2016/0055 - Tir i'r gorllewin o Heol Victoria, Heol Victoria,
Tregŵyr, Abertawe. Cymeradwywyd y cais
yn amodol ar ddileu amod 12. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y
Pennaeth Adfywio Economaidd a Chynllunio adroddiad a oedd yn gofyn am
ystyriaeth o’r cadarnhad, fel gorchymyn llawn, Orchymyn Cadw Coed dros dro 599
- Heol Tavistock a Heol Parc Wern, Sgeti, Abertawe. Amlinellwyd yr
hanes cefndir, arfarniad o'r safle, y gwrthwynebiadau a'r sylwadau a
dderbyniwyd yn yr adroddiad. Anerchwyd y
Pwyllgor gan Sarah Andrews (gwrthwynebydd) o ran 10 Heol y Frenhines, Sgeti. PENDERFYNWYD y dylai'r mater gael ei ohirio nes cynnal
ymweliad safle â 10 Heol y Frenhines, Sgeti. |