Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

37.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

38.

Cofnodion. pdf eicon PDF 214 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2023 fel cofnod cywir.

 

 

39.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl.

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Dim.

40.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.     2022/1134/RES - Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r cais cynllunio y cyfeirir ato isod.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)

(Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod.)

 

 

#(Eitem 1) - Cais Cynllunio 2022/1134/RES - Adeiladu hyd at 108 uned breswyl a gwaith cysylltiedig (manylion mynediad, edrychiad, tirlunio, cynllun, graddfa yn unol ag amodau 6,8 a 9 caniatâd cynllunio amlinellol 2015/1584 a roddwyd ar 13 Mai 2016) (2008/0996 ac a oedd yn amrywio 2002/1000) ar gyfer datblygiad defnydd cymysg yn SA1 Glannau Abertawe ar Lain E7 ac E8, Glannau Abertawe, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl.

 

Anerchodd Emily Avery (asiant o RPS Group ar ran Associated British Ports) y Pwyllgor.

 

Anerchodd Phil Baxter (asiant ar gyfer yr ymgeiswyr, Pobl) y Pwyllgor.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

adroddwyd am 1 llythyr gwrthwynebu hwyr.

 

Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb Adran 106.