Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 1 Awst 2023 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1) - 2023/1523/FUL – Cymeradwywyd (2) - 2022/1109/RES - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar
ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod. (Eitem 1) – Cais Cynllunio 023/1523/FUL - Cynnig i
osod polyn telathrebu 5G: Polyn stryd H3G main 20m o uchder a chabinetau
cysylltiedig gyda gwaith ategol ar dir yn Trallwn Road, Llansamlet, Abertawe. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Siaradodd Janet Lovell, Robert Allender a Barbara Smith (gwrthwynebwyr) yn
erbyn y cais. Siaradodd y Cynghorwyr Matthew Jones, Ryland Doyle, Penny Matthews ac
Alyson Pugh (Aelodau Lleol) yn erbyn y cais.. (Eitem 2) Cais Cynllunio 2022/1109/RES - Adeiladu
35 o fflatiau ac 8 tŷ trefol a gwaith cysylltiedig, (manylion mynediad,
golwg, tirlunio, cynllun, graddfa yn unol ag amodau 6, 8, 9 17 caniatâd
cynllunio amlinellol 2015/1584 a roddwyd ar 13 Mai 2016 (oedd yn amrywio
2008/0996 ac yn amrywio 2002/1000) ar gyfer datblygiad defnydd cymysg Glannau
SA1 Abertawe yn llain D5b, tir i'r de o Fabian Way ac i'r dwyrain o afon Tawe,
Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Siaradodd Tracey Thomas (gwrthwynebwr) yn erbyn y cais. Siaradodd Laura Fower (asiant) o blaid y cais. Siaradodd y Cynghorydd Michael Locke ar ran y Cynghorydd Sam Bennett (Aelod
Lleol) yn erbyn y cais. Roedd Aelodau'r pwyllgor wedi ymweld â safle'r cais ar fore'r cyfarfod. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Mae 5 llythyr gwrthwynebu
hwyr pellach wedi'u derbyn sydd i raddau helaeth yn ailadrodd pwyntiau
gwrthwynebu sy'n bod ac yn gwneud y pwyntiau canlynol: • mae'r cais cynllunio'n
torri'r Ddeddf Hawliau Dynol a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 am
resymau economaidd-gymdeithasol. • mae gwahaniaethu yn
erbyn pobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol am resymau cymdeithasol ac economaidd
yn erbyn y gyfraith ac nid yw'n cynnal gwerthoedd Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol. • achos yng Ngwlad yr Haf
lle lladdwyd cwpwl gan gymydog dros anghytundeb parcio annigonol a pharhaus. • bydd y prif gynllun defnydd tir yn cael ei
adolygu, ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, a'i gymeradwyo'n
ysgrifenedig ganddo bob 2 flynedd. Nid yw wedi cael ei adolygu ers 2015 felly
nid yw'n ddilys mwyach. • mae gwrthod ceir
preswylwyr yn cyfyngu ar allu i fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth. • mae rheoli parcio'n
dangos y gwrthodwyd parcio ar gyfer 22 o fflatiau Mae hyn yn rhwygol ac yn
annhebygol o hyrwyddo "cymuned gydlynus" fel sy'n ofynnol gan
Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol. • dim parcio i ymwelwyr • nid yw'r cynigion
arfaethedig yn dangos unrhyw welliant o ran y diffyg darpariaeth lleoedd parcio
ceir yn y datblygiad • disgrifir y dramwyfa
fynediad ar 1:15 fel "heriol". Mae'n gul, gyferbyn â chyffordd ar
ffordd brysur. Mae llai o welededd oherwydd y graddiant yn cynyddu'r risg o
ddamweiniau. • mae gosod seilbyst a gwaith adeiladu yn
cynhyrchu sŵn, llwch a thraffig, gan effeithio ar ansawdd bywyd
preswylwyr, mwynhad o'u heiddio a thorri'r Ddeddf Hawliau Dynol o bosib. Mae
gweithgarwch gosod seilbyst lleol wedi bod yn ymwthiol. • tarfu yn ystod gwaith
adeiladu • dim man gwyrdd
cymunedol yn ward y Glannau. Addawyd parc rhwng D5b a D9b ers 2018, ond ni
ddarparwyd hyn. • awgrymir creu lleoedd
parcio ychwanegol yn Langdon Road. • nid yng nghraidd y
ddinas • mae parcio wedi cynyddu
ers yr adeiladwyd Harbour Quay. • mae gwasanaethau
cludiant cyhoeddus yn brin • nid yw'n glir faint o
fannau gwefru cerbydau trydan fydd yn cael eu darparu, os o gwbl. • mae parcio heb ganiatâd
yn y datblygiadau amgylchol eisoes yn broblem • mae uchder yr adeiladau
arfaethedig yn golygu y byddent yn edrych dros eiddo presennol gan effeithio ar
breifatrwydd. Nid oedd unrhyw sôn am hyn
pan brynwyd yr holl dai ar Langdon Road Gall hyn hefyd ddylanwadu ar werth tai.
• bydd yr ardal hon yn
dod yn orlawn a bydd gorboblogi pan fydd yn lleoliad ac yn ardal y mae pobl yn
dymuno byw ynddi • nid oes gofyniad ar hyn o bryd am dai
fforddiadwy yn yr ardal, felly nid yw'r cynlluniau'n cyd-fynd â'r datganiadau
cyfredol a roddwyd gan yr adran Tai Sylwer: Cymeradwywyd y cais yn amodol ar gytundeb Adran 106. |
|
Cais Cynllunio: 2022/1230/FUL - Penderfyniad Apel. PDF 132 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er Gwybodaeth Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn
manylu ar ganlyniad apêl yn erbyn penderfyniad y pwyllgor ar Hydref 2020 i
wrthod cais cynllunio ar dir yn Nhrehafod,
Waunarlwydd Road, Amlinellwyd a
manylwyd ar y rhesymau a roddwyd gan yr Arolygydd |