Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2023 fel cofnod
cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Creu Lleoedd a
Chynllunio Strategol adroddiad ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas a
roddodd grynodeb i'r Pwyllgor o ddogfen Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
Drafft newydd, a cheisiwyd cymeradwyaeth gan Aelodau i gynnal ymgynghoriad
cyhoeddus ar y CCA drafft. I gefnogi'r adroddiad a ddosbarthwyd, darparwyd cyflwyniad PowerPoint i'r
pwyllgor a oedd yn amlinellu'r meysydd canlynol ac yn manylu arnynt: ·
Cefndir y ddogfen ddrafft newydd gan gynnwys y ffaith bod
angen diweddaru'r CCA presennol, disgwylir arweiniad newydd ar addasu adeiladau
gwledig, mae angen adlewyrchu penderfyniadau apêl, fframwaith cynllunio
cenedlaethol newydd, aliniad gwell â pholisïau creu lleoedd ar gyfer Penrhyn
Gŵyr a fwy o eglurder ar gyfer ymgeiswyr a'r bobl sy'n gwneud
penderfyniadau; ·
Problemau allweddol o fewn y CCA - arweiniad ar yr hyn
sy'n draddodiadol a'r hyn y mae angen ei ddiogelu, arweiniad gwell ar ddefnydd
busnes a ganiateir, meini prawf ar gyfer addasu a chysylltiadau gwell â'r CDU a
CCA eraill; ·
Addasiadau ac adeiladau newydd - y gwahaniaethau
rhyngddynt, y gwaith y mae angen ei wneud i'w addasu ac nid i'w dymchwel/ailadeiladu,
cyfyngiadau ar ail-lunio o'n CDU a'n polisi cenedlaethol, arweiniad CCA ar
drothwy rhesymol ar gyfer adeiladau a ailadeiladwyd; ·
Cynhelir ymgynghoriad a gwaith ymgysylltu yn ystod y
cyfnod o chwe wythnos cyn 6 Hydref, ffurflen a thudalennau gwe ar-lein,
ymgynghoriad â rhanddeiliaid allweddol amrywiol, archwilio sylwadau a diwygio
CCA drafft a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor i'r fersiwn terfynol gael ei
fabwysiadu ar ddiwedd 2023. Gofynnodd aelodau gwestiynau amrywiol i'r swyddog am yr adroddiad a'r
cyflwyniad ac ymatebodd yn unol â hynny. Penderfynwyd cymeradwyo Addasu Adeiladau
Gwledig Traddodiadol drafft, fel yr atodir yn Atodiad A i'r adroddiad, at
ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus a chynnwys rhanddeiliaid. |