Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y
cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 9 Mai, 17 Mai ac 18 Mai 2023 fel cofnod cywir yn amodol
ar ychwanegu'r Cynghorydd P Lloyd at restr yr aelodau a oedd yn bresennol yn
ystod cyfarfod 18 Mai 2023. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. 2022/1907/FUL - Cymeradwywyd 2. 2023/0357/OUT - Cymeradwywyd
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod. (Eitem 2) -
Cais Cynllunio 2023/0357/OUT - Adeiladu unedau preswyl a mynediad, parcio,
tirlunio a gwaith isadeiledd cysylltiedig (amlinellol) yn Safle B3, Riverside
Wharf, Glannau Abertawe, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol manwl. Anerchwyd y
pwyllgor gan Phil Baxter (asiant) a siaradodd o blaid y cynllun. Cymeradwywyd y
cais yn amodol ar gytundeb Adran 106. (Eitem 1) -
Cais Cynllunio 2022/1907/FUL - Fferm ffotofoltäig solar (PV) 3 megawat sydd
wedi'i gosod ar y ddaear gan gynnwys cyfarpar ategol, isadeiledd cysylltiedig a
rhwydwaith gwifren preifat ar dir yn Safle Tirlenwi Tir John, St Thomas,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol.
|