Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

51.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

 

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

Y Cynghorydd  R A Williams – Eitem 3 (2020/1492/FUL) – personol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad canlynol:

 

Y Cynghorydd R A Williams – Eitem 3 (2020/1492/FUL) – personol.

52.

Cofnodion. pdf eicon PDF 367 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Penderfyniad:

 Cymeradwywyd

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2023 fel cofnod cywir.

 

53.

Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl

Penderfyniad:

Dim

Cofnodion:

Dim

54.

Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(1) – 2022/2796/FUL - Cymeradwywyd

 

(2) – 2023/0220/FUL - Cymeradwywyd

 

(3) - 2020/1492/FUL - Cymeradwywyd

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas.

 

Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod)

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio isod.

 

#(Eitem 1) – Cais Cynllunio 2022/2796/FUL - Gwelliannau mynediad i gerbydau, adeiladu Cyflenwyr Adeiladu gan gynnwys storfa y tu allan ar gyfer deunyddiau a ffensys perimedr, 2 uned gyrru trwyddo (defnydd Dosbarth A1/A3), unedau B2/B8, ystafell farchnata ar gyfer cerbydau (defnydd unigryw) a datblygiad cysylltiedig ar dir y tu ôl i Dyffryn Close, Parc Menter Abertawe, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol manwl.

 

Anerchodd Dave Daycock (ar ran y gwrthwynebydd) a Matthew Gray (asiant) y pwyllgor.

 

Dosbarthwyd lluniau o faterion amrywiol yn ymwneud â llifogydd etc. ar y safle cyfagos gan y gwrthwynebydd i'r Aelodau a oedd yn bresennol ac fe'u dangoswyd ar-lein.

 

Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn:

 

Mae ymateb ysgrifenedig pellach wedi ei gyflwyno ar ran y gwrthwynebydd yn codi materion amrywiol sydd wedi eu crynhoi fel a ganlyn:

i)             Mae'r safle mewn perygl llifogydd sydd wedi'i waethygu gan waith torri coed. Mae'r bwriad yn groes i TAN15 ac yn peri risg llifogydd i dir ac eiddo trydydd parti.

ii)            Mae carthffosydd a draeniau anhysbys posib o fewn y safle.

iii)           Llygredd safle sydd angen ymchwiliad pellach.

iv)           Mae canclwm Japan ar y safle.

 

Mae'r materion uchod eisoes wedi cael sylw yn yr adroddiad

 

 

(Eitem 2) – Cais Cynllunio 2023/0220/FUL - Codi gât ffin flaen yn 70 Rhyd y Defaid Drive, Sgeti, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.

 

Anerchodd Craig Davies (ymgeisydd) y Pwyllgor.

 

 

(Eitem 3) – Cais Cynllunio 2020/1492/FUL - Newid defnydd hen ddepo bysus (Dosbarth B8) i ganolfan ailgylchu gwastraff preifat (Dosbarth B2) ar dir gerllaw'r hen ddepo bysus, New Road, Crofty, Abertawe

 

Rhoddwyd cyflwyniad gweledol.