Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2022 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1 - 2022/2706/PNT - Gwrthodwyd 2 - 2022/2147/FUL - Cymeradwywyd 3 - 2022/1149/FUL - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf
am yr adroddiad y cyfeirir ato isod
i Aelodau'r Pwyllgor
yn ogystal â'i chyhoeddi ar
wefan y Cyngor cyn y cyfarfod, roedd y rheini a nodwyd â (*) yn ddiweddariadau llafar yn ystod
y cyfarfod.) Penderfynwyd 1) gwrthod y cais
cynllunio isod: #(Eitem 1) – Cais
Cynllunio 2022/2706/PNT - Gosod
polyn telathrebu 5G arfaethedig: Polyn stryd H3G 16m a chabinetau offer ychwanegol (cais am Hysbysiad Blaenorol o Ddatblygiad Arfaethedig gan Weithredwyr System Côd Telathrebu) ar gyfer gwaith
stryd yn Sgwâr Cwmbwrla, Sgwâr Cwmbwrla, Trefansel, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Anerchwyd y pwyllgor
gan Mrs Richards (gwrthwynebydd). Anerchwyd y pwyllgor
gan y Cynghorydd C A Holley (aelod
lleol) a siaradodd yn erbyn y cynnig. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: • Derbyniwyd llythyr ychwanegol yn gwrthwynebu
gan berchennog/feddiannydd 74 Pentregethin Road.
Dyma grynodeb o'r sylwadau: Mae'r
cynnig yn niweidiol i amwynder
gweledol, mae effeithiau andwyol i iechyd a lles
preswylwyr, mae'n niweidiol i ddiogelwch
priffyrdd ac mae mannau eraill y gellid ei osod. • Ategwyd y llythyr hefyd gan ddelweddau
a chynlluniau, gan gynnwys argraff weledol o sut y gallai'r mast a'r offer ymddangos yn y strydlun. • Mae'r materion a godwyd yn y llythyr eisoes
wedi derbyn sylw rhesymol o fewn yr adroddiad
gwreiddiol. • *Eglurwyd yn y cyfarfod
fod y cais yn destun ymgynghoriad
cyhoeddus a oedd yn cynnwys gosod
hysbysiad ar y safle ac ymgynghori'n uniongyrchol ag un eiddo. Roedd hyn yn bodloni'r
gofynion cyhoeddusrwydd a nodwyd yn y rheoliadau
perthnasol. Sylwer: Ni dderbyniwyd Argymhelliad
y Swyddog. Prior approval refused contrary to officer recommendation
for the following reasons: Byddai'r datblygiad
arfaethedig, oherwydd ei uchder, ei
olwg a'i leoliad cyhoeddus amlwg, yn cael
effaith weledol niweidiol ar yr
ardal leol ac effaith andwyol ar amwynder preswyl
deiliaid yr eiddo cyfagos, yn groes i
Bolisïau PS 2 ac UE5 o Gynllun
Datblygu Lleol Abertawe
(2010 - 2025). 2) Cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio a nodir isod yn
amodol ar yr amodau yn
yr adroddiad a/neu a amlinellir isod: *(Eitem 2) – Cais
Cynllunio 2022/2147/FUL – Estyniad
un llawr i'r ochr/cefn yn
cynnwys garej fewnol ym Maesyrhaf,
Tŷy Draw Road, Bôn-y-maen, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Mae gwall teipio
bach wedi'i nodi yn yr
adroddiad dan yr adran diogelwch priffyrdd. Dylid disodli'r gair 'defnyddio' yn y frawddeg gyntaf â 'cholli' ond nid
yw hyn yn newid yr asesiad
priffyrdd a'r canlyniad cyffredinol yn sylweddol. *(Eitem 3) – Cais
Cynllunio 2022/1149/FUL – Adeilad
cynhyrchu sy'n gysylltiedig ag adeilad presennol y ganolfan gwasanaethau yn Timet, Titanium Road, Waunarlwydd, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Diwygiad i
amod 2 lle mae dyddiad y diwygiad
canlyniadau llifogydd yn anghywir. Newid amod
2 fel ei fod yn datgan: Rhaid ymgymryd
â'r datblygiad yn unol â'r
cynlluniau a'r dogfennau cymeradwy canlynol: 001
REV 06 - lleoliad safle a chynllun bloc, Adroddiad Ecolegol Rhagarweiniol a baratowyd gan gwmni
Bay Ecology, Asesiad Sŵn
a baratowyd gan Inacoustic a dderbyniwyd 13 Mai
2022, Asesiad Canlyniadau Llifogydd a dderbyniwyd ar 21 Hydref 2022 ac Adroddiad Ymchwiliad Tir a baratowyd gan Quantum Geotech a dderbyniwyd ar 12 Gorffennaf 2022. HCE-1546-PLA-001 - cynllun rheoli amgylcheddol ar gyfer adeiladu amlinellol ar gyfer
cyfleuster cynhyrchu newydd, adroddiad coedyddiaeth a dderbyniwyd ar 18 Mai 2022. 002 REV R06 - trefniant
cyffredinol cynlluniau'r llawr gwaelod a'r
llawr cyntaf, 003 REV R06 -
cynllun to trefniant cyffredinol ac adran A-A, 004 REV
R07 - trefniant cyffredinol
gweddluniau, 006 R05 - cynllun
safle a dderbyniwyd ar 12 Gorffennaf 2022. 002 REV R04 - cynllun
dŵr storm, 003 REV R03 - adrannau dŵr storm A, B, C a Ch, 004 REV R01 - manylion draenio safonol, taflen 1 o 2, 005 REV
R01 - manylion draenio safonol, taflen 2 o 2, 006 REV
R04 - safonau manylion SDCau, taflen 1 o 2, 007 REV R01 safonau manylion SDCau, taflen 2 o 2 a dderbyniwyd 28 Gorffennaf 2022. PLO2 - Trefniant
cyffredinol cyffordd ymadael arfaethedig a dderbyniwyd ar 14 Rhagfyr 2022. Rheswm: I osgoi amheuaeth a sicrhau cydymffurfiaeth â'r cynlluniau a gymeradwywyd. |