Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas
a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad canlynol: Y Cynghorydd P M Black - Cais Cynllunio 2018/2629/FUL (Eitem 2) & 2021/0944/FUL (Eitem 4) – personol a rhagfarnol a'i adael
cyn trafodaeth. Y Cynghorydd P Downing - Cais
Cynllunio 2018/2629/FUL (Eitem 2) & 2021/0944/FUL (Eitem 4) - personol Y Cynghorydd P Lloyd – Cais Cynllunio 2018/2629/FUL (Eitem 2) &
2021/0944/FUL (Eitem 4) – personol Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd P M
Black - Ceisiadau Cynllunio 2018/2629/FUL (Eitem 2) a 2021/0944/FUL (Eitem 4) -
Personol a Rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod cyn y drafodaeth Y Cynghorydd P
Downing - Ceisiadau Cynllunio 2018/2629/FUL (Eitem 2) a 2021/0944/FUL (Eitem 4)
- Personol Y Cynghorydd P
Lloyd - Ceisiadau Cynllunio 2018/2629/FUL (Eitem 2) a 2021/0944/FUL (Eitem 4) -
Personol |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1) 2022/2017/FUL – Cymeradwywyd 2) 2018/2629/FUL – Cymeradwywyd 3) 2021/1966/FUL – Cymeradwywyd 4) 2021/0944/FUL - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Penderfynwyd
cymeradwyo’r ceisiadau cynllunio isod yn unol â’r amodau yn yr adroddiad a/neu
fel a nodir isod: (Eitem 1) -
Cais Cynllunio 2022/2017/FUL - Newidiadau mewnol i hwyluso’r newid defnydd o
dŷ tafarn (Dosbarth A3) i annedd ar wahân (Dosbarth C3) yn Rock and Fountain, Rhyddwen Road, Craig-cefn-parc, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan Tim Buxton (gwrthwynebydd) a Robert
Bowen (asiant). Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd Brigitte Rowlands (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn
y cais. (Eitem 2) –
Cais Cynllunio 2018/2629/FUL - Adeiladu 55 o anheddau ag isadeiledd
cysylltiedig ar dir oddi ar Coed Bach Road, Pontarddulais, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan Geraint John (asiant). Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Amod ychwanegol wedi'i
ychwanegu fel a ganlyn: 26. Ni cheir meddiannu unrhyw annedd a gymeradwyir
trwy hyn hyd nes y bydd Cynllun Gweithredu'r Gymraeg sy’n cynnwys y mesurau
arfaethedig canlynol wedi’i gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i
gymeradwyo’n ysgrifenedig ganddo: -
Marchnata eiddo’n ddwyieithog; -
Cynhyrchu pecyn croeso i bob cartref sy'n nodi'r
ddarpariaeth Gymraeg yn yr ardal; -
Sicrhau bod enwau strydoedd yn Gymraeg er mwyn gwarchod a
hyrwyddo cymeriad ieithyddol lleol a hynodrwydd diwylliannol Pontarddulais. Bydd y mesurau/argymhellion a gynhwysir yn y
Cynllun Gweithredu'r Gymraeg cymeradwy yn cael eu gweithredu'n llawn wedi
hynny. Rheswm: Er
mwyn sicrhau bod effaith y datblygiad ar y Gymraeg yn cael ei hystyried wrth
ddatblygu a marchnata’r cynnig ac o ran enwau lleoedd yno, yn unol â Pholisi
HC3 y CDLl. Sylwer: Cymeradwywyd y cais yn unol ag
argymhelliad yn amodol ar lofnodi Cytundeb Adran 106 ac ychwaneg amod 26. (Eitem 3) -
Cais Cynllunio 2021/1966/FUL - Adnewyddu ac adeiladu estyniadau cefn pedwar llawr
ac estyniad bar to ac estyniad teras to i'r gwesty i ddarparu 42 ystafell wely
ychwanegol a llety ategol yng Ngwesty'r Grand, Ivey Place, Canol y Ddinas, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. (Eitem 4) -
Cais Cynllunio 2021/0944/FUL - Adeiladu 30 o fflatiau preswyl a gwaith
cysylltiedig ar dir yn Upper Bank, Nantong Way, Pentrechwyth, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan Geraint John (asiant). Sylwer: Cymeradwywyd y cais yn unol â’r argymhelliad
ar yr amod na fydd unrhyw ystyriaethau cynllunio perthnasol newydd yn cael eu
codi cyn 19 Rhagfyr 2022 pan ddaw’r hysbysiad i’r wasg i ben. |