Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2022 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1) – 2019/2881/RES - Cymeradwywyd (2) – 2022/0904/FUL - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer:
Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i
Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y
diwrnod cyn y cyfarfod.) Penderfynwyd
cymeradwyo’r ceisiadau
cynllunio isod yn unol â’r amodau yn yr adroddiad a amlinellir isod: #(Eitem 1)
- Cais Cynllunio 2019/2881/RES - Manylion materion a gadwyd yn ôl yn unol ag
amod 2, caniatâd cynllunio amlinellol 2017/1822/OUT a roddwyd ar 9 Hydref 2019
ar gyfer 471 o unedau preswyl Camau 1A a 3A ynghyd â Cham 0 - Spine Street ar dir i'r gorllewin
o Llangyfelach Road, Tirdeunaw, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd Mark Tribe (Aelod Lleol) a gofynnodd gyfres o
gwestiynau ynghylch y cais. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Caiff y testun
canlynol ei gynnwys o fewn adran "Amodau'r Caniatâd Amlinellol" yn yr
adroddiad. Hepgorwyd hyn oherwydd camgymeriad fformatio: Amod 28 -
cynllun pibelli dŵr yfed Cyflwynwyd y
manylion canlynol: - Cynllun prif
bibell ddŵr arfaethedig Cam 1A a 3A - Trosolwg o Ddyluniad Drafft y Safle
(Darlun rhif 001 Rhifyn 02), a dderbyniwyd ar 28 Gorffennaf 2022. - Cyflwynwyd yr
amserlen ar gyfer y bibell dŵr yfed trwy e-bost ar 19 Awst 2022. Mewn ymgynghoriad
â Dŵr Cymru, ystyriwyd bod yr wybodaeth uchod yn dderbyniol i fodloni
gofynion amod 28 i'r graddau y mae'n berthnasol i gamau 0, 1A a 3A. Amod 30 -
Asesiad effaith coedyddiaeth a chynllun amddiffyn coed sy'n benodol i'r cam Cyflwynwyd y
manylion canlynol: Edp2708_r014e
(Datganiad Dull Coedyddiaeth) a baratowyd gan EDP, dyddiedig mis Medi 2022, a
dderbyniwyd ar 21 Medi 2022 Mewn ymgynghoriad
ag Is-adran Tirlunio'r cyngor, ystyriwyd bod yr wybodaeth uchod yn dderbyniol i
fodloni gofynion amod 30 i'r graddau y mae'n berthnasol i gamau 0, 1A a 3A. Amod 31 -
Mesurau amddiffyn coed Cyflwynwyd y
manylion canlynol: Edp2708_r014e
(Datganiad Dull Coedyddiaeth) a baratowyd gan EDP, dyddiedig mis Medi 2022, a
dderbyniwyd ar 21 Medi 2022 Mewn ymgynghoriad
ag Is-adran Tirlunio'r cyngor, ystyriwyd bod yr wybodaeth uchod yn dderbyniol i
fodloni gofynion amod 31 i'r graddau y mae'n berthnasol i gamau 0, 1A a 3A. Amod 46 -
Strategaeth celf gyhoeddus sy'n benodol i'r cam Cyflwynwyd y
manylion canlynol: Strategaeth Celf
Gyhoeddus Pentref Rhostir, a baratowyd gan Studio Response,
dyddiedig mis Mehefin 2022 Mewn ymgynghoriad
ag Is-adran Gwasanaethau Diwylliannol y cyngor, ystyriwyd bod yr wybodaeth
uchod yn dderbyniol i fodloni gofynion amod 46 i'r graddau y mae'n berthnasol i
gamau 0, 1A a 3A. Amod 47 –
Cynllun Rheoli Tirwedd ac Ecoleg sy'n benodol i'r cam Cyflwynwyd y
manylion canlynol: edp2708_r012c
(Cynllun Rheoli Tirwedd ac Ecoleg) a baratowyd gan EDP, dyddiedig mis Awst
2022, a dderbyniwyd ar 22 Awst 2022. Mewn ymgynghoriad
ag ecolegydd y cyngor, ystyriwyd bod yr wybodaeth uchod yn dderbyniol i fodloni
gofynion amod 30 i'r graddau y mae'n berthnasol i gamau 0, 1A a 3A. Caiff yr amod
canlynol ei ychwanegu at y rhestr o amodau a argymhellwyd a chafodd ei hepgor
o'r adroddiad ar ddamwain: Amod 12: Ac eithrio
darpariaethau Dosbarthiadau A, B, C, Ch, D a Dd Rhan
1 Atodlen 2, Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a
Ganiateir) 1995 (fel y'i diwygiwyd ar gyfer Cymru) (neu unrhyw orchymyn sy'n
ddirymu ac yn ailfabwysiadu'r gorchymyn hwnnw gydag
addasiadau neu hebddynt), ni chaniateir cwblhau estyniadau, estyniadau i'r to,
cynteddau, adeiladau, lloriau caled neu newidiadau eraill heb awdurdod penodol
y caniatâd hwn. Rheswm: Er mwyn
atal datblygiad anaddas ar y safle a all effeithio ar y cwrs dŵr a chreu
neu waethygu unrhyw berygl llifogydd presennol ac er budd amwynder gweledol ac
amwynderau meddianwyr cyfagos yn unol â Pholisïau PS2, RP4 ac RP5 y CDLl. #(Eitem 2)
- Cais Cynllunio 2022/0904/FUL – oergell barod yng nghefn y storfa bresennol yn
Ystad Ddiwydiannol y Morfa, Unilift
South Wales Ltd, Alamein Road, Glandŵr, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Caiff yr amod canlynol ei ychwanegu at y rhestr o
amodau a argymhellwyd a chafodd ei hepgor o'r adroddiad ar ddamwain: Amod 5 Cyn dechrau'r datblygiad, dylid cyflwyno Cynllun
Rheoli Perygl Llifogydd (fel a amlinellwyd ym mharagraffau 9.8, 9.9 a 9.10 yr
Asesiad Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd i gefnogi'r cais) i'r Awdurdod
Cynllunio Lleol i'w gymeradwyo'n ysgrifenedig. Yna dylid cyflawni'r Cynllun
Rheoli Perygl Llifogydd wedi'i gymeradwyo yn unol â'r manylion a gymeradwywyd
cyn y defnydd buddiol cyntaf o'r datblygiad a gymeradwywyd trwy hyn. Rheswm: Er mwyn lliniaru effaith unrhyw
ddigwyddiadau llifogydd yn unol â'r Asesiad Canlyniadau Llifogydd a gyflwynwyd.
|