Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y
cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 6 Medi 2022 fel cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 2022/0794/S73 - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cais cynllunio
ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am
ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) Penderfynwyd
cymeradwyo'r cais
cynllunio y cyfeirir ato isod am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad: #(Eitem 1)
- Cais Cynllunio 2022/0794/S73 - Ailddatblygu canolfan siopa sydd eisoes yn
bodoli sy'n cynnwys archfarchnad Tesco newydd (arwynebedd llawr gros 10,100
metr sgwâr), gorsaf betrol ac 8 o unedau manwerthu cysylltiedig (arwynebedd
llawr gros 11,670 metr sgwâr) gyda buarthau gwasanaeth cysylltiedig a lleoedd
parcio i staff, newidiadau i fynediad presennol oddi ar Pontarddulais Road, cau
mynediad presennol oddi ar Carmarthen Road, adeiladu
dau fynediad newydd oddi ar Ffordd Cynore, gwaith
priffyrdd oddi ar y safle i Ffordd Cynore a chyffordd
Pontarddulais Road, darparu maes parcio i gwsmeriaid â 1,275 o leoedd, gwaith
tirlunio ar y safle a gwaith llety - Amrywiaeth ar amod 9 caniatâd cynllunio
A00/0366 a roddwyd ar 1 Awst 2000 er mwyn caniatáu newid yr oriau gweithredu ar
gyfer y gatiau, o gael eu cloi rhwng 21:00 a 08:00 i gael eu cloi rhwng 22:00 a
07:00 er mwyn caniatáu ar gyfer dosbarthu nwyddau i unedau 12 ac 13 (Aldi), ar y ffordd fynediad gwasanaeth o Ffordd Cynore i'r ardal ddosbarthu y tu ôl i unedau manwerthu 12
ac 13 yn Uned 13 Parc Fforest-fach, Cadle, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Adroddwyd am
lythyr o wrthwynebiad a dderbyniwyd yn hwyr. Anerchwyd y
Pwyllgor gan Chris Jennings (asiant) a siaradodd o blaid y cais. |
|
Cais Cynllunio 2022/1230/FUL - Trehafod, Waunarlwydd Road, y Cocyd, Abertawe. PDF 818 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwrthodwyd Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio ac Adfywio adroddiad a
oedd yn amlinellu bod y cais wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio ar 6 Medi
2022 gyda'r argymhelliad y dylid cymeradwyo'r cais cynllunio yn destun amodau.
Nid oedd y Pwyllgor Cynllunio wedi derbyn yr argymhelliad ond penderfynwyd
gohirio'r cais dan y broses bleidleisio dau gam er mwyn gallu darparu cyngor
pellach ar y rhesymau dros wrthod. Ychwanegwyd nad oedd y cais wedi'i wrthod hyd nes y
byddai'r rhesymau dros wrthod wedi eu cofnodi a'u cymeradwyo gan y Pwyllgor. Manylwyd ar adroddiad wedi’i ddiweddaru a oedd yn cynnwys
gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd a rhesymau posib dros wrthod a darparwyd
copi o'r adroddiad gwreiddiol i'r Pwyllgor Cynllunio ar 6 Medi 2022 yn Atodiad
A. Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y
pwyllgor gan Helen Jones, Liz McWilliams, Alan Cunningham a Dewi Perkins (gwrthwynebwyr). Anerchwyd y
pwyllgor gan Chris Jennings ar ran yr ymgeisydd, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a
Phil Baxter (asiant). Dangoswyd adnoddau gweledol i gefnogi eu hanerchiad. Bu'r Cynghorydd
Michael Locke (Aelod Lleol) yn annerch y pwyllgor ac yn siarad yn erbyn y cais.
Anerchwyd y
pwyllgor gan y Cynghorydd Elliott King (Aelod Lleol) ar ei ran ef ei hun a'i gydweithwyr
yn ward 2 y Cocyd a siaradodd yn erbyn y cais. Eto, ni dderbyniwyd yr argymhelliad i gymeradwyo. Penderfynwyd gwrthod y cais am y rhesymau
canlynol;
|