Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 2 Awst 2022 fel cofnod
cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Gyfreithiwr ar ran y Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad a oedd yn ceisio
ystyriaeth ynghylch a ddylid derbyn neu wrthod cais a wnaed i'r awdurdod hwn o dan
Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i wneud gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus ar
gyfer llwybr troed MU5. Cafodd y manylion
cefndir a hanes y mater eu hamlinellu a manylwyd arnynt yn yr adroddiad gan
swyddogion, gan gynnwys y tir a'r llwybrau yr effeithiwyd arnynt, y
gweithdrefnau cyfreithiol a ddilynwyd, a'r ystyriaethau a'r ymgynghoriadau yr
ymgymerwyd â hwy. Cafodd yr
ymatebion a'r gwrthwynebiadau i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd eu hamlinellu gan y
Swyddog a'u manylu'n llawn yn yr adroddiad. Manylodd
nad yw'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn cael eu hystyried yn ddigon
perswadiol i warantu gwrthod y cais. Penderfynwyd: (1)
cymeradwyo'r cais a bod gorchymyn gwyro llwybr cyhoeddus yn cael ei wneud,
ac: (2)
os derbynnir gwrthwynebiadau i'r gorchymyn, cyfeirir y gorchymyn at
Weinidogion Cymru i benderfynu arno. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1. 2022/1230/FUL – Gohiriedig 2. 2022/1700/LBC – Cymeradwywyd 3. 2021/2825/FUL - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres o geisiadau cynllunio ar
ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd am ddiwygiadau/ddiweddariadau
i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#) (Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth
ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal
â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod cyn y cyfarfod.) Penderfynwyd 1) gohirio'r
cais cynllunio isod o dan y broses bleidleisio ddau gam am adroddiad pellach ar
y rhesymau dros wrthod ar sail effaith andwyol ar amwynder preswyl; effaith
parcio a goleuo ar y strydlun; yn groes i Bolisi CDLl PS2. (Eitem 1) - Cais Cynllunio 2022/1230/FUL -
Estyniad ochr deulawr a newid defnydd o Adeilad Clinig Iechyd presennol
(Dosbarth D1) i Ganolfan Breswyl i Fenywod (Dosbarth C2A) a gwaith cysylltiedig
yn Nhrehafod, Waunarlwydd Road, y Cocyd, Abertawe Cyn gohirio Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Anerchwyd y pwyllgor gan Helen Jones, Liz
McWilliams, Alan Cunningham a Stuart Owen (gwrthwynebwyr). Anerchwyd y pwyllgor gan Chris Jennings ar
ran yr ymgeisydd, y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd
James McGettrick (aelod lleol) a siaradodd yn erbyn y cais. Anerchwyd y pwyllgor gan y Cynghorydd Mike
Durke (Aelod Lleol) ar ei ran ef ei hun a'i gydweithwyr yn ward 2 y Cocyd a
siaradodd yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Diwygio amodau 3, 5, 10 ac 11 i gynnwys: "......... Ymgymerir â’r datblygiad wedi hynny'n unol â'r Cynllun
Rheoli Gweithredol cymeradwy (3) / Cynlluniau Rheoli Amgylcheddol Adeiladu
(CEMP) (5) / strategaeth goleuo sensitif (10) / Cynllun Rheoli Rhywogaethau
Anfrodorol Ymledol (RhAY) (11)". Diwygio amod 14 i nodi: Bydd y gwelliannau arfaethedig i fynediad a’r gyffordd, a gosod cilfach
basio o fewn y safle, yn cael eu gwneud yn unol â'r cynlluniau a gymeradwywyd:
01 gwaith mynediad arfaethedig a dadansoddiad o Symudiad a Llwybr, 02 cynllun
safle olrhain cerbydau gwastraff, TREHAF- 3277-NMA-TRE-XX-DR-A-0003-S2- D0100
REV, 5 cynllun safle arfaethedig a dderbyniwyd ar 29 Gorffennaf 2022 a fydd yn
cael ei gwblhau cyn meddiannaeth lesiannol y datblygiad a'i gynnal felly wedi
hynny. Rheswm: Er mwyn diogelwch y briffordd ac i leihau effaith cerbydau sy'n
gwasanaethu'r datblygiad ar dagfeydd. 6 Llythyrau gwrthwynebiad ychwanegol gan
gynnwys llythyr oddi wrth y Cynghorydd M W Locke. 2) caiff y cais cynllunio isod ei gymeradwyo
a'i gyfeirio at Cadw, yn amodol ar y diwygiad a nodir isod: (Eitem 2) - Cais Cynllunio 2022/1700/LBC -
Adeiladu pontŵn newydd sy’n cynnwys: llwyfan pen pont dur gyda decin
rhwyll GRP wedi'i osod yn sownd wrth y wal; 4 pontŵn concrit gwydrffibr
wedi'u cysylltu sy'n codi i fyny ac i lawr, 4 colofn fertigol ddur a phont ddur
golynnog gyda decin rhwyll GRP sy'n cysylltu'r ddau, rheiliau gwarchod a gatiau
i ymyl y cei a’r llwyfan pen pont o ddur di-staen; ac o gwmpas y pontynau dur
galfanedig, colofnau goleuo alwminiwm 5m o uchder a chymhorthion diogelwch ac
achub (cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig) yng Nghei Afon Tawe ar hen safle
Gwaith Copr yr Hafod, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Dylai'r penderfyniad ar Dudalen 63 ddarllen: "Hysbysu Gweinidogion Cymru, drwy Cadw, o'r
bwriad i GYMERADWYO yn amodol ar yr amodau canlynol:" Yn ogystal, mae
gwall ar T61, Paragraff 5 – uchder y rheiliau dur di-staen yw 1.2m. 3) cymeradwyo'r cais cynllunio a
nodir isod yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod: (Eitem 3) - Cais Cynllunio 2021/2825/FUL -
Adeiladu adeilad storio ar gyfer Trysorau'r Tip, gweithdy, 5 cynhwysydd storio
gyda chanopïau ac adleoli 10 o leoedd parcio staff yn Uned 22 a'r Safle Byrnu,
Ferryboat Close, Parc Menter Abertawe, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr adroddiad fel a ganlyn: Mae brawddeg anorffenedig ar dudalen 73 ar waelod y
dudalen. Dylai'r frawddeg ddarllen: "Nid ystyrir felly y byddai
cyflwyno'r adeilad hwn yn y lleoliad hwn yn cael effaith andwyol ar gymeriad
neu amwynder gweledol yr ardal." |