Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Y Cynghorydd P M Black – Cais Cynllunio
2022/1031/S73 (Eitem 5) – Personol a Rhagfarnol
a gadawodd cyn y drafodaeth, a Chais
Cynllunio 2022/1167/FUL (Eitem 7) – personol. Y Cynghorydd P Downing – Cadarnhau TPO 685 –
personol a Chais Cynllunio 2022/1031/S73 (Eitem 5) – personol. Y Cynghorydd P Lloyd – Ceisiadau Cynllunio
2022/1013/S73 (Eitem 5) a 2022/1167/FUL (Eitem 7) – personal. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: Y Cynghorydd P M
Black - Cais Cynllunio 2022/1031/S73 (Eitem 5) – personol a rhagfarnol a
gadawodd cyn y drafodaeth am Gais Cynllunio 2022/1167/FUL (Eitem 7) – personol.
Y Cynghorydd P
Downing – Cadarnhad o GCC 685 – personol a Chais Cynllunio 2022/1031/S73 (Eitem
5) – personol. Y Cynghorydd P
Lloyd - Ceisiadau Cynllunio 2022/1031/S73 (Eitem 5) a 2022/1167/FUL (Eitem 7) -
personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a
llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2022 fel
cofnod cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Penderfyniad: Dim Cofnodion: Dim. |
|
Cadarnhau Gorchymyn Cadw Coed 685. PDF 1 MB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas
adroddiad a oedd yn gofyn am ystyriaeth o'r cadarnhad, fel Gorchymyn llawn, am
Orchymyn Cadw Coed dros dro 685: Ysgol Llwynderw 2022 Amlinellwyd y manylion cefndir a hanes y mater a manylwyd
arnynt yn yr adroddiad gan Swyddogion - roedd GCC dros dro wedi'i roi ar y
goeden ar 15 Mawrth 2022. Cafodd y gwrthwynebiadau a'r sylwadau a
dderbyniwyd ynghylch y mater a'r difrod i eiddo eu hamlinellu a'u nodi yn yr
adroddiad. Amlinellwyd yr adroddiad annibynnol a luniwyd gan Mr Mark
Chester o Cedarwood Tree
Care Ltd ar gyfer perchennog yr eiddo yr effeithiwyd arno yn llawn yn yr
atodiad i'r adroddiad. Adroddwyd am e-bost hwyr arall gan y gwrthwynebydd ynghyd ag ymateb y
swyddog i'r e-bost ac amlinellwyd y ddau i aelodau'r pwyllgor yn y daflen
ddiweddaru. Anerchodd y Cynghorydd Rebecca Fogarty (Aelod Lleol) y pwyllgor a siaradodd
o blaid y cynnig i gadarnhau'r GCC. Penderfynwyd cadarnhau Gorchymyn
Cadw Coed: Ysgol Llwynderw 2022. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (1) – 2021/1495/FUL - Cymeradwywyd (2) –2020/2629/FUL - Gwrthodwyd (3) –2022/0381/106 –
Cymeradwywyd (4) –2021/2611/FUL – Cymeradwywyd (5) –2022/1031/S73 - Cymeradwywyd (6) –2022/0954/RES - Cymeradwywyd (7) – 2022/1167/FUL - Cymeradwywyd Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd
am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)
(Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato
isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y cyngor y diwrnod
cyn y cyfarfod) Penderfynwyd cymeradwyo’r ceisiadau cynllunio isod 1)
yn
unol â’r amodau yn yr adroddiad a/neu fel a nodir isod: #(Eitem 1)
– Cais Cynllunio 2021/1495/FUL - Codi 166 o anheddau gyda mynediad
cysylltiedig, tirlunio, mannau agored, isadeiledd gwyrdd, isadeiledd draenio a
gwaith cysylltiedig ar dir i'r gogledd o Llewellyn Road, Penllergaer, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd
Francesca Evans (ymgeisydd) y Pwyllgor. Anerchodd y
Cynghorydd Wendy Fitzgerald (Aelod Lleol) y Pwyllgor a siaradodd yn erbyn y
cais. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Mae Dŵr Cymru wedi dweud nad oes angen amod 15
mwyach. Derbyniwyd un llythyr o wrthwynebiad. Ni chodwyd unrhyw faterion newydd. Sylwer; Cymeradwywyd y
cais yn unol ag argymhelliad yn amodol ar lofnodi Cytundeb Adran 106 a dileu
amod 15. #(Eitem 3)
– Cais Cynllunio 2022/0381/106 - Addasu cytundeb Adran 106 sydd ynghlwm wrth
ganiatâd cynllunio 2002/1000 a roddwyd ar 19 Awst 2003 i ychwanegu cymal
gwahardd amod/morgais newydd yng Nghymal 1 o'r Drydedd Atodlen yn 1-54
(cynhwysol) Llys Hafan, Lamberts Road, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Sylwer; Cymeradwywyd y cais yn unol ag
argymhelliad yn amodol ar roi Cytundeb Adran 106 newydd ar waith. #(Eitem 4)
– Cais Cynllunio 2021/2611/FUL - Newid defnydd a throsi hen dafarn (Colliers Arms) yn ddwy annedd trillawr, gan gynnwys ychwanegu dwy ddormer yn y cefn,
goleuadau to yn y cefn, addasiadau i ffensys, dymchwel adeiledd unllawr yn y cefn, tynnu to ar oleddf yn y cefn i roi to
gwastad gyda goleuadau llusern a sied feiciau yn 31 Hebron Road, Clydach,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Sylwer: Penderfynodd y Pwyllgor roi pwerau
dirprwyedig i'r Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas i gymeradwyo'r cais os
na chodir unrhyw ystyriaethau perthnasol newydd yn yr ymatebion i'r
ymgynghoriad ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori ffurfiol. #(Eitem 5)
- Cais Cynllunio 2022/1031/S73 - Datblygiad preswyl gydag adeiladu mynedfa
newydd i gerbydau oddi ar Nantong Way
(amlinellol) (2006/1902) fel yr amrywiwyd gan ganiatâd cynllunio Is-adran 73
2014/1189, 2018/1204/S73 a 2019/0536/S73 Amrywio amod 8 (mynediad parhaol oddi ar Nantong Way) o Adran 73 caniatâd
cynllunio 2018/1204/S73 a roddwyd ar 3 Hydref 2018 (i ymestyn y dyddiad ar
gyfer adeiladu'r mynediad barhaol oddi ar Nantong Way). Amrywio amod 8 o ganiatâd cynllunio 2019/2523/S73 a
roddwyd ar 4 Mehefin 2020 i ymestyn y cyfnod amser ar gyfer cwblhau'r gwaith
adeiladu hyd at 30 Ebrill 2023 i ganiatáu ar gyfer diwygiadau priffyrdd yn nhir
yn Upper Bank, Nantong Way,
Pentrechwyth, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Sylwer: Cymeradwywyd cais yn unol ag argymhelliad
yn amodol ar addasu gofynion y briffordd yn y Cytundeb Adran 106 gwreiddiol #(Eitem 6)
– Cais Cynllunio 2022/0954/RES - Cymeradwyo'r holl faterion a gadwyd yn ôl mewn
perthynas â datblygu'r Adeilad Matrics Arloesedd
(Busnes cymysg B1/Addysg D1 gydag A3 atodol), gan gynnwys tirlunio cysylltiedig
ac isadeiledd ategol - Cam 1 Ardal Arloesedd y
Glannau Abertawe (manylion mynediad, golwg, tirlunio, maint a chynllun yn unol
ag amodau 08, 09, 15 a 20 o ganiatâd cynllunio amlinellol 2015/1584 a
gymeradwywyd ar 13 Mai 2016) yn Lleiniau Pc a Pj, tir i'r de o Ffordd Fabian ac
i'r dwyrain o Afon Tawe, Abertawe Rhoddwyd cyflwyniad
gweledol. Sylwer: Cymeradwywyd y cais yn unol ag
argymhelliad yn amodol ar addasu gofynion y briffordd yn y Cytundeb Adran 106
gwreiddiol. #(Eitem 7)
– Cais Cynllunio 2022/1167/FUL - Estyniad un llawr ac estyniad cefn deulawr yn
33 Heol Waun Wen, Llangyfelach, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Yn dilyn yr
ymarfer ail-ymgynghori, mae llythyr pellach o wrthwynebiad wedi cyrraedd gan
gymydog yn ailddatgan ei wrthwynebiad i'r cynigion. 2)
Ei wrthod
am y rhesymau a nodir yn yr adroddiad: #(Eitem 2)
– Cais Cynllunio 2020/2629/FUL - Dymchwel yr annedd bresennol ac adeiladu bloc
4 llawr sy'n cynnwys 3 fflat yn 2 Broadview Lane, y
Mwmbwls, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd Pauline
Cooper (gwrthwynebydd) y Pwyllgor. Anerchodd Alex
O'Brien (ymgeisydd) ac Alan Seager (asiant) y
Pwyllgor. Anerchodd y
Cynghorydd Will Thomas (aelod lleol) y pwyllgor a siaradodd yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Mae ail baragraff adran 'Effeithiau Preswyl' yr adroddiad
yn cyfeirio'n anghywir at 'Rhif 1' ar bedwar achlysur. Dylai pob 'Rhif 1' gael
ei ddisodli gan 'Rhif 3' yn y paragraff hwn. Mae ail baragraff adran 'Effeithiau Preswyl' yr adroddiad
yn cyfeirio'n anghywir at 'Rhif 3' ar ddau achlysur. Dylai pob 'Rhif 3' gael ei
ddisodli gan 'Rhif 1' yn y paragraff hwn. Dylai'r canlynol gymryd lle'r rheswm dros wrthod rhif 2; "Byddai'r adeilad arfaethedig, yn rhinwedd ei
leoliad amhriodol a'i raddfa a'i uchder gormodol, yn cael effaith ormesol ac
annerbyniol ar feddianwyr 3 Broadview Lane, ac
effaith ormesol ac annerbyniol ar feddianwyr 1 Broadview
Lane, ar draul yr amodau byw y gallai'r meddianwyr cyfagos hyn ddisgwyl yn
rhesymol i’w mwynhau, yn groes i Bolisi PS2 Cynllun Datblygu Lleol Abertawe
(2019) a Chanllawiau Creu Lleoedd y cyngor ar gyfer Datblygu Mewnlenwi a Thir Cefn (2021). |