Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau
canlynol: Y Cynghorwyr P
Downing a P Lloyd – Eitem 6 (2018/2629/FUL) – Personol. Y Cynghorydd R D
Lewis - Ceisiadau Cynllunio - Eitem 3 (2022/0877/FUL) – Personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod
cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd
a gynhaliwyd ar 5 Ebrill a 24 Mai 2022 a'u llofnodi fel cofnodion cywir. |
|
Eitemau i'w gohirio/tynnu'n ôl. Cofnodion: Dim. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfreithiwr Arweiniol adroddiad a oedd yn ceisio ystyriaeth a ddylid derbyn neu
wrthod y cais a wnaed i'r awdurdod i wneud Gorchymyn Addasu i ychwanegu llwybr
troed sy’n rhedeg o Herbert Thomas Way (y cefnffordd)
i Herbert Thomas Way (y ffordd ddolen) a thrwy hyn ei
gofnodi felly ar Fap Diffiniol Hawliau Tramwy Cyhoeddus y cyngor. Amlinellwyd y sefyllfa gyfreithiol, manylion cefndir a
hanes y mater a manylwyd arnynt yn yr adroddiad gan Swyddogion. Amlinellwyd y rhestr o gyrff yr ymgynghorwyd â hwy
ynglŷn â'r cais a nodwyd yn yr adroddiad, yn ogystal â'r ymatebion a
gafwyd. Penderfynwyd gwrthod y cais ac na ddylid gwneud
Gorchymyn Addasu i ychwanegu llwybr troed fel y gofynnwyd amdano. |
|
Cais cynllunio 2018/2629/FUL Tir oddi ar Coed Bach Road, Pontarddulais, Abertawe. PDF 110 KB Cofnodion: Cyflwynodd y
Rheolwr Datblygu adroddiad a oedd yn amlinellu'r cefndir i ohirio cais
2018/2629/FUL yn y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 5 Ebrill 2022. Dywedodd fod yr
ymgeisydd wedi cyflwyno cynlluniau diwygiedig ers i’r cais gael ei ohirio, ac
er yr aethpwyd i'r afael â rhai o'r rhesymau dros wrthod y cais, roedd nifer o
broblemau nad oeddent wedi’u goresgyn. Mater arall a nodwyd oedd bod Swyddogion
bellach yn ystyried nad yw'r cais ar gyfer mynediad wedi ei weithredu'n
gyfreithiol a bod y caniatâd cynllunio bellach wedi dod i ben. Dywedodd, er mwyn
cynnal trafodaethau pellach gyda'r ymgeisydd, y bydd angen gohirio'r cais a
gwneud penderfyniad yn ei gylch mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
Penderfynu ar geisiadau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd cyfres
o geisiadau cynllunio ar ran Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas. Adroddwyd
am ddiwygiadau/ddiweddariadau i'r atodlen hon a nodir y rhain isod â (#)
(Sylwer: Dosbarthwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad y cyfeirir ato
isod i Aelodau'r Pwyllgor yn ogystal â'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor y diwrnod
cyn y cyfarfod) Penderfynwyd cymeradwyo'r ceisiadau cynllunio
isod yn unol â'r amodau yn yr adroddiad a/neu a nodir isod: #(Eitem 1)
– Cais Cynllunio 2021/1088/FUL - Addasu rhan o siop fanwerthu (Dosbarth A1) yn
siop cludfwyd poeth ategol (Dosbarth A3 yn Cks Supermarket, 39 Swansea Road,
Waunarlwydd, Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Anerchodd Hazel
Webb (gwrthwynebydd) y Pwyllgor. Anerchodd y
Cynghorydd Wendy Lewis (Aelod Lleol) y Pwyllgor a siaradodd yn erbyn y cais. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Mae camgymeriad ar dudalen 25 yr adroddiad. Pan gyflwynwyd
y cais, roedd y safle yn Ward y Cocyd, ond mae
bellach yn Ward Waunarlwydd, yn dilyn newidiadau diweddar i ffiniau'r Wardiau a
gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mai 2022. Derbyniwyd un llythyr gwrthwynebu hwyr mewn ymateb i'r
cais a oedd yn gwneud y pwyntiau canlynol: - Mae defnydd A3
yn caniatáu’r opsiwn i fwyta bwyd ar y safle ac oddi arno – ydy'r defnydd hwn
ar gyfer siop gludfwyd yn unig neu a ellir ei newid? - Am faint o
amser y bydd cyfyngiad oriau agor ar waith ac a ellir ei newid? - Mae gan y siop
broblemau parcio yn barod gyda lorïau'n rhwystro'r heol. - Mae'r uned cludfwyd poeth hen sefydledig yn gownter di-griw – nid yw
hyn yr un peth â siop gludfwyd. Mewn ymateb, gallai'r defnydd A3 ganiatáu i bobl
eistedd dan do ond mae'r lle'n gyfyngedig a byddai hyn yn cael llai o effaith
na siop gludfwyd ym mhob achos. Byddai angen
diwygio'n ffurfiol unrhyw oriau agor a sicrhawyd dan amod trwy gais cynllunio
dilynol. Mae sylwadau ar gyflawni eisoes wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ynghyd
ag asesiad o'r defnydd ei hun. #Eitem 2) –
Cais Cynllunio 2021/1048/FUL - Adeiladu bwyty â chyfleuster gyrru drwodd,
ynghyd â lleoedd parcio, a gwaith tirlunio yn Tesco Extra,
Parc Fforestfach, Cadle,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. Diweddarwyd yr
adroddiad fel a ganlyn: Mae camgymeriad yn Amod
13, ar dudalen 49 yr adroddiad, o ran y gair 'Datblygiad', dylid ei ddileu a
rhoi 'Cyflawni' yn ei le. Felly dylai Amod 13 ddarllen: 'Rhaid ymgymryd â'r
datblygiad arfaethedig yn unol â'r Cynllun Rheoli Cyflawni Diwygiedig cymeradwy
a dderbyniwyd ar 13 Ebrill 2022 a dylid ei weithredu a'i ddilyn bob amser oni
bai y cytunir yn wahanol gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol' Rheswm: Lleihau'r
tebygolrwydd o rwystro'r briffordd, peri perygl i ddefnyddwyr y ffordd,
gwarchod iechyd cyhoeddus ac amwynder lleol, er mwyn sicrhau bod safon foddhaol
o ddatblygu cynaliadwy ac er mwyn sicrhau bod safon dda o ddatblygiad a golwg i
gadw amwynderau a chymeriad pensaernïol yr ardal. Eitem 3) – Cais Cynllunio 2022/0877/FUL - Creu
mynedfa i gerbydau ac estyniad ochr unllawr i annedd
yn 43 Cambridge Road, Langland,
Abertawe Rhoddwyd
cyflwyniad gweledol. |